Cael tystiolaeth o hanes cyflogaeth

Gallwch ofyn i Gyllid a Thollau EF (CThEF) am gofnod o hanes eich cyflogaeth, er enghraifft os ydych:

  • yn hawlio iawndal (er enghraifft am anaf diwydiannol, damwain traffig neu hawliad esgeulustod meddygol)

  • yn gwneud cais am fenthyciad

  • yn adnewyddu fisa gwaith 

Gallwch ddod o hyd i’r wybodaeth hon eich hun neu gael cynghorydd cyfreithiol (yn agor tudalen Saesneg) neu asiant treth (yn agor tudalen Saesneg) i wneud hynny ar eich rhan. 

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Sut i gael hanes eich cyflogaeth  

Gallwch gael cofnod o’r gyflogaeth gyfredol a’r pum mlynedd diwethaf drwy ddefnyddio:

Unwaith y byddwch wedi mewngofnodi, bydd angen i chi lywio i’ch cofnodion Treth Incwm Talu Wrth Ennill (TWE) i gael hanes eich cyflogaeth.

Gwneud cais drwy ddefnyddio ffurflen bapur

Gallwch hefyd lenwi’r ffurflen gais (yn agor tudalen Saesneg)  am gofnod o unrhyw flwyddyn a’i hanfon at CThEF. Mae’r cyfeiriad ar y ffurflen.

Os ydych yn gwneud cais drwy gynghorydd cyfreithiol neu asiant treth, yn gyntaf bydd angen i chi roi caniatâd ysgrifenedig iddynt. Defnyddiwch y ffurflen caniatâd hanes cyflogaeth. Byddant yn cynnwys eich caniatâd gyda’ch cais.

Gwneud cais am hanes cyflogaeth ar ran rhywun sydd wedi marw

Gallwch wneud cais i gael hanes cyflogaeth rhywun sydd wedi marw os oes gennych hawl gyfreithiol i hawlio iawndal ar ran eu hystâd:

Sut i wneud cais

Llenwch y cais am hanes cyflogaeth am ffurflen person ymadawedig a’i hanfon at CThEF. Mae’r cyfeiriad ar y ffurflen.

Os yw cynrychiolydd proffesiynol (er enghraifft cyfreithiwr neu grwner) wedi rhoi’r ffurflen i chi, llenwch hi a’i dychwelyd atynt.

Ar ôl i chi wneud cais

Cysylltwch â’r Gwasanaethau Cwsmeriaid Cymraeg CThEF os nad ydych wedi clywed gan CThEF ar ôl 40 diwrnod.