Trosolwg

Efallai y gallwch gael taliad os ydych wedi derbyn diagnosis gyda’r afiechyd sy’n ymwneud ag asbestos, mesothelioma ymledol.

Mae 2 fath o daliad y gallwch wneud cais amdanynt:

  • taliadau mesothelioma ymledol (‘cynllun 2008’)
  • Cynllun Taliad Mesothelioma Ymledol (DMPS)

Gallwch hawlio DMPS os na allwch ddod o hyd i’r cyflogwr sy’n gyfrifol am eich cyswllt ag asbestos, neu ei yswiriwr.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English)