Cymhwysedd

Cynllun 2008

Gallwch hawlio taliad untro os:

  • nad ydych yn gymwys i daliad o dan Ddeddf Pneumoconiosis 1979
  • nad ydych wedi cael taliad ar gyfer yr afiechyd gan gyflogwr, cais sifil neu rywle arall
  • nad ydych yn gymwys i iawndal gan gynllun Y Weinyddiaeth Amddiffyn

Rhaid eich bod wedi dod mewn i gysylltiad ag asbestos yn y Deyrnas Unedig.

Mae enghreifftiau o gysylltiad yn cynnwys:

  • daethoch mewn i gysylltiad ag asbestos oherwydd perthynas, er enghraifft trwy olchi ei ddillad
  • daethoch mewn i gysylltiad ag asbestos yn yr amgylchedd, er enghraifft roeddech yn byw ger ffatri a oedd yn defnyddio asbestos
  • daethoch mewn i gysylltiad ag asbestos tra’n hunangyflogedig
  • ni ellir nodi eich cysylltiad ag asbestos ond digwyddodd yn y Deyrnas Unedig

Rhaid i chi wneud cais o fewn 12 mis o’ch diagnosis.

Cynllun Taliad Mesothelioma Ymledol (DMPS)

Efallai y gallwch wneud cais os ydy’r canlynol i gyd yn gymwys:

  • cawsoch ddiagnosis o mesothelioma ymledol ar neu ar ôl 25 Gorffennaf 2012
  • achoswyd eich mesothelioma trwy gysylltiad ag asbestos wrth weithio yn y DU
  • nid oes modd i chi olrhain y cyflogwr ble daethoch i gysylltiad agasbestos, neu ei yswiriwr
  • nid ydych wedi gwneud cais sifil yn erbyn unrhyw gyflogwr neu yswiriwr
  • nid ydych wedi cael iawndal neu daliad am mesothelioma yn benodol ac nid ydych yn gymwys am daliad penodol

Efallai y gallwch hefyd wneud cais os oeddech yn ddibynnydd ar ddioddefwr sydd wedi marw.

Gallwch wneud cais am DMPS hyd yn oed os ydych eisoes wedi hawlio dan gynllun 2008 neu o dan ddeddf Pneumoconiosis 1979. Os ydych eisoes wedi cael taliad o gynllun 2008 neu’r Ddeddf Pneumoconiosis, caiff ei ddidynnu o’r swm a gewch gan DMPS.

Efallai y gallwch wneud cais o’r cynllun 2008 hyd yn oed os ydych yn aflwyddiannus yn eich cais DMPS.

Rhaid i geisiadau o dan gynllun DMPS cael ei wneud o fewn 3 blynedd o ddiagnosis.