Taliadau mesothelioma ymledol

Sgipio cynnwys

Taliadau am ddibynyddion

Cynllun 2008

Efallai y gallwch wneud cais os oeddech yn ddibynnydd i ddioddefwr sydd wedi marw. Mae’n rhaid i chi wneud y cais o fewn 12 mis i’w farwolaeth.

Cysylltwch â Llinell Gymorth Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol (IIDB) i ddarganfod os ydych yn gymwys.

Llinell Gymorth IIDB
Rhif ffôn: 0800 279 2322
Relay UK (os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 121 8379
Gwasanaeth ‘video relay’ Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu dabled
Darganfyddwch am gostau galwadau

Cyfraddau

Os ydych yn gymwys, byddwch yn cael un taliad. Bydd y swm yn dibynnu ar oedran y person gyda mesothelioma pan fuont farw. Er enghraifft, os oeddent yn 60 oed pan fuont farw, ac rydych yn gymwys, byddwch yn cael taliad o £24,526.

Oedran a fu farw y person gyda mesothelioma Taliad
37 oed neu iau £62,743
38 oed £61,396
39 oed £60,049
40 oed £58,703
41 oed £57,358
42 oed £56,013
43 oed £54,723
44 oed £53,424
45 oed £52,145
46 oed £50,858
47 oed £49,573
48 oed £47,994
49 oed £46,409
50 oed £44,831
51 oed £43,257
52 oed £41,676
53 oed £40,381
54 oed £39,099
55 oed £37,811
56 oed £36,515
57 oed £35,231
58 oed £31,668
59 oed £28,091
60 oed £24,526
61 oed £20,954
62 oed £17,379
63 oed £16,359
64 oed £15,347
65 oed £14,308
66 oed £13,286
67 oed a throsodd £10,387

Cynllun Taliad Mesothelioma Ymledol (DMPS)

Bydd eich taliad yn dibynnu ar fanylion eich cais. Darllenwch fwy am y symiau talu ar wefan DMPS.