Skip to main content

Archebwch eich prawf gyrru

Archebwch eich prawf gyrru ymarferol ar gyfer:

  • ceir
  • beiciau modur
  • lorïau, bysiau a choetsis
  • profion hyfforddwyr gyrru cymeradwy (ADI) rhan 2 a 3

Mae’r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Pwy sy’n gallu archebu prawf gyrru car

Mae’n rhaid i chi archebu eich prawf gyrru eich hun. Os oes angen i chi ei newid, ei ffeirio neu ei ganslo, bydd angen i chi hefyd wneud hyn eich hun.

Ni chaniateir i’ch hyfforddwr gyrru wneud hyn ar eich rhan.

Mae’n groes i’r gyfraith i archebu prawf gyrru car i rywun arall.

Archebu prawf ar-lein

Byddwch yn cael eich rhoi mewn ciw pan fyddwch yn dechrau archebu’ch prawf gyrru - dywedir wrthych pa mor hir y bydd angen i chi aros cyn gynted â’ch bod yn dechrau. Mae hyn yn gyflymach nac archebu dros y ffôn oherwydd bod y llinellau ffôn yn brysur iawn ar hyn o bryd.

Gallwch archebu prawf hyd at 24 wythnos yn y dyfodol. Nid oes rhestr aros na rhestr ganslo.

Mae’r gwasanaeth hwn ar gael o 6am i 11:40pm.

Dechrau nawr

Cyn i chi ddechrau

Bydd angen eich:

  • rhif trwydded yrru’r DU
  • cerdyn credyd neu ddebyd
  • cyfeirnod personol eich hyfforddwr gyrru os byddwch yn dymuno gwirio ei fod ar gael

Gallwch wirio cost eich prawf gyrru cyn i chi ddechrau.

Mae’n rhaid eich bod wedi byw yn Lloegr, Cymru neu’r Alban am o leiaf 185 o ddiwrnodau yn y 12 mis diwethaf cyn y diwrnod y byddwch yn sefyll eich prawf.

Mae gwasanaeth gwahanol i archebu eich prawf gyrru yng Ngogledd Iwerddon.

Gallwch wirio am apwyntiadau cynharach ar ôl i chi archebu. Mae’r rhain yn cael eu galw weithiau’n ‘apwyntiadau canslo’.

Os ydych yn archebu prawf gyrru car

Archebwch yn y ganolfan brawf rydych yn bwriadu ei defnyddio. Os oes angen newid ble rydych yn sefyll eich prawf, byddwch ond yn gallu ei symud i ganolfan gyfagos.

Archebwch brawf i uwchraddio’ch trwydded

Mae’n rhaid i chi alw’r Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (DVSA) os oes angen ‘prawf uwchraddio’ arnoch, megis awtomatig i gar â llaw, neu lori o faint canolig i lori fawr.

Cymorth archebu prawf gyrru DVSA
Teleffon: 0300 200 1122
Dydd Llun i Ddydd Gwener, 8am i 4pm
Darganfyddwch am gostau galwadau

Pryd nad oes angen prawf theori arnoch

Fel arfer mae’n rhaid eich bod wedi llwyddo yn eich prawf theori cyn archebu.

Nid oes angen prawf theori arnoch i archebu:

  • prawf tractor
  • prawf i uwchraddio o awtomatig i â llaw
  • prawf i symud ymlaen trwy’r categorïau beic modur (mynediad cynyddol)
  • prawf lori a threlar, pan fydd gennych drwydded lori
  • prawf bws a threlar, pan fydd gennych drwydded bws
  • prawf lori, pan fydd gennych drwydded lori ganolig
  • prawf bws, pan fydd gennych drwydded bws mini

Cymorth â’ch archeb

Cymorth i gael mynediad i’r gwasanaeth ar-lein

Darganfyddwch beth i’w wneud os ydych chi’n cael problemau cyrchu’r gwasanaeth ar-lein, er enghraifft:

  • byddwch yn cael neges ‘gwall 15’ ar ôl dewis ‘Cychwyn nawr’
  • nid yw’r gwasanaeth yn llwytho ar ôl dewis ‘Cychwyn nawr’
  • byddwch yn cael neges ‘cyrhaeddiad terfyn chwilio’

Cael cymorth i archebu eich prawf

Cysylltwch â DVSA i gael cymorth i archebu’ch prawf.

Cymorth archebu prawf gyrru DVSA
customerservices@dvsa.gov.uk
Teleffon: 0300 200 1133
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 4pm
Darganfyddwch am gostau galwadau