Archebu eich prawf gyrru theori

Archebwch eich prawf theori gyrru ar gyfer:

  • ceir
  • beiciau modur
  • lorïau, bysiau a choetsis, gan gynnwys y Dystysgrif Cymhwyster Proffesiynol (CPC) rhan 1a ac 1b (theori) a rhan 2 (astudiaethau achos)

Mae’r dudalen hon hefyd ar gael yn y Saesneg (English).

Archebu prawf ar-lein

Bydd angen eich:

  • rhif trwydded yrru’r DU
  • cyfeiriad e-bost
  • cerdyn credyd neu ddebyd

Dechrau nawr

Cyn i chi ddechrau

Mae’n rhaid eich bod wedi byw yn Lloegr, Cymru neu’r Alban am o leiaf 185 o ddiwrnodau yn y 12 mis diwethaf cyn y diwrnod y byddwch yn sefyll eich prawf theori neu yrru.

Mae profion car a beic modur yn costio £23.

Mae profion lori a bws yn costio:

  • rhan 1a (cwestiynau amlddewis) - £26
  • rhan 1b (adnabod peryglon) - £11
  • rhan 2 (astudiaethau achos) - £23

Pan fyddwch yn archebu’ch prawf, dywedwch os oes gennych anhawster darllen, cyflwr iechyd neu anabledd.

Pryd nad oes angen prawf theori arnoch

Nid oes angen i chi gymryd prawf theori cyn i chi archebu prawf gyrru i uwchraddio:

  • trwydded car awtomatig i drwydded car â llaw
  • o gategori A1 (beic modur bach) i gategori A2 (beic modur canolig) os yw’r drwydded wedi bod gennych am o leiaf 2 flynedd
  • o gategori C1 (cerbydau canolig) i gategori C (cerbydau mawr) oni bai i chi gael eich hawl C1 o lwyddo mewn prawf gyrru car
  • o gategori D1 (bws mini) i gategori D (bws)
  • unrhyw drwydded i allu tynnu trelar

Nid oes angen i chi gymryd prawf theori cyn i chi archebu:

  • prawf gyrru tacsi
  • prawf gyrru tractor

Cymorth â’ch archeb

Cysylltwch â’r Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (y DVSA) i gael cymorth i archebu’ch prawf theori.

Ymholiadau prawf theori DVSA
theorycustomerservices@dvsa.gov.uk
Teleffon: 0300 200 1133
Dydd Llun i Ddydd Gwener, 8am i 4pm
Dysgwch ragor am

Mae gwasanaeth gwahanol i archebu’ch prawf theori yng Ngogledd Iwerddon.