Skip to main content

Apelio yn erbyn penderfyniad budd-dal

Sgipio cynnwys

Beth sy'n digwydd yn y gwrandawiad

Cyflwynwch unrhyw dystiolaeth cyn gynted â phosibl cyn y gwrandawiad fel bod gan y tribiwnlys amser i’w darllen. Fel arfer, bydd tystiolaeth yn cael ei rhannu gyda’r holl bartïon, gan gynnwys eich cynrychiolydd (os ydych yn defnyddio un).

Bydd barnwr ac un neu ddau o arbenigwyr yn gwneud penderfyniad am yr achos. Mae pwy yw’r arbenigwyr yn dibynnu ar ba fudd-dal rydych yn apelio yn ei erbyn. Mae’r barnwr a’r arbenigwyr yn ddiduedd ac yn annibynnol ar y llywodraeth.

Mae’n rhaid i’r tribiwnlys ddilyn y rheolau yn Rheolau Trefniadaeth Tribiwnlys (Tribiwnlys Haen Gyntaf) (Siambr Hawliau Cymdeithasol) 2008.

Os ydych yn mynychu’r gwrandawiad

Bydd cyfle i chi egluro’ch apêl.

Bydd y barnwr neu’r arbenigwyr yn gofyn cwestiynau i chi am eich cyflwr neu’ch amgylchiadau.

Efallai y bydd yr adran a wnaeth y penderfyniad gwreiddiol hefyd yn y gwrandawiad. Efallai y byddant yn gofyn cwestiynau, ond nid ydynt yn rhan o’r tribiwnlys ac nid ydynt yn penderfynu canlyniad yr apêl.

Os ydych chi neu eich cynrychiolydd y tu allan i’r DU ac eisiau rhoi tystiolaeth trwy gyswllt fideo neu sain byw, cysylltwch â’r tribiwnlys i wneud cais am hyn. Dywedwch wrth y tribiwnlys ym mha wlad ydych chi neu’ch cynrychiolydd a pha fath o dystiolaeth sy’n cael ei rhoi. Mae’n rhaid i chi wneud hyn cyn gynted â phosibl.

Gallwch gael cymorth yn ystod y gwrandawiad, er enghraifft cyfieithydd, dolen clyw neu ystafell dribiwnlys hygyrch. Gallwch ofyn am gymorth pan fyddwch yn apelio.

Ni allwch ddefnyddio’ch cyfieithydd eich hun yn ystod y gwrandawiad.

Hawlio costau

Efallai y gallwch hawlio am gostau rhesymol am fynd i’r tribiwnlys, er enghraifft:

  • costau teithio i dalu am eich tocyn os byddwch yn cyrraedd yno gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus
  • costau teithio o 45c y filltir os ydych yn gyrru, ynghyd â 5c y filltir ar gyfer hyd at 2 deithiwr
  • prydau bwyd - £4.25 os ydych i ffwrdd am fwy na 5 awr, £9.30 am fwy na 10 awr neu £13.55 am fwy na 12 awr
  • colli enillion - £43.10 os ydych i ffwrdd o’r gwaith am hyd at 4 awr neu £83.83 am 4 awr neu fwy
  • costau gofal hyd at yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol, er enghraifft ar gyfer gwarchodwr plant

Bydd y clerc yn eich helpu i lenwi ffurflen hawlio pan ewch i’r gwrandawiad.

Bydd angen i chi ddarparu manylion eich cyfrif banc a chynnwys prawf o’ch costau, er enghraifft:

  • derbynebau
  • llythyr gan eich cyflogwr oherwydd colli enillion

Telir y costau cyn gynted â phosib ar ôl y gwrandawiad.

Gwneud cais am recordiad sain o’r gwrandawiad

 
Gallwch chi neu’ch cynrychiolydd gael recordiad sain o’ch gwrandawiad os cafodd ei gynnal wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu drwy fideo.
 
Mae recordiadau ar gael yn rhad ac am ddim.
 
Gwnewch gais am gopi o’r recordiad sain o fewn 18 mis i ddyddiad y gwrandawiad.
 
Gallwch ddefnyddio’r cyfrif a ddefnyddiwyd gennych i reoli eich apêl ar-lein i wneud cais, os oes gennych un.

Os na allwch wneud cais ar-lein, ysgrifennwch i’r cyfeiriad sydd ar y ddogfen dalen flaen a anfonwyd gyda’ch hysbysiad o benderfyniad. Cofiwch gynnwys cyfeirnod eich apêl.