Ad-dalu gordaliadau Budd-dal Plant
Mae’n bosibl y cewch ormod o Fudd-dal Plant os na fyddwch yn rhoi gwybod am newidiadau yn eich amgylchiadau. Fel arfer, bydd yn rhaid i chi ei dalu’n ôl.
Mae ffordd wahanol o dalu’r Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Os talwyd gormod o Fudd-dal Plant i chi
Bydd y Swyddfa Budd-dal Plant yn ysgrifennu atoch gan roi gwybod i chi am y canlynol:
- rydych wedi cael gordaliad
- beth achosodd y gordaliad
- a oes angen i chi ad-dalu’r arian
- sut i apelio os ydych yn meddwl ei bod yn anghywir
Os ydych yn meddwl eich bod wedi cael gormod o Fudd-dal Plant, cysylltwch â’r Swyddfa Budd-dal Plant ar unwaith – peidiwch ag aros i’r Swyddfa Budd-dal Plant ysgrifennu atoch.
Gallech gael eich erlyn am dwyll budd-daliadau os ydych yn gwybod eich bod wedi cael gordaliad ac nad ydych yn gwneud dim byd amdano. Gallech gael dirwy neu gallech fynd i’r carchar os cewch eich dyfarnu’n euog.
Ad-dalu gordaliadau
Fel arfer, bydd yn rhaid i chi ad-dalu gordaliad ar ffurf cyfandaliad.
Bydd angen eich cyfeirnod gordaliad Budd-dal Plant arnoch. Gallwch ddod o hyd i’r cyfeirnod ar y llythyr ynghylch gordaliadau a gawsoch gan Gyllid a Thollau EF (CThEF).
Bydd eich cyfeirnod yn 14 cymeriad a bydd yn dechrau gydag Y, er enghraifft YA123456789123.
Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein i wneud y canlynol:
- cymeradwyo taliad drwy’ch cyfrif bancio ar-lein
- talu â cherdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol
Cymeradwyo taliad drwy’ch cyfrif bancio ar-lein
Gallwch dalu’n uniongyrchol gan ddefnyddio’ch cyfrif bancio ar-lein neu symudol.
Pan fyddwch yn barod i dalu, dechreuwch eich ad-daliad Budd-dal Plant (yn agor tudalen Saesneg). Dewiswch yr opsiwn ‘talu drwy gyfrif banc’. Yna, gofynnir i chi fewngofnodi i’ch cyfrif bancio ar-lein neu symudol i gymeradwyo’ch taliad.
Fel arfer, bydd y taliad yn digwydd ar unwaith, ond weithiau mae’n gallu cymryd hyd at 2 awr i ymddangos yn eich cyfrif banc.
Bydd angen i chi fod â’ch manylion bancio ar-lein wrth law er mwyn talu drwy’r dull hwn.
Talu drwy Ddebyd Uniongyrchol
Cysylltwch â CThEF i sefydlu Debyd Uniongyrchol dros y ffôn. Bydd yn rhaid i chi sefydlu’ch Debyd Uniongyrchol o leiaf 5 diwrnod gwaith cyn bod eich taliad yn ddyledus. Bydd y taliadau yn ymddangos ar eich cyfriflen banc fel ‘HMRC NDDS’.
Talu ar-lein â cherdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol
Bydd ffi na ellir ei had-dalu yn cael ei chodi os talwch â cherdyn credyd corfforaethol neu gerdyn debyd corfforaethol.
Nid oes ffi os talwch â cherdyn debyd personol.
Ni allwch dalu â cherdyn credyd personol.
Bydd CThEF yn derbyn eich taliad ar y dyddiad y gwnewch y taliad (hyd yn oed ar wyliau banc a phenwythnosau) – nid y dyddiad y mae’n cyrraedd cyfrif CThEF.
Talu drwy drosglwyddiad banc
Gallwch wneud trosglwyddiad banc gan ddefnyddio Taliadau Cyflymach, CHAPS (System Dalu Awtomataidd y Tŷ Clirio) neu Bacs (System Glirio Awtomataidd y Bancwyr):
- drwy’ch cyfrif bancio ar-lein
- drwy ffonio’ch banc
Fel arfer, bydd taliadau a wneir gan ddefnyddio Taliadau Cyflymach (bancio ar-lein neu dros y ffôn) yn cyrraedd CThEF ar yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf, gan gynnwys ar benwythnosau a gwyliau banc.
Fel arfer, bydd taliadau CHAPS yn cyrraedd CThEF ar yr un diwrnod gwaith os byddwch yn talu o fewn amserau prosesu’ch banc.
Fel arfer, bydd taliadau Bacs yn cymryd 3 diwrnod gwaith.
Gwiriwch amserau prosesu’ch banc, a’i derfynau o ran trafodion mwyaf, cyn i chi dalu.
Bydd angen i chi roi’ch cyfeirnod gordaliad Budd-dal Plant fel y cyfeirnod.
Defnyddiwch y manylion banc canlynol i dalu CThEF:
- cod didoli: 08 32 30
- rhif y cyfrif: 11963279
- enw’r cyfrif: HMRC Child Benefit Remittance
Talu o gyfrif banc tramor
Gallwch wneud trosglwyddiad o’ch cyfrif banc tramor drwy ddefnyddio CHAPS.
Defnyddiwch y manylion banc canlynol i dalu CThEF o gyfrif banc tramor:
- Cod Adnabod y Busnes (BIC): BARCGB22
- rhif y cyfrif (IBAN): GB54 BARC 2026 4853 8367 97
- enw’r cyfrif: HMRC Child Benefit Remittance
Barclays Bank PLC
1 Churchill Place
London
United Kingdom
E14 5HP
Os na allwch dalu ar-lein, neu os oes angen amser arnoch i dalu
Cysylltwch â CThEF:
- os na allwch ddod o hyd i’ch cyfeirnod gordaliad Budd-dal Plant
- os hoffech sefydlu Debyd Uniongyrchol neu os hoffech wneud taliad â cherdyn dros y ffôn
- os oes angen cyngor pellach arnoch o ran sut i dalu, neu os oes angen rhagor o amser arnoch i dalu
CThEF
Ffôn: 0300 200 1900
O dramor: +44 300 200 1900
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8.30am i 5pm
Dysgwch am gostau galwadau