Canllawiau

Carchar Brynbuga

Mae Brynbuga yn garchar i ddynion yn nhref Brynbuga, De Cymru. Mae’n cael ei reoli ar y cyd â Charchar Prescoed.

Helpwch ni i wella’r dudalen hon. Rhowch eich adborth i ni yn yr arolwg 2 funud hwn.

Bwcio a chynllunio eich ymweliad â Brynbuga

I ymweld â rhywun ym Mrynbuga, rhaid i chi:

  • fod ar restr ymwelwyr y person hwnnw
  • archebu eich ymweliad ymlaen llaw
  • bod â’r dogfennau adnabod gofynnol gyda chi pan fyddwch yn ymweld

Rhaid i o leiaf un ymwelydd fod yn 18 oed neu’n hŷn ar bob ymweliad.

Efallai y bydd cyfyngiadau ar nifer yr ymweliadau y gall carcharor eu cael. Gallwch wirio hyn gyda Brynbuga.

Cysylltwch â Brynbuga os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am ymweld.

Help gyda chost eich ymweliad

Os ydych yn cael budd-daliadau penodol neu os oes gennych dystysgrif iechyd y GIG, efallai y gallwch gael cymorth gyda chostau eich ymweliad, gan gynnwys:

  • teithio i Frynbuga
  • rhywle i aros dros nos
  • prydau bwyd

Sut i drefnu ymweliadau teulu a ffrindiau

Gallwch drefnu eich ymweliad ar-lein neu dros y ffôn.

Llinell archebu dros y ffôn: 01291 673 730

Mae’r llinell archebu ar agor: Dydd Llun, dydd Mawrth, dydd Iau a dydd Gwener, rhwng 5pm a 7pm
Gwybodaeth am gost galwadau

Amseroedd ymweld:

  • Dydd Mawrth: 2pm i 4pm.
  • Dydd Mercher: 2pm i 4pm a 5pm i 7pm
  • Dydd Iau: 2pm i 4pm.
  • Dydd Gwener: 2pm i 4pm.
  • Dydd Sadwrn: 2pm i 4pm.
  • Dydd Sul: 2pm i 4pm.

Sut i drefnu ymweliadau cyfreithiol a phroffesiynol

Trefnu ymweliadau cyfreithiol dros y ffôn.

Llinell archebu:
01291 671 730
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 11am a 2pm i 4pm
Gwybodaeth am gost galwadau

Amseroedd ymweld:

  • Dydd Mawrth a dydd Mercher: 9am tan ganol dydd

Cyrraedd Brynbuga

Dod o hyd i Frynbuga ar fap

Casnewydd yw’r orsaf drenau agosaf. O’r fan honno gallwch gael tacsi neu fynd ar y bws yn syth i dref Brynbuga.

I gynllunio eich taith ar drafnidiaeth gyhoeddus:

Mae maes parcio rhad ac am ddim i ymwelwyr.

Mae maes parcio i ymwelwyr anabl y tu allan i’r carchar hefyd.

Mynd i mewn i Frynbuga

Rhaid i bob ymwelydd, sy’n 16 oed neu’n hŷn, brofi pwy ydyw cyn mynd i’r carchar. Darllenwch y rhestr o fathau derbyniol o ddogfennau adnabod wrth ymweld â charchar.

Bydd angen i bob ymwelydd gael chwiliad ‘patio i lawr’, gan gynnwys plant. Efallai y cewch eich arogli gan gŵn diogelwch hefyd.

Rhaid i ymwelwyr gadw at god gwisg y carchar sy’n berthnasol, a gellir gofyn am ragor o fanylion ar eich ymweliad cyntaf.

Mae rheolaethau llym ar yr hyn y gallwch ddod i mewn i Frynbuga. Bydd yn rhaid i chi adael y rhan fwyaf o’r pethau sydd gennych gyda chi mewn locer neu gyda swyddogion diogelwch. Mae hyn yn cynnwys pramiau a seddi ceir.

Bydd swyddog yn dweud wrthych beth yw’r rheolau ar ddechrau eich ymweliad. Os byddwch yn torri’r rheolau, gallai eich ymweliad gael ei ganslo a gallech gael eich gwahardd rhag ymweld eto.

Ffoniwch y llinell archebu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am ymweld.

Cyfleusterau ymweld

Nid oes canolfan ymwelwyr ym Mrynbuga.

Diwrnodau teulu

Mae Brynbuga yn cynnal ymweliadau teulu ychwanegol. Mae manylion am yr ymweliadau hyn ar gael drwy anfon e-bost at:  Resettlement.usk@justice.gov.uk.

Cadw mewn cysylltiad â rhywun ym Mrynbuga

Mae sawl ffordd y gallwch gadw mewn cysylltiad â rhywun yn ystod eu hamser ym Mrynbuga.

Galwadau fideo diogel

I gael galwad fideo ddiogel gyda rhywun yn y carchar hwn, mae angen i chi wneud y canlynol:

  • Lawrlwytho ap Prison Video
  • Creu cyfrif
  • Cofrestru pob ymwelydd
  • Ychwanegu’r carcharor at eich rhestr cysylltiadau.

Sut i drefnu galwad fideo ddiogel

Gallwch ofyn am alwad fideo ddiogel gyda rhywun yn y carchar hwn drwy ap Prison Video.

Byddwch yn cael hysbysiad pan fydd eich cais wedi cael ei dderbyn.

Rhagor o wybodaeth am sut mae’n gweithio

Galwadau ffôn

Nid oes gan garcharorion ffonau yn eu celloedd, felly bydd yn rhaid iddynt eich ffonio chi bob amser. Rhaid iddynt brynu credydau ffôn i wneud hyn.

Gallant ffonio unrhyw un a enwir ar eu rhestr o ffrindiau a theulu yn ystod oriau ffonio, sef rhwng 8am a 7pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac 8am a 4:45pm ar benwythnosau. Mae’r rhestr hon wedi’i chymeradwyo gan y tîm diogelwch a rhaid i unrhyw enwau newydd gael eu gwirio a’u clirio cyn eu hychwanegu.

Gallwch hefyd gyfnewid negeseuon llais gan ddefnyddio gwasanaeth negeseuon llais y carchar.

Gall swyddogion wrando ar alwadau ffôn fel ffordd o atal troseddu a helpu i gadw pobl yn ddiogel.

E-bost

Gallwch anfon negeseuon e-bost at rywun ym Mrynbuga drwy ddefnyddio’r gwasanaeth E-bostio Carcharor.

Efallai y byddwch hefyd yn gallu atodi lluniau a derbyn ymatebion gan y carcharor, yn dibynnu ar y rheolau ym Mrynbuga.

Llythyrau

Gallwch ysgrifennu ar unrhyw adeg.

Dylech gynnwys enw a rhif y carcharor ar yr amlen.

Os nad ydych chi’n gwybod eu rhif carcharor, cysylltwch â Brynbuga.

Bydd pob llythyr yn y post, ar wahân i lythyrau cyfreithiol, yn cael eu hagor a’i gwirio gan swyddogion.

Anfon arian a rhoddion

Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein cyflym ac am ddim i anfon arian at rywun yn y carchar.

Gallwch hefyd anfon archebion post a sieciau. Dylid gwneud y rhain yn daladwy i ‘NOMS Agency’ a chynnwys enw a rhif y carcharor ar y cefn.

Rhoddion a pharseli

Mae carcharorion ym Mrynbuga yn cael rhestr o gyfleusterau sy’n rhoi manylion eitemau y gellir eu hanfon atynt drwy’r post. Cysylltwch â Brynbuga i gael rhagor o wybodaeth am yr hyn sy’n cael ei ganiatáu.

Cofiwch gynnwys enw a rhif y carcharor ar y parsel.

Bydd pob parsel yn cael ei agor a’i wirio gan swyddogion.

Bywyd ym Mrynbuga

Mae Brynbuga wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd diogel ac addysgol lle gall carcharorion ddysgu sgiliau newydd i’w helpu ar ôl cael eu rhyddhau.

Diogelwch a diogelu

Mae gan bob carcharor ym Mrynbuga hawl i deimlo’n ddiogel. Mae’r staff yn gyfrifol am eu diogelwch a’u lles bob amser.

I gael rhagor o wybodaeth am beth i’w wneud pan fyddwch chi’n poeni neu’n pryderu am rywun yn y carchar, ewch i wefan llinell gymorth Teuluoedd Carcharorion.

Cyrraedd a’r noson gyntaf

Pan fydd rhywun yn cyrraedd Brynbuga am y tro cyntaf, bydd yn gallu cysylltu ag aelod o’r teulu dros y ffôn. Gallai hyn fod yn eithaf hwyr gyda’r nos, yn dibynnu ar yr amser maen nhw’n cyrraedd.

Byddan nhw’n cael siarad â rhywun a fydd yn gweld sut maen nhw’n teimlo ac yn gofyn am unrhyw anghenion iechyd a llesiant sydd ganddyn nhw bryd hynny.

Cynefino

Bydd pawb sy’n cyrraedd Brynbuga yn cael sesiwn gynefino sy’n para tua wythnos. Byddant yn cwrdd â gweithwyr proffesiynol a fydd yn eu helpu gyda’r canlynol:

  • iechyd a lles, gan gynnwys iechyd meddwl a rhywiol
  • unrhyw broblemau camddefnyddio sylweddau, gan gynnwys cyffuriau ac alcohol
  • datblygiad personol yn y ddalfa ac ar ôl rhyddhau, gan gynnwys sgiliau, addysg a hyfforddiant
  • mathau eraill o gymorth (a elwir weithiau’n ‘ymyriadau’), fel rheoli emosiynau anodd

Mae pawb hefyd yn cael gwybod am y rheolau, diogelwch tân, a sut mae pethau fel galwadau ac ymweliadau yn gweithio.

Llety

Mae tua 280 o garcharorion yn byw ym Mrynbuga. Mae’r rhan fwyaf yn byw mewn celloedd a rennir ar draws y 3 prif adain, o’r enw A, B a C. Gall carcharorion ar y lefel ymddygiad ‘uwch’ wneud cais i fyw yn yr Uned Comber, sy’n uned ddortur ar wahân. Mae setiau teledu ym mhob cell.

Mae cyfleusterau campfa dan do ac awyr agored sy’n cynnig amrywiaeth o weithgareddau i garcharorion o bob gallu corfforol.

Mae gan Frynbuga dîm caplaniaeth aml-ffydd amrywiol sy’n darparu cymorth i garcharorion.

Addysg a gwaith

Mae gan garcharorion fynediad at raglen eang o gyfleoedd dysgu, yn amrywio o sgiliau sylfaenol, fel llythrennedd, rhifedd sgiliau cyfrifiadurol a chyflogadwyedd, i ddysgu a chymwysterau uwch. Mae’r rhaglen hefyd yn cynnwys hyfforddiant mewn amrywiaeth o grefftau a phroffesiynau, yn cynnwys:

  • iechyd a diogelwch
  • diogelwch bwyd
  • llesiant
  • astudiaethau busnes
  • crefft trin coed
  • gosod brics

Mae gwaith ar gael drwy’r carchar ac yn y gweithdai diwydiannol.

Mae Brynbuga hefyd yn rhedeg nifer o gyrsiau raglenni ymddygiad troseddol achrededig.

Cefnogaeth i deulu a ffrindiau

Gwybodaeth am gyngor a llinellau cymorth ar gyfer teulu a ffrindiau.

I gysylltu â’n pennaeth darpariaeth i deuluoedd ym Mrynbuga, anfonwch e-bost at: resettlement.usk@justice.co.uk.

Cefnogaeth ym Mrynbuga

Darperir gwasanaethau teulu ym Mrynbuga gan G4S.

Pryderon, problemau a chwynion

Mewn argyfwng

Ffoniwch 01291 671731 os oes gennych bryder brys am les carcharor a gofynnwch am y swyddog negesau neu’r llywodraethwr ar ddyletswydd.

Llinell gymorth dalfa mwy diogel

Os oes gennych bryderon am ddiogelwch neu les carcharor ym Mrynbuga nad ydynt yn bryderon uniongyrchol, ffoniwch y llinell gymorth dalfa mwy diogel.

Ffôn: 0808 808 2003
Peiriant ateb 24 awr
Gwybodaeth am gostau galwadau

Gadewch neges sy’n rhoi cymaint o fanylion â phosibl gan gynnwys enw’r carcharor, rhif y carcharor a’r adain mae wedi’i lleoli arni os ydych chi’n gwybod hynny. Os ydych chi’n dymuno, gallwch adael eich manylion a’ch rhif cyswllt eich hun er mwyn i’r carchar allu rhoi adborth i chi, os yw hynny’n briodol.

Gallwch hefyd ddarllen mwy o wybodaeth am bryderon am garcharu mwy diogel ar wefan Teuluoedd Carcharorion.

Problemau a chwynion

Os oes gennych chi broblem, cysylltwch â Brynbuga. Os na allwch ddatrys y broblem yn uniongyrchol, gallwch wneud cwyn i Wasanaeth Carchardai a Phrawf EF.

Mae Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF yn cyhoeddi cynlluniau gweithredu ar gyfer Brynbuga mewn ymateb i arolygiadau annibynnol.

Cysylltu â Brynbuga

Llywodraethwr: Rob Denman

Ffôn (24 awr): 01291 671 600
Ffacs: 01291 671 752
Gwybodaeth am gost galwadau

Cyfeiriad

Carchar EF Brynbuga
47 Maryport Street
Brynbuga
Sir Fynwy
NP15 1XP

Gweler y map

Helpwch ni i wella’r dudalen hon. Rhowch eich adborth i ni yn yr arolwg 2 funud hwn.

Cyhoeddwyd ar 24 March 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 14 November 2023 + show all updates
  1. Added translation

  2. Updated emergency contact number to 01291 671731

  3. Updated visiting guidance based on 1 April COVID rule changes

  4. Added link to new safer custody information under Security and safeguarding.

  5. Updated visiting information: Testing for visitors aged 12 and over.

  6. Added link to information about testing for physical contact at visits.

  7. New visiting times and booking information added.

  8. Updated visiting information in line with coronavirus restrictions.

  9. Updated visiting information.

  10. Updated visiting information in line with coronavirus restrictions. 

  11. Updated visiting information in line with coronavirus restrictions.

  12. Updated: HMP Usk visiting times and visiting procedure changes during coronavirus.

  13. Added confirmation of secure video calls being made available at this prison.

  14. added survey link

  15. COVID19 Update

  16. First published.