Canllawiau

Apelio yn erbyn penderfyniad y llys mewn achosion sifil a theulu (EX340)

Diweddarwyd 30 April 2024

Ynglŷn â’r canllaw hwn

Bydd y canllaw hwn yn helpu chi os ydych eisiau apelio yn erbyn penderfyniad y llys mewn apeliadau sifil a theulu. Bydd yn dweud wrthych:

  • beth i’w ystyried cyn ichi apelio
  • beth sydd ei angen arnoch i apelio
  • beth i’w ddisgwyl gan y broses apelio

Mae rhagor o wybodaeth am apelio yn nodiadau canllaw ffurflenni hysbysiad apelydd:

  1. Hysbysiad Apelydd ar gyfer pob apêl ac eithrio apeliadau ar y trac hawliadau bychain neu apeliadau i Adran Deulu’r Uchel Lys (N161)
  2. Apelio yn erbyn gorchymyn mewn achos a neilltuwyd i’r trac hawliadau bychain (N164)
  3. Hysbysiad apelydd ar gyfer apeliadau i Adran Deulu’r Uchel Lys

Canllaw yn unig yw hwn, efallai y byddwch eisiau ceisio cyngor cyfreithiol annibynnol cyn gwneud unrhyw benderfyniad sy’n seiliedig ar y canllaw hwn. Os oes arnoch angen y canllaw hwn mewn fformat arall, er enghraifft mewn print bras, cysylltwch â’ch llys lleol.

Termau a ddefnyddir yn y canllaw hwn

  • llys is – y llys lle gwnaed penderfyniad ynghylch eich cais
  • llys apêl – y llys rydych yn apelio iddo
  • apelydd – yr unigolyn sydd eisiau apelio
  • Atebydd – y parti (unigolyn) arall neu bartïon eraill yn yr achos

Pryd allwch chi apelio yn erbyn canlyniad achos

Ni allwch apelio yn erbyn penderfyniad llys is dim ond am eich bod yn credu na ‘chafodd y barnwr bethau’n iawn’. Gallwch ond apelio os oes gennych seiliau cyfreithiol priodol - er enghraifft, os gallwch ddangos bod y penderfyniad yn anghywir o ganlyniad i gamgymeriad difrifol, neu oherwydd na chafodd y weithdrefn ei dilyn yn iawn.

Os oes gennych unrhyw amheuaeth ynghylch eich seiliau dros apelio, dylech geisio cyngor gan gynrychiolydd cyfreithiol, canolfan y gyfraith neu asiantaeth gynghori.

Cyn i chi apelio

Gall apelio fod yn broses gostus a hir. Dyma rai o’r pethau y mae angen ichi eu hystyried cyn cychwyn.

Efallai y bydd angen ichi gael caniatâd i apelio

Gan amlaf, bydd rhaid ichi ofyn am ganiatâd barnwr i apelio (oni bai eich bod eisoes wedi cael caniatâd yn eich gwrandawiad). Dim ond os bydd y barnwr yn credu bod gwir obaith i’r apêl lwyddo y bydd yn caniatáu ichi apelio, neu, bod yna reswm dilys arall i wrando’r apêl.

Dylech weithredu’n gyflym

Unwaith y bydd y llys wedi gwneud ei benderfyniad, dim ond cyfnod penodol o amser fydd gennych i apelio.

Rhaid ichi ffeilio eich hysbysiad apelydd:

  • o fewn y terfyn amser a bennwyd gan y barnwr yr ydych chi’n apelio yn erbyn ei (g)orchymyn
  • mewn achos teulu pan na fydd y barnwr wedi pennu cyfyngiad amser ond bod yr apêl yn erbyn penderfyniad rheoli achos neu orchymyn gofal interim o dan Adran 38 (1) Deddf Plant 1989, o fewn 7 diwrnod o’r dyddiad gwnaethpwyd y penderfyniad
  • Yn y Llys Apêl, o fewn 21 diwrnod o’r dyddiad bu i’r llys wneud y penderfyniad - fodd bynnag, mae eithriadau, sydd wedi’u pennu yn Apelio i’r Llys Apêl: terfynau amser
  • os na fydd y barnwr wedi pennu terfyn amser, o fewn 21 diwrnod i’r penderfyniad yr ydych eisiau apelio yn ei erbyn gael ei wneud

Efallai y bydd angen ichi gael cyngor cyfreithiol

Ni all staff y llys roi cyngor cyfreithiol i chi, er enghraifft p’un a ddylech chi apelio, neu p’un a fydd eich apêl yn llwyddiannus ai peidio. Mae llwyddiant eich apêl yn debygol o ddibynnu ar bwyntiau cyfreithiol a gweithdrefnol manwl, felly fe’ch cynghorir yn gryf i gael cyngor gan gynrychiolydd cyfreithiol.

Gallwch hefyd gael gwybodaeth a chyngor cyfreithiol am ddim gan ganolfan y gyfraith neu ganolfan Cyngor ar Bopeth. Gweler Cael cymorth ac arweiniad i gael mwy o wybodaeth a manylion cyswllt.

Efallai y bydd yn rhaid ichi dalu ffi

Fel arfer, bydd rhaid ichi dalu ffi llys pan fyddwch yn gwneud apêl. Fe gewch fanylion am ffioedd llys yma:

Efallai na fydd rhaid i chi dalu ffi, neu efallai cewch ostyngiad os nad oes gennych lawer o gynilon a buddsoddiadau, os ydych yn cael budd-daliadau penodol neu os ydych ar incwm isel. Weithiau gelwir hyn yn ‘dileu ffi’.

Gallwch wneud cais am help i dalu ffioedd llysoedd a thribiwnlysoedd ar-lein neu drwy ddefnyddio’r ffurflen Help i Dalu Ffioedd (EX160).

Mae’n bosib y dyfernir costau yn eich erbyn

Os byddwch yn colli eich apêl, mae’n bosib y dywedir wrthych am dalu costau’r unigolyn arall, gan gynnwys costau eu cynrychiolydd cyfreithiol, os oes ganddynt un.

Pan fyddwch angen caniatâd i apelio

Ni fydd angen caniatâd arnoch os ydych yn apelio:

  • penderfyniad ynad lleyg yn y llys teulu
  • gorchymyn traddodi
  • gwrthodiad i gymeradwyo habeas corpus (gorchymyn sy’n datgan bod unigolyn yn y carchar yn gorfod cael ei ddyfarnu gan lys cyn iddo/iddi gael ei (g)orfodi gan y gyfraith i aros yn y carchar)
  • gorchymyn llety diogel a wnaed dan adran 25 Deddf Plant 1989 neu adran 119 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Ym mhob achos arall, bydd arnoch angen gofyn am ganiatâd i apelio:

  • os na wnaethoch ofyn am ganiatâd yn ystod eich gwrandawiad
  • os gwnaethoch ofyn am ganiatâd yn ystod eich gwrandawiad ond gwrthodwyd eich cais

Yn y ddau achos, mae’n rhaid i chi gael caniatâd gan y llys apêl.

Hawliadau Bychain

Os na wnaethoch roi rhybudd i’r llys na fyddech yn mynychu’r gwrandawiad, gallwch wneud cais i roi’r dyfarniad o’r neilltu.

Os bu ichi roi rhybudd i’r llys na fyddwch yn mynychu’r gwrandawiad ac nid ydych yn cytuno â’r penderfyniad a wnaed gan y llys yn eich absenoldeb, bydd rhaid i chi apelio. Rhaid i chi wneud cais am ganiatâd gan y llys apêl.

Sut i wneud cais am ganiatâd i apelio

Os nad ydych wedi cael caniatâd i apelio gan y llys is, mae’n rhaid ichi wneud eich cais am ganiatâd i apelio yn yr hysbysiad apelydd. Gallwch wneud y cais am ganiatâd i apelio a chyflwyno’r apêl ar yr un pryd, gan ddefnyddio’r un ffurflen. Yr hysbysiad apelydd fydd naill ai ffurflen N161, N164 neu FP161 a bydd yn dibynnu ar y math o achos ac i ba lys yr ydych yn gwneud eich apêl.

Mae yna nodiadau canllaw wedi’u paratoi ar gyfer pob ffurflen, a dylech eu darllen yn ofalus cyn dechrau. Mae’r nodiadau’n dweud wrthych sut i lenwi’r ffurflen a pha ddogfennau y mae’n rhaid ichi eu darparu gyda’ch cais. Gallwch ddod o hyd i ddolenni i’r ffurflenni a’r canllaw yn yr adran Gwybodaeth am y canllaw hwn.

Os yw caniatâd i apelio eisoes wedi’i roi

Os ydych wedi cael caniatâd ac yn barod i gychwyn eich apêl, rhaid ichi lenwi’r hysbysiad apelydd (ac eithrio’r adrannau ynghylch caniatâd) a’i anfon gyda’r ffi briodol i’r llys apêl. Gelwir hyn yn ‘ffeilio apêl’.

Ni allwch gyflwyno tystiolaeth newydd yn eich cais heb ganiatâd y llys apêl. Tystiolaeth newydd yw tystiolaeth na chafodd ei defnyddio yn eich gwrandawiad, neu dystiolaeth sydd wedi dod i’r fei ers hynny.

Pryd i ffeilio’r apêl

Fel rheol, nodir erbyn pryd y bydd rhaid ichi ffeilio’ch apêl ar y gorchymyn a gawsoch yn rhoi caniatâd ichi apelio. Os nad oes dyddiad wedi’i bennu, rhaid ichi ffeilio eich hysbysiad apelydd o fewn 21 diwrnod i’r dyddiad pan gafodd y penderfyniad yn eich achos ei wneud. Mae terfynau amser ar gyfer apelio i’r Llys Apêl.

Os byddwch yn ffeilio hysbysiad apelydd anghyflawn a bod angen ichi ei newid ar ôl ei ffeilio, bydd angen ichi wneud cais i’r llys apêl er mwyn gwneud hyn.

I ba lys y gallwch wneud apêl

Mae hyn yn dibynnu ar y llys a lefel y barnwr a wnaeth y penderfyniad yn eich achos a’r math o orchymyn a wnaeth y barnwr, fel yr eglurir isod.

Achosion sifil

Y rheol gyffredinol yw, bydd apêl yn cael ei wrando gan farnwr ar y lefel nesaf. Er enghraifft:

  • bydd apêl yn erbyn penderfyniad barnwr rhanbarth yn y llys sirol yn cael ei wrando gan farnwr cylchdaith yn y llys sirol.
  • ymdrinnir ag apêl yn erbyn penderfyniad barnwr Uchel Lys gan y Llys Apêl

Achosion sifil, ac eithrio achosion ansolfedd

Llys Sirol

Barnwr sy’n penderfynu Penderfyniad sy’n destun apêl Gwrandewir gan
Barnwr Rhanbarth Unrhyw benderfyniad, ac eithrio achos di-ansolfedd dan y Deddfau Cwmnïau / neu benderfyniad o ddirmyg llys Barnwr Cylchdaith yn y llys sirol
Barnwr Rhanbarth Penderfyniad mewn achos di-ansolfedd dan y Deddfau Cwmnïau Yr Uchel Lys neu’r Llys Apêl
Barnwr Cylchdaith Unrhyw benderfyniad oni bai am achosion dirmyg llys Yr Uchel Lys
Barnwr Cylchdaith Penderfyniad mewn achos dirmyg llys Y Llys Apêl

Yr Uchel Lys

Barnwr sy’n penderfynu Penderfyniad sy’n destun apêl Gwrandewir gan
Meistr, cofrestrydd neu farnwr rhanbarth Unrhyw benderfyniad Yr Uchel Lys
Barnwr Uchel Lys Unrhyw benderfyniad Y Llys Apêl
Llys Adranno Unrhyw benderfyniad oni bai am achosion dirmyg llys Y Llys Apêl
Llys Adrannol Penderfyniad mewn achos dirmyg llys Y Goruchaf Lys

Llys Mentrau Eiddo Deallusol (IPEC)

Barnwr sy’n penderfynu Penderfyniad sy’n destun apêl Gwrandewir gan
Barnwr Rhanbarth Unrhyw benderfyniad Barnwr Mentrau
Barnwr Mentrau Unrhyw benderfyniad Y Llys Apêl

Achosion sifil, achosion ansolfedd

Llys Sirol

Barnwr sy’n penderfynu Penderfyniad sy’n destun apêl Gwrandewir gan
Barnwr Rhanbarth Ansolfedd unigol Barnwr Uchel Lys
Barnwr Rhanbarth Ansolfedd Corfforaethol Barnwr Uchel Lys neu gofrestrydd
Barnwr Cylchdaith Unrhyw benderfyniad Barnwr Uchel Lys

Yr Uchel Lys

Barnwr sy’n penderfynu Penderfyniad sy’n destun apêl Gwrandewir gan
Meistr, cofrestrydd neu farnwr rhanbarth Unrhyw benderfyniad Barnwr Uchel Lys
Barnwr Uchel Lys Unrhyw benderfyniad Y Llys Apêl

Achosion teulu ym Mhrif Gofrestrfa’r Adran Deulu, gan gynnwys achosion dan Ddeddf Etifeddiant (Darpariaeth ar gyfer Teulu a Dibynyddion) 1975 ac achosion dan Ddeddf Ymddiriedau Tir a Phenodiadau Ymddiriedolwyr 1996.

Barnwr sy’n penderfynu Penderfyniad sy’n destun apêl Gwrandewir gan
Barnwr Rhanbarth Unrhyw benderfyniad Barnwr Uchel Lys (Adran Deulu)
Barnwr Uchel Lys (Adran Deulu) Unrhyw benderfyniad Y Llys Apêl

Ble i ffeilio apeliadau teulu

Barnwr Cylchdaith yn eistedd yn y llys teulu

Apelio os:

  • un neu fwy o ynadon lleyg yn eistedd yn y Llys Teulu wnaeth y penderfyniad
  • barnwr ar lefel Barnwr Rhanbarth yn eistedd yn y Llys Teulu wnaeth y penderfyniad

Barnwr Uchel Lys sy’n eistedd yn y Llys Teulu

Apelio os Barnwr Rhanbarth neu Uwch Farnwr Rhanbarth yn yr Adran Deulu yn eistedd yn y Llys Teulu yn gwrando achosion ariannol wnaeth y penderfyniad.

Barnwr Uchel Lys yn eistedd yn yr Uchel Lys

Apelio os mai unrhyw un o’r canlynol yn eistedd yn yr Uchel Lys wnaeth y penderfyniad:

  • barnwr rhanbarth yn yr Uchel Lys
  • dirprwy farnwr rhanbarth
  • uwch farnwr rhanbarth yr Adran Deulu
  • barnwr rhanbarth yr Adran Deulu
  • barnwr costau
  • unigolyn a benodwyd i weithredu fel dirprwy i farnwr costau

Neu apelio os barnwr rhanbarth neu gofiadur yn eistedd yn y llys teulu, oni bai lle bo enghraifft yn yr adran Llys Apêl yn berthnasol - gweler yr adran nesaf.

Y Llys Apêl

Apelio os gwnaed y penderfyniad gan farnwr cylchdaith neu gofiadur sy’n eistedd yn y Llys Teulu pan fydd yr apêl yn deillio o:

  • benderfyniad neu orchymyn mewn achos dan:
    • Rhan 4 neu 5, neu baragraff 19(1) Atodlen 2 i Ddeddf Plant 1989
    • Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002
  • penderfyniad neu orchymyn mewn perthynas ag achos dirmyg llys, lle gwnaethpwyd y penderfyniad neu’r gorchymyn hwnnw mewn, neu mewn cysylltiad â, math o achos a gyfeirir ato yn (a) uchod
  • penderfyniad neu orchymyn a wnaed yn dilyn apêl i’r Llys Teulu (‘ail apêl’)

Neu apelio os gwnaethpwyd y penderfyniad gan:

  • barnwr ar lefel Barnwr Uchel Lys
  • barnwr Uchel Lys sy’n eistedd yn yr Uchel Lys (gan gynnwys unigolyn sy’n gweithredu fel barnwr yn unol ag adran 9(1) neu (4) Deddf Uwchlysoedd 1981)

Barnwr ar lefel Barnwr Uchel Lys

Apelio os Barnwr Costau wnaeth y penderfyniad.

Ail Apeliadau

Rhaid cyflwyno cais am ganiatâd i wneud apêl sy’n deillio o benderfyniad a wnaed yn y Llys Sirol, y Llys Teulu neu’r Uchel Lys a gafodd ei wneud ei hun yn dilyn apêl, i’r Llys Apêl.

Bydd y Llys Apêl dim ond yn rhoi caniatâd i apelio lle bo:

  • gobaith gwirioneddol o lwyddo ac mae’r apêl yn codi pwynt pwysig o egwyddor neu ymarfer
  • rheswm anorfod arall i’r Llys Apêl wrando’r apêl

Beth fydd yn digwydd nesaf

Ar ôl ichi ffeilio hysbysiad apelydd, bydd y llys yn anfon copïau o’r holl ddogfennau rydych wedi’u ffeilio at yr atebydd. Os ydych eisiau anfon copïau at yr atebydd eich hun, rhaid ichi ddweud wrth y llys. Bydd staff y llys yn anfon copïau wedi’u stampio â sêl y llys atoch, a rhaid ichi anfon y rheini at yr atebydd o fewn 7 diwrnod i’r dyddiad pan wnaethoch ffeilio eich hysbysiad apelydd.

Os ydych wedi ffeilio eich hysbysiad apelydd yn y Llys Apêl, rhaid i chi gyflwyno’r hyn a ganlyn ar yr atebydd eich hun o fewn 7 diwrnod o’r dyddiad bu ichi ffeilio’ch hysbysiad apelydd:

  • copi o’r hysbysiad atebydd wedi’i stampio gyda sêl y llys
  • seiliau’r apêl

Bydd beth fydd yn digwydd nesaf yn dibynnu ar a ydych yn ceisio caniatâd i apelio, ac ar ganlyniad unrhyw gais o’r fath.

Wedi cael caniatâd eisoes neu nid oes angen caniatâd

Bydd y llys yn anfon hysbysiad atoch yn dweud wrthych:

  • pa bryd y gwrandewir eich apêl neu yn ystod pa gyfnod (a elwir yn ‘ffenestr restru’) y mae’n debygol o gael ei wrando
  • beth y mae angen ichi ei baratoi ar gyfer gwrandawiad yr apêl (a elwir yn ‘gyfarwyddiadau’)

Wedi gwneud cais am ganiatâd i apelio

Trosglwyddir eich cais i farnwr, a fydd yn ei ystyried. Fel rheol, bydd hyn yn digwydd heb ichi orfod mynd i wrandawiad. Bydd y llys yn anfon gorchymyn atoch yn dweud beth yw penderfyniad y barnwr.

Rhoddwyd caniatâd

Mae’n bosib y cewch ganiatâd llawn i apelio neu ganiatâd gyda chyfyngiadau. Bydd y gorchymyn sy’n rhoi caniatâd ichi yn datgan pa bethau y cewch eu codi yn eich apêl a pha bethau na chewch eu codi.

Gwrthodwyd caniatâd

Os yw’r barnwr wedi ystyried eich caniatâd i apelio cais ar bapur, ac wedi ei wrthod, ac yn credu na ellir cyfiawnhau eich apêl mewn unrhyw ffordd, efallai y bydd yn gorchymyn na allwch ofyn i’w benderfyniad gael ei ailystyried mewn gwrandawiad. Os na fydd y barnwr yn gwneud y gorchymyn hwn, gallwch ofyn iddo/iddi ailystyried y penderfyniad mewn gwrandawiad.

I wneud hyn, mae’n rhaid i chi wneud cais o fewn 7 diwrnod i chi gael yr hysbysiad gwrthod ac mae’n rhaid i chi anfon copi o’ch cais at yr atebydd. Os na fyddwch yn gwneud cais o fewn 7 diwrnod, bydd y penderfyniad gwrthod yn derfynol.

Os caniateir ichi gael gwrandawiad a bod y caniatâd yn cael ei wrthod eto, nid oes modd apelio yn erbyn y penderfyniad hwn.

Os cafodd y cais am ganiatâd ei wrthod gan y Llys Apêl ar bapur, yna ni allwch wneud cais arall.

Ceisiadau eraill

Os oes angen gwrandawiad ar wahân i ymdrin ag unrhyw geisiadau eraill rydych wedi’u gwneud gyda’ch hysbysiad apelydd - er enghraifft, cais am ragor o amser i gasglu’r dogfennau y mae eu hangen arnoch – bydd y llys yn rhoi gwybod ichi am amser a dyddiad y gwrandawiad hwn. Fel arall, bydd y llys yn penderfynu ynghylch y materion hyn ac yn rhoi gwybod ichi am y canlyniad.

Apêl gan yr Atebydd

Efallai y bydd yr atebydd yn anghytuno â phenderfyniad y llys is, neu efallai y bydd eisiau i’r penderfyniad hwnnw gael ei gadarnhau ond am resymau gwahanol i’r rhesymau a roddwyd gan y barnwr. Bydd angen caniatâd i apelio ar yr atebydd, yn union fel y mae angen caniatâd ar yr apelydd. Rhaid iddo/iddi lenwi hysbysiad atebydd, sy’n debyg i’r hysbysiad apelydd, a darparu dogfennau cefnogi, a rhaid iddo/iddi anfon y rheini atoch chi hefyd.

Fel rheol, bydd y llys yn gwrando apêl yr atebydd ar yr un pryd ag y bydd yn gwrando eich apêl chi.

Canolfannau apeliadau a gwrandawiadau

Mae’r tablau canlynol yn nodi’r lleoliadau y mae apêl yn mynd gerbron Barnwr Uchel Lys yn dilyn penderfyniad gan y Llys Sirol neu Farnwr Rhanbarth Uchel Lys.

Cylchdaith Canolbarth Lloegr

Llys Canolfan apeliadau
Canolfan Gyfiawnder Cyfun Birmingham Canolfan Gyfiawnder Cyfun Birmingham
Boston Lincoln
Burton-upon-Trent Nottingham
Chesterfield Nottingham
Coventry Coventry
Derby Nottingham
Dudley Walsall
Henffordd Caerwrangon
Kettering Northampton
Kidderminster Caerwrangon
Caerlŷr Caerlŷr
Lincoln Lincoln
Mansfield Nottingham
Northampton Northampton
Nottingham Nottingham
Nuneaton Coventry
Redditch Caerwrangon
Stafford Stoke-on-Trent
Stoke-on-Trent Stoke-on-Trent
Telford Telford
Walsall Walsall
Warwick Coventry
Wolverhampton Walsall
Caerwrangon Caerwrangon

Cylchdaith Gogledd Ddwyrain Lloegr

Llys Canolfan apeliadau
Barnsley Sheffield
Bradford Bradford
Darlington Teesside
Doncaster Sheffield
Durham Newcastle-upon-Tyne
Gateshead Newcastle-upon-Tyne
Grimsby Kingston-upon-Hull
Halifax Bradford
Harrogate Leeds
Hartlepool Teesside
Huddersfield Bradford
Kingston-upon-Hull Kingston-upon-Hull
Leeds Leeds
Newcastle-upon-Tyne Newcastle-upon-Tyne
North Shields Newcastle-upon-Tyne
Rotherham Sheffield
Scarborough Leeds
Scunthorpe Kingston-upon-Hull
Sheffield Sheffield
Skipton Bradford
South Shields Newcastle-upon-Tyne
Sunderland Newcastle-upon-Tyne
Teesside Teesside
Wakefield Leeds
Efrog Leeds

Cylchdaith Gogledd Orllewin Lloegr

Llys Canolfan apeliadau
Barrow-In-Furness Carlisle
Penbedw Lerpwl
Blackburn Preston
Blackpool Preston
Bolton Canolfan Gyfiawnder Cyfun Manceinion
Burnley Preston
Bury Canolfan Gyfiawnder Cyfun Manceinion
Carlisle Carlisle
Canolfan Gyfiawnder Cyfun Caer Canolfan Gyfiawnder Cyfun Caer
Crewe Canolfan Gyfiawnder Cyfun Caer
Kendal Carlisle
Caerhirfryn Preston
Lerpwl Lerpwl
Canolfan Gyfiawnder Cyfun Manceinion Canolfan Gyfiawnder Cyfun Manceinion
Oldham Canolfan Gyfiawnder Cyfun Manceinion
Preston Preston
St Helens Lerpwl
Stockport Canolfan Gyfiawnder Cyfun Manceinion
Warrington Canolfan Gyfiawnder Cyfun Caer
Gorllewin Cumbria Carlisle
Wigan Lerpwl

Cylchdaith Cymru

Llys Canolfan apeliadau
Aberystwyth Abertawe
Y Coed Duon Canolfan Gyfiawnder Cyfun Caerdydd
Brycheiniog Abertawe
Caernarfon Wrecsam
Caerdydd Canolfan Gyfiawnder Cyfun Caerdydd
Caerfyrddin Abertawe
Conwy a Cholwyn Wrecsam
Hwlffordd Abertawe
Llanelli Abertawe
Llangefni Wrecsam
Merthyr Tudful Canolfan Gyfiawnder Cyfun Caerdydd
Yr Wyddgrug Wrecsam
Casnewydd (Gwent) Canolfan Gyfiawnder Cyfun Caerdydd
Pontypridd Canolfan Gyfiawnder Cyfun Caerdydd
Port Talbot Abertawe
Y Rhyl Wrecsam
Abertawe Abertawe

Cylchdaith De Orllewin Lloegr

Llys Canolfan apeliadau
Aldershot a Farnham Caer-wynt
Barnstaple Barnstaple
Basingstoke Winchester
Caerfaddon Canolfan Gyfiawnder Cyfun Bryste
Bodmin Bodmin
Bournemouth Bournemouth
Bryste Canolfan Gyfiawnder Cyfun Bryste
Cheltenham Canolfan Gyfiawnder Cyfun Bryste
Chippenham Caer-wynt
Caerwysg Caerwysg
Caerloyw Canolfan Gyfiawnder Cyfun Bryste
Newport (Ynys Wyth) Caer-wynt
Plymouth Plymouth
Portsmouth Portsmouth
Salisbury Caer-wynt
Southampton Southampton
Swindon Swindon
Taunton Canolfan Gyfiawnder Cyfun Bryste
Torquay a Newton Abbot Torquay a Newton Abbot
Trowbridge Trowbridge
Truro Truro
Weston-super-Mare Canolfan Gyfiawnder Cyfun Bryste
Weymouth a Dorchester Caer-wynt
Caer-wynt Caer-wynt
Yeovil Bryste

Cylchdaith De Ddwyrain Lloegr

Llys Canolfan apeliadau
Banbury Rhydychen
Barnet Barnet
Basildon Southend
Bedford Luton
Bow Bow
Brentford Brentford
Brighton Brighton
Bromley Bromley
Bury St Edmunds Caergrawnt
Caergrawnt Caergrawnt
Caergaint Caergaint
Canolfan Gyfiawnder Cyfun Canol Llundain Canolfan Gyfiawnder Cyfun Canol Llundain
Chelmsford Southend
Chichester Chichester
Clerkenwell a Shoreditch Clerkenwell a Shoreditch
Colchester Southend
Croydon Croydon
Dartford Dartford
Eastbourne Eastbourne
Edmonton Edmonton
Guildford Guildford
Hastings Hastings
Hertford Luton
High Wycombe Rhydychen
Horsham Horsham
Hove Hove
Ipswich Norwich
Kingston-upon-Thames Kingston-upon-Thames
King’s Lynn Norwich
Lambeth Lambeth
Lewes Lewes
Luton Luton
Maidstone Maidstone
Mayor’s and City Mayor’s and City
Medway Medway
Milton Keynes Rhydychen
Norwich Norwich
Rhydychen Rhydychen
Peterborough Caergrawnt
Reading Rhydychen
Reigate Reigate
Romford Romford
Slough Rhydychen
Southend Southend
St Albans Luton
Staines Staines
Thanet Thanet
Tunbridge Wells Tunbridge Wells
Uxbridge Uxbridge
Wandsworth Wandsworth
Watford Watford
Willesden Willesden
Woolwich Woolwich
Worthing Worthing

Cael cymorth ac arweiniad

Dod o hyd i lys neu dribiwnlys

Mwy o wybodaeth am ddatrys anghydfodau cyfreithiol

Gallwch hefyd gael cyngor cyfreithiol am ddim gan un o ganolfannau’r gyfraith neu gan ganolfan Cyngor ar Bopeth.

Rhwydweithiau Canolfannau’r Gyfraith

Corff aelodaeth ar gyfer Canolfannau’r Gyfraith. Mae gwefan y rhwydwaith yn darparu manylion am sut i gysylltu â chanolfannau’r gyfraith lleol. Mae Canolfannau’r Gyfraith Lleol yn darparu cyngor wyneb yn wyneb rhad ac am ddim i bobl leol nad yw’n gallu fforddio talu am gyfreithiwr. Mae rhai ohonynt hefyd yn darparu cyngor dros y ffôn.

www.lawcentres.org.uk

Cyngor ar Bopeth

Elusen a rhwydwaith o elusennau lleol sy’n cynnig cyngor cyfrinachol ar-lein, dros y ffôn, ac wyneb yn wyneb - yn rhad ac am ddim.

www.citizensadvice.org.uk

Sgwrsio ar-lein gydag ymgynghorydd
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm
Ar gau ar wyliau banc

Rhif ffôn: 0800 144 8848 (Lloegr) , 0800 702 2020 (Cymru)
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm

I bobl ag anabledd

Os oes gennych anabledd sy’n golygu bod mynd i’r llys neu gyfathrebu’n anodd, neu os ydych angen unrhyw wybodaeth mewn fformat gwahanol, e.e. print mawr, cysylltwch â’r llys perthnasol a fydd yn gallu eich helpu.

Dod o hyd i fanylion cyswllt llys neu dribiwnlys

Mae Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF (GLlTEF) yn un o asiantaethau’r Weinyddiaeth Gyfiawnder ac mae’n gyfrifol am weinyddu’r llysoedd troseddol, sifil a theulu a thribiwnlysoedd yng Nghymru a Lloegr, a thribiwnlysoedd sydd heb eu datganoli yn Yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae’n darparu system gyfiawnder deg, effeithlon ac effeithiol a weithredir gan farnwriaeth annibynnol.

Rydym yn anelu at sicrhau bod pawb yn gallu cael mynediad prydlon at gyfiawnder yn unol â’u gwahanol anghenion, boed yn ddioddefwyr trosedd neu’n dystion, yn ddiffynyddion a gyhuddwyd o gyflawni trosedd, yn ddefnyddwyr mewn dyled, yn blant mewn perygl o niwed, yn fusnesau sydd mewn anghydfodau masnachol neu’n unigolion sy’n mynnu eu hawliau cyflogaeth neu’n herio penderfyniadau cyrff y llywodraeth.