Trosolwg

Efallai byddwch yn cael Taliadau Tywydd Oer os ydych yn cael budd-daliadau penodol neu Gymorth ar gyfer Llog Morgais.

Os ydych yn gymwys, byddwch yn cael y taliadau hyn yn awtomatig. Nid oes angen i chi wneud cais, ond efallai bydd angen i chi roi gwybod i’r Ganolfan Byd Gwaith os ydych yn cael babi neu mae plentyn o dan 5 oed yn dod i fyw gyda chi.

Nid yw’r taliadau yn effeithio ar eich budd-daliadau eraill.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English) ac mewn fformat hawdd ei ddeall.

Byddwch yn cael taliad os yw’r tymheredd yn eich ardal chi, ar gyfartaledd, wedi’i gofnodi fel, neu y rhagwelir i fod, yn sero gradd celsius neu’n llai am 7 diwrnod yn olynol.

Byddwch yn cael taliad o £25 am bob cyfnod o 7 diwrnod o dywydd oer iawn rhwng 1 Tachwedd 2024 a 31 Mawrth 2025.

Mae’r cynllun Taliad Tywydd Oer 2023 i 2024 nawr wedi dod i ben. Bydd y cynllun 2024 i 2025 yn dechrau ar 1 Tachwedd 2024. Gallwch wirio os oes taliad yn ddyledus yn eich ardal ym mis Tachwedd 2024.

Mae Taliadau Tywydd Oer yn wahanol i Daliadau Tanwydd Gaeaf.

Os ydych yn byw yn Yr Alban

Ni allwch gael Taliad Tywydd Oer.

Efallai byddwch yn cael Winter Heating Payment blynyddol yn lle. Byddwch yn cael y taliad ni waeth beth yw’r tywydd yn eich ardal.