Canllawiau

Sefydlu system olrhain ar gyfer cig eidion a chig llo

Mae'n rhaid i weithredwyr busnesau bwyd sy'n rhwym i'r Cynllun Labelu Cig Eidion Gorfodol gadw cofnodion olrhain er mwyn dangos tarddiad eu cig.

Applies to England and Wales

Mae’n rhaid i fusnesau sy’n ymwneud â chig gael system olrhain. Mae union ffurf y system yn amrywio, gan ddibynnu ar weithgarwch y busnes, ond bydd yn seiliedig ar gyfres o gofnodion sy’n cael eu diweddaru’n barhaus, y gallwch eu cadw naill ai ar bapur neu ar gyfrifiadur. Gall hefyd gynnwys dogfennaeth arall, megis nodiadau dosbarthu neu dderbynebau.

Mae’r system hon yn sicrhau y gellir olrhain y cig eidion sy’n cael ei werthu i gwsmeriaid yn ôl i’r anifail neu’r grŵp o anifeiliaid y daeth ohonynt.

Cofnodi gwybodaeth olrhain sylfaenol

Egwyddor system olrhain yw bod yn rhaid i chi gofnodi unrhyw gig eidion neu gig llo a dderbynnir gan eich busnes, gan nodi’r canlynol:

  • gwybodaeth ynghylch ble y cawsoch y cig, gan gynnwys y rhif cyfeirnod neu’r cod ar y label (e.e. rhif lladd yr anifail yn y lladd-dy neu rif batsh y cig a gyflenwyd gan y safle torri cig)
  • gwybodaeth am darddiad y cig a’r modd y cafodd ei ladd (rhan o’r wybodaeth labelu orfodol sy’n mynd gyda’r cig drwy’r gadwyn gyflenwi)
  • y rhif cyfeirnod neu’r cod y byddwch yn ei roi ar y label, os yw’n wahanol i rif neu god y cyflenwr (e.e. os byddwch yn cyfuno cig o ffynonellau gwahanol o dan y rheolau sy’n ymwneud â batshys)

Ar gyfer anifeiliaid sy’n llai na 12 mis oed, mae’n rhaid i ladd-dai gofnodi’r wybodaeth isod (gall unrhyw fusnesau eraill gofnodi’r wybodaeth hon hefyd):

  • dyddiad geni’r anifail
  • rhif adnabod yr anifail (rhif unigryw e.e. rhif y tag clust)

Gwybodaeth arall i’w chofnodi

Dylech gofnodi:

  • y dyddiad y mae pob anifail, carcas, rhan o garcas, toriad cig sylfaenol neu unrhyw doriad cig arall yn cyrraedd
  • y dyddiad y mae’r cig yn gadael y busnes (neu’r dyddiad y caiff ei roi ar y cownter)

Bydd hyn yn sicrhau bod cydbwysedd rhwng y cig sy’n cyrraedd a’r cig sy’n gadael.

Bydd y wybodaeth arall sydd ei hangen ar gyfer eich system olrhain yn dibynnu ar natur eich busnes. Gallwch hefyd gofnodi rhai o’r canlynol, neu bob un ohonynt:

  • y cyflenwr
  • nodyn dosbarthu
  • dyddiad lladd a’r rhif lladd
  • pwysau
  • tag clust y DU/rhif pasbort gwartheg neu god cyfeirnod
  • cynnyrch (wedi’i dorri)
  • rhif a lliw’r ddysgl
  • ar gyfer anifeiliaid sy’n llai na 12 mis oed, dyddiad geni a/neu lythyr sy’n nodi categori’r carcas (V ar gyfer anifeiliaid sy’n llai nag 8 mis oed, Z ar gyfer anifeiliaid sydd rhwng 8 mis oed a llai na 12 mis oed)

Gofynion eraill sy’n gysylltiedig ag olrhain

Efallai y bydd angen i’ch systemau rheoli olrhain bodloni gofynion cynlluniau a safonau eraill rydych yn eu dilyn, megis y canlynol:

Cyhoeddwyd ar 1 April 2014