Canllawiau

Y cynllun Dosbarthu Carcasau Eidion: dosbarthu carcasau

Mae'n rhaid i ladd-dai eidion drin, categoreiddio, dosbarthu, pwyso a labelu carcasau yn unol â'r rheoliadau a hysbysu cyflenwyr o'r canlyniadau

Applies to England and Wales

Mae’n rhaid i chi drin, categoreiddio, dosbarthu a phwyso carcasau eidion o fewn awr i ladd yr anifeiliaid.

Dim ond dosbarthwr trwyddedig, cymwysedig a all ddosbarthu carcasau. Nid oes rhaid i’r dosbarthwr ddod o’ch cwmni eich hun.

Gallwch ddefnyddio technegau graddio awtomataidd ond mae’n rhaid i chi gael trwydded yn gyntaf gan yr Asiantaeth Taliadau Gwledig - gweler arweiniad ar dechnegau graddio awtomataidd. Os bydd y rhain yn methu â dosbarthu carcas, mae’n rhaid ei ddosbarthu o hyd ar y diwrnod lladd.

Trin y carcas

2 Am ragor o fanylion a lluniau sy’n dangos sut y dylid trin carcas, lawrlwythwch The Beef Carcase Classification scheme: guidance on dressing specifications and carcase classification (PDF, 942 KB, 24 pages).

Mae’n rhaid i chi drin carcasau yn unol ag un o’r manylebau hyn:

  • Manyleb Safonol
  • Manyleb Gyfeirio’r Comisiwn Ewropeaidd
  • Manyleb y DU

Ni ddylech weithredu manyleb trin ‘cwmni’

Mae’r tabl isod yn esbonio pa rannau o’r carcas y mae’n rhaid eu trin ar gyfer pob manyleb.

Disgrifiad Categori Disgrifiad Categori Disgrifiad
Manyleb Safonol
Manyleb Gyfeirio y CE X X X
Manyleb y DU X X X X X

Categoreiddio’r carcas

Mae’n rhaid i chi ddosbarthu pob carcas i un o’r categorïau yn y tabl isod.

Categori Disgrifiad
A Carcas anifail gwryw heb ei sbaddu rhwng 12 mis oed a 24 mis oed
B Carcas anifail gwryw heb ei sbaddu dros 24 mis oed
C Carcas anifail gwryw heb ei sbaddu dros 12 mis oed
D Carcas anifail benyw sydd wedi bwrw llo
E Carcas anifail gwryw arall dros 12 mis oed
Z Carcas anifail (gwryw neu fenyw) rhwng 8 a 12 mis oed

Dosbarthu’r carcas

Er mwyn cydymffurfio â’r cynllun Dosbarthu Carcasau Eidion, mae’n rhaid i ladd-dai raddio carcasau yn ôl y canlynol:

  • cydffurfiad y carcas (gorchudd gnawd a siâp gyffredinol)
  • gorchudd braster y carcas
  • pwysau’r carcas

Mae’r cynllun Dosbarthu Carcasau Eidion yn nodi ‘graddfa’r Undeb’ ar gyfer y graddau hyn a ddefnyddir ledled yr Undeb Ewropeaidd.

Am ragor o fanylion ar raddfa’r Undeb lawrlwythwch The Beef Carcase Classification scheme: Union scale (PDF, 112 KB, 2 pages).

Cydffurfiad

Mae gan raddfa’r Undeb chwe dosbarth o gydffurfiad ar gyfer anifeiliaid buchol 8 mis oed a throsodd. Mae’r dosbarthwr yn gwneud asesiad gweledol o siâp gyffredinol a gorchudd cnawd y carcas.

Y dosbarth o gydffurfiad Ansawdd y carcas Isddosbarthiad (lle y bo’n gymwys)
S arbennig iawn  
E ardderchog  
U da iawn uchaf (+) neu isaf (-)
R da  
O gweddol uchaf (+) neu isaf (-)
P gwael uchaf (+) neu isaf (-)

Gorchudd braster

Mae gan yr Undeb bum dosbarth o orchudd braster. Mae’r dosbarthwr yn gwneud asesiad gweledol o ddatblygiad braster allanol y carcas.

Y dosbarth o fraster Gorchudd braster Isddosbarthiad (lle y bo’n gymwys)
1 isel  
2 ychydig  
3 cyfartalog  
4 uchel yn cynnwys llai o fraster (L) neu fwy o fraster (H)
5 Uchel Iawn yn cynnwys llai o fraster (L) neu fwy o fraster (H)

Y raddfa 15 pwynt

Yn lle defnyddio’r isddosbarthiadau safonol, sydd ond yn gymwys i ddosbarthiadau penodol o gydffurfiad a braster (e.e. U+ ar gyfer cydffurfiad neu 4L ar gyfer braster) gall lladd-dai ddewis mabwysiadu system fanylach o isddosbarthiadau, a elwir yn raddfa 15 pwynt. O dan y raddfa 15 pwynt, isrennir pob un o’r dosbarthiadau o fraster a chydffurfiad yn:

  • isel (wedi’i farcio’n ‘-‘)
  • canolig (wedi’i farcio’n ‘ganol’)
  • uchel (wedi’i farcio’n ‘+’)

Mae’r nifer fwy hon o israniadau yn ei gwneud yn bosibl i garcasau gael eu graddio’n fwy cywir.

Pwysau

Mae’n rhaid pwyso’r carcas o fewn awr i ladd yr anifail.

Mae’n rhaid i chi gofnodi’r pwysau a ddangosir ar ddangosydd y raddfa ac ni ddylech eu talgrynnu i fyny nac i lawr.

Er mwyn cyfrifo’r pwysau oer, didynnwch 2% o’r pwysau cynnes.

Stampio neu labelu’r carcas

O dan y cynllun Dosbarthu Carcasau Eidion, mae’n rhaid i chi naill ai stampio neu labelu pob carcas (mae hyn yn ychwanegol at ofynion y Cynllun Labelu Eidion).

Os ydych yn defnyddio technegau graddio awtomataidd, mae’n rhaid i chi ddefnyddio labeli.

Mae’n rhaid i chi roi marciau a labeli mewn mannau penodol:

  • ar y bedrain, dylech roi’r label ar y lwyn ‘strip’ ar lefel y pedwerydd fertebra meingefnol
  • ar y chwarthor blaen dylech osod y label ar y frisged rhwng 10 a 30 cm o ymyl y sternwm

Ni ddylech dynnu ymaith farciau na labeli cyn diesgyrnu’r chwarthor blaen a’r bedrain.

Sut i ddefnyddio stampiau

Mae’n rhaid i chi ddefnyddio inc anwenwynig, annileadwy ac mae’n rhaid i’r llythrennau a’r rhifau fod yn 2 gentimedr o uchder o leiaf.

Mae’n rhaid i’r stamp ddangos y canlynol:

  • categori’r carcas
  • y dosbarth o gydffurfiad
  • gorchudd braster y carcas

Sut i ddefnyddio labeli

Mae’n rhaid i’r labeli fod yn 50cm2 o leiaf. Mae’n rhaid i’r wybodaeth fod yn ddarllenadwy.

Dim ond yr unigolyn a ddosbarthodd y carcas yn wreiddiol a all newid label dosbarthu. Mae’n rhaid i’r unigolyn hwn wneud unrhyw newid o’r fath ei hun drwy farcio’r label yn glir.

Mae’n rhaid i’r label ddangos y canlynol:

  • y categori
  • y dosbarth o gydffurfiad
  • y gorchudd braster
  • rhif cymeradwyo’r lladd-dy
  • rhif adnabod neu rif lladd yr anifail
  • y dyddiad lladd
  • pwysau’r carcas
  • lle y bo’n berthnasol, bod y carcas wedi’i ddosbarthu gan ddefnyddio technegau graddio awtomataidd

Mae’n rhaid i labeli:

  • fod yn ddiogel
  • gallu gwrthsefyll rhwygo
  • cael eu gosod yn sownd ar chwarthor blaen a phedrain y carcas

Rhoi gwybod am ganlyniadau’r broses ddosbarthu

Mae’n rhaid i chi hysbysu’r sawl a anfonodd yr anifail i’r lladd-dy o’r dosbarthiad, naill ai’n ysgrifenedig neu’n electronig. Gallech ddefnyddio anfoneb neu ddogfen atodedig i wneud hyn.

Mae’n rhaid i chi ei hysbysu o’r canlynol:

  • canlyniadau’r broses ddosbarthu (gan gynnwys yr isddosbarthiadau o’r raddfa 15 pwynt os gwnaethoch eu defnyddio)
  • y categori
  • pwysau’r carcas (gan nodi ai’r pwysau cynnes neu’r pwysau oer a gyfrifwyd)
  • pa fanyleb trin a ddefnyddiwyd gennych

Os cafodd y carcas ei ddosbarthu gan ddefnyddio technegau graddio awtomataidd, mae’n rhaid i chi ei hysbysu o hynny hefyd.

Dylech hefyd ei hysbysu o’r canlynol:

  • y rhif lladd
  • y dyddiad lladd

Os na allwch ddweud wrth yr unigolyn a gyflenwodd yr anifail, dylech ddweud wrth yr unigolyn neu’r cwmni sy’n gyfrifol am y gweithrediadau lladd.

Cyhoeddwyd ar 31 March 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 1 January 2021 + show all updates
  1. Regulation changed from EC regulation 1184/2017 to Regulation EUR 2017/1184

  2. Updated with the link to a new page containing updated information for classification by automated grading techniques - Video Imaging Analysis (VIA).

  3. First published.