Guidance

Y cynllun Dosbarthu Carcasau Eidion: gweithio fel dosbarthwr

Dysgwch sut i ddod yn ddosbarthwr trwyddedig ar gyfer y cynllun Dosbarthu Carcasau Eidion.

Er mwyn dosbarthu carcasau eidion mae’n rhaid i chi gael trwydded hyfedredd gan adran Cynlluniau Technegol Cig o’r Asiantaeth Taliadau Gwledig (RPA).

Mae’r broses gwneud cais yn cynnwys prawf.

Gwneud cais am drwydded

Llenwch ffurflen gais am drwydded (MTSA1) (PDF, 163 KB, 1 page), gofynnwch am un gan arolygydd yn ystod arolygiad, neu cysylltwch â RPA yn uniongyrchol.

E-bost MTS.Carlisle@rpa.gov.uk

Ffôn 01228 640 369

Meat Technical Schemes team
Rural Payments Agency
Eden Bridge House
Lowther Street
Carlisle
CA3 8DX

Ar ôl i chi anfon eich ffurflen wedi’i chwblhau, bydd arolygydd o’r Arolygiaeth Da Byw a Chig (rhan o RPA) yn cadarnhau eich bod yn deall egwyddorion dosbarthu carcasau . (PNG, 29.5 KB) Os bydd yn fodlon, bydd yn trefnu i chi sefyll prawf sy’n cynnwys graddio 40 o garcasau. Bydd arolygwyr yn asesu a yw eich gwaith yn cyrraedd safon dderbyniol . (PNG, 10.6 KB)

Archwiliadau dilynol

Ar ôl i chi ddechrau gweithio fel dosbarthwr, mae’n rhaid i chi gario eich trwydded bob amser a’i dangos i arolygwyr os byddant yn gofyn am gael ei gweld . (PNG, 40 KB)

Bydd arolygwyr yn monitro safon eich gwaith yn ystod eu harchwiliadau rheolaidd. Os byddwch yn methu’r asesiadau hyn . (PNG, 44.2 KB) gellir dirymu eich trwydded a bydd yn rhaid i chi sefyll prawf arall er mwyn profi y gallwch gyrraedd y safon ofynnol . (PNG, 26.6 KB)

Pryd y dylech ddychwelyd eich trwydded hyfedredd

Mae’n rhaid i chi hysbysu RPA a dychwelyd eich trwydded i’r cyfeiriad uchod o dan yr amgylchiadau canlynol:

  • nid yw eich gwaith yn cynnwys dosbarthu carcasau mwyach
  • rydych yn rhoi’r gorau i weithio i’r cyflogwr a enwir ar eich trwydded
  • rydych yn newid eich cyfeiriad cartref (os ydych yn hunangyflogedig); bydd RPA yn newid eich cyfeiriad ac yn dychwelyd y drwydded atoch

Os bydd RPA yn gofyn i chi ddychwelyd eich trwydded am unrhyw reswm arall, mae’n rhaid i chi wneud hynny . (JPEG, 50.8 KB)

Published 8 July 2014