Trosolwg

Swm o arian ychwanegol yw Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth y gallech ei gael ar ben eich Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth os ydych:

  • yn ddyn a aned cyn 6 Ebrill 1951
  • yn ddynes a aned cyn 6 Ebrill 1953

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Cewch Bensiwn y Wladwriaeth newydd os cawsoch eich geni ar neu ar ôl y dyddiad hwn. Ni fyddwch yn gymwys i gael Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth, ond efallai y gallech barhau i etifeddu Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth gan eich partner.

Cewch Bensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth yn awtomatig, os ydych yn gymwys i’w gael, oni bai eich bod wedi contractio allan ohono.

Telir eich Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth gyda’ch Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth.