Cymhwysedd

Gwnaethoch gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar neu ar ôl 6 Ebrill 2016

Ni chewch Bensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth os gwnaethoch gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar neu ar ôl 6 Ebrill 2016. Byddwch yn cael Pensiwn y Wladwriaeth newydd.

Gwnaethoch gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2016

Os gwnaethoch gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2016 a dechrau hawlio Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth, cewch unrhyw Bensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth mae hawl gennych i’w gael yn awtomatig. Nid oes angen gwneud cais ar wahân.

Efallai na fyddwch yn cael unrhyw Bensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth ar gyfer cyfnodau pan roeddech wedi eich contractio allan ohono.

Pan fyddwch wedi cyfrannu tuag at Bensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth

Mae Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth yn cael ei wneud i fyny o 3 cynllun. Efallai eich bod wedi cyfrannau i fwy nag un, yn dibynnu ar:

  • pa mor hir rydych wedi bod yn gweithio
  • os ydych yn dewis i dalu ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth
Amser Cynllun Rydych wedi cyfrannu os
2002 i 2016 Ail Bensiwn y Wladwriaeth Roeddech yn gyflogedig neu’n hawlio budd-daliadau penodol
1978 i 2002 Cynllun Pensiwn y Wladwriaeth ar sail Enillion (SERPS) Roeddech yn gyflogedig
12 Hydref 2015 i 5 Ebrill 2017 Talu ar ben Pensiwn y Wladwriaeth Roeddech wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2016 ac wedi eithrio i mewn

Ail Bensiwn y Wladwriaeth ers 2002

Gwnaethoch gyfrannu tuag at eich Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth trwy eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol os oeddech ar unrhyw adeg rhwng 6 Ebrill 2002 a 5 Ebrill 2016:

  • yn gyflogedig ac yn ennill dros y terfyn enillion is – roedd hyn yn £5,824 yn y flwyddyn dreth 2015 i 2016
  • yn gofalu am blant o dan 12 oed ac yn hawlio Budd-dal Plant
  • yn gofalu am berson sâl neu anabl am fwy na 20 awr yr wythnos ac yn hawlio Credyd Gofalwr
  • yn gweithio fel gofalwr maeth cofrestredig ac yn hawlio Credyd Gofalwr
  • yn cael budd-daliadau penodol eraill oherwydd salwch neu anabledd