Pensiwn dros 80
Sut i wneud cais
Gallwch gael ffurflen gais o naill ai:
- eich Canolfan Byd Gwaith lleol
- y Gwasanaeth Pensiwn
Y cynharaf y gallwch wneud cais yw 3 mis cyn eich pen-blwydd yn 80 oed.
Cael ffurflen gais gan y Gwasanaeth Pensiwn
Ffoniwch y Gwasanaeth Pensiwn i gael ffurflen gais wedi’i hanfon atoch.
Ffôn: 0800 731 7898
Relay UK (os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 731 7898
Gwasanaeth ‘video relay’ Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu dabled
Llinell Gymraeg: 0800 731 7936
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm (heblaw am wyliau cyhoeddus)
Darganfyddwch am gostau galwadau