Cymhwysedd

Ni allwch gael y pensiwn dros 80 os wnaethoch gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar neu ar ôl 6 Ebrill 2016.

Gallwch wneud cais am bensiwn dros 80 os yw’r canlynol i gyd yn berthnasol:

  • rydych yn 80 oed neu drosodd
  • nid ydych yn cael Pensiwn sylfaenol y wladwriaeth neu mae’ch Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth yn llai na £101.55 yr wythnos yn 2024 i 2025
  • roeddech yn breswylydd yn y DU am o leiaf 10 blynedd allan o 20 (nid oes angen i hwn fod yn 10 blynedd yn ganlynol) - rhaid i’r cyfnod hwn o 20 mlynedd gynnwys y diwrnod cyn i chi droi’n 80 oed neu unrhyw ddiwrnod ar ôl hynny
  • roeddech yn ‘preswylio fel arfer’ yn y DU, Ynys Manaw neu Gibraltar ar eich pen-blwydd yn 80 oed neu’r dyddiad y gwnaethoch gais am y pensiwn hwn, os yw’n hwyrach

Os ydych yn byw neu’n symud i wlad yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) neu’r Swistir, darganfod pensiynau a budd-daliadau ar gyfer gwladolion y DU yn yr UE, AEE a’r Swistir

Nid yw’ch cymhwysedd ar gyfer pensiwn dros 80 yn seiliedig ar gyfraniadau Yswiriant Gwladol.