Y drefn ddiogelwch mewn adeilad llys neu dribiwnlys
Mae’n rhaid i chi ddilyn y drefn ddiogelwch bob tro rydych yn mynd i mewn i adeilad llys neu dribiwnlys.
Caniatewch digon o amser i wneud hyn. Efallai y bydd rhaid i chi sefyll mewn ciw rhwng 9am a 10am ar ddyddiau gwaith.
Mae yna reolau ynghylch pa eitemau y gallwch fynd efo chi.
Mae’r cyfarwyddyd hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Eitemau na chaniateir i chi fynd efo chi
Ni allwch fynd â gynnau, drylliau, cyllyll neu arfau eraill i mewn i’r adeilad.
Byddwch yn cael eich riportio i’r heddlu os byddwch yn ceisio mynd ag arf i mewn i adeilad llys neu dribiwnlys.
Ni allwch chwaith fynd ag eitemau y mae’r staff diogelwch yn credu y gellid eu defnyddio fel arf, hyd yn oed os ydych chi’n meddwl eu bod yn ddiniwed.
Mae’r rhain yn cynnwys pethau fel:
- llafnau – siswrn, cyllell boced a rasal
- eitemau miniog eraill – gweill a dartiau
- gwydr – er enghraifft poteli
- cyllyll a ffyrc metel
- chwistrellau (oni bai bod gennych bresgripsiwn)
- gynnau tegan ac eitemau eraill sy’n edrych fel gynnau
- tŵls – er enghraifft sgriwdreifar, morthwyl a hoelion
- rhaffau a chadwyni
- alcohol
- hylifau nad ydynt yn ddiodydd neu’n feddyginiaeth ar bresgripsiwn - fel olew, persawr, petrol leitar a chynhyrchion glanhau
- ymbarelau hyd llawn
- helmedau
Ni chewch ddod ag e-feiciau neu e-sgwteri i mewn i adeilad llys neu dribiwnlys.
Eitemau y caniateir i chi fynd efo chi
Cewch fynd â ffonau a chamerâu i mewn efo chi, ond ni ddylech eu defnyddio i dynnu lluniau neu ffilmio gwrandawiad.
Cewch ddod â hylif diheintio dwylo i mewn efo chi. Fe ofynnir i chi ei ddefnyddio o flaen y staff diogelwch i brofi nad yw’n niweidiol.
Diodydd
Cewch fynd â:
- diodydd mewn cartonau neu ganiau sydd heb eu hagor
- diodydd mewn potel, fflasg neu gwpan â chaead - ni chaniateir iddynt fod yn rhai gwydr
Os bydd eich diod wedi’i agor, neu mewn potel, fflasg neu gwpan, fe ofynnir i chi yfed rhywfaint ohono i brofi nad yw’n niweidiol.
Meddyginiaeth
Cewch fynd â meddyginiaeth ar bresgripsiwn i mewn efo chi. Rhaid bod label y fferyllydd gyda’ch enw a’r dyddiad y cawsoch y presgripsiwn ar y feddyginiaeth.
Bydd y staff diogelwch yn gwirio’r label. Ni fyddant yn cofnodi nac yn rhannu’r wybodaeth. Darllenwch fwy am sut y defnyddir eich gwybodaeth bersonol.
Gwiriadau diogelwch
Mae’n rhaid i chi gael gwiriad diogelwch fel y byddech yn cael mewn maes awyr. Gall hyn gynnwys:
- gwacio’ch pocedi a rhoi’r cynnwys mewn basged
- tynnu eich esgidiau, cot, menig neu het
- gofyn i chi dynnu neu agor eich belt
- cerdded drwy fwa diogelwch
- cael chwiliad â llaw neu gyda sganiwr llaw
Os ydych chi’n gwisgo penwisg am resymau crefyddol neu ddiwylliannol, gallwch ofyn iddi gael ei gwirio â sganiwr llaw fel nad oes rhaid i chi ei thynnu i ffwrdd.
Os na allwch fynd â’ch eitemau i mewn efo chi
Bydd y staff diogelwch yn cadw unrhyw eitemau na allwch fynd efo chi i mewn i’r adeilad a byddant yn rhoi derbynneb i chi. Fel arfer gallwch ddefnyddio’r dderbynneb i gasglu’ch eitemau pan fyddwch yn gadael.
Cyllyll
Os oes gennych gyllell, ni fyddwch yn gallu ei chael yn ôl pan fyddwch yn gadael. Yn hytrach, bydd angen i chi ysgrifennu i’r llys o fewn 28 diwrnod.
Rhaid i’r llythyr gynnwys:
- eich enw cyntaf ac enw olaf
- eich cyfeiriad
- y dyddiad a’r amser pan gymerwyd y gyllell gan y staff diogelwch
- disgrifiad o’r gyllell
- rhif eich derbynneb
Fel arfer byddwch yn cael eich eitemau’n ôl o fewn mis i’r llys gael eich llythyr. Efallai y bydd angen i chi ddangos dogfen adnabod sy’n cynnwys llun (megis pasbort neu drwydded yrru) pan gewch yr eitemau’n ôl i brofi eich bod chi’n 18 oed neu drosodd.
Gall rhywun sy’n gweithredu ar eich rhan ysgrifennu’r llythyr i chi, megis cyfreithiwr neu warcheidwad. Dylent gynnwys eu henw a’u cyfeiriad pan fyddant yn ei anfon.
Os bydd angen i chi ymweld â dalfa
Bydd angen i chi roi’r rhan fwyaf o eitemau electronig megis ffonau symudol, watshis clyfar, tabledi neu gofau bach i’r staff diogelwch. Efallai y cewch fynd â gliniadur a gwefrydd gliniadur efo chi i gael mynediad i ffeiliau.
Efallai y byddwch yn cael eich dewis ar hap i gael chwiliad â llaw.
Gwneud cwyn
Gallwch wneud cwyn am y ffordd y cawsoch eich trin os ydych yn anhapus â’r ffordd y cynhaliwyd chwiliad diogelwch.