Wedi gwerthu cerbyd y tu allan i’r fasnach modur
Mae arnoch angen y rhif cyfeirnod 11 digid o’r llyfr log diweddaraf (V5CW).
-
Rhowch y slip ‘ceidwad newydd’ gwyrdd o’r llyfr log i’r prynwr.
-
Rhowch wybod i DVLA eich bod wedi gwerthu’r cerbyd drwy ddefnyddio’r gwasanaeth hwn.
-
Dinistriwch weddill y llyfr log.
Ni allwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn os yw’r prynwr yn cofrestru’r cerbyd dramor. Mae hyn yn cynnwys Ynysoedd y Sianel (Jersey a Guernsey), Ynys Manaw ac Iwerddon. Mae angen ichi lenwi’r adran ‘allforio parhaol’ yn lle.
Gallwch gymryd y rhif cofrestru oddi ar y cerbyd os ydych eisiau ei gadw. Mae’n rhaid ichi wneud hyn cyn rhoi gwybod i DVLA eich bod wedi gwerthu eich cerbyd.
Beth sy’n digwydd nesaf
Mae’n rhaid i’r prynwr drethu’r cerbyd cyn ei yrru, neu ddatgan ei fod oddi ar y ffordd (HOS). Ni fydd y dreth yn trosglwyddo pan werthir y cerbyd.
Dylai’r ceidwad newydd gael:
- cadarnhad e-bost (os wnaethoch roi ei gyfeiriad e-bost)
- llyfr log newydd o fewn 5 diwrnod gwaith
Ffyrdd eraill o wneud cais
Llenwch y llyfr log ac anfonwch i DVLA.
DVLA
Abertawe
SA99 1BA
Eich atebion
- 2. Ydych chi wedi prynu neu werthu cerbyd?
- Wedi gwerthu cerbyd y tu allan i’r fasnach modur
- Newid 2. Ydych chi wedi prynu neu werthu cerbyd?