Canllawiau

Y cynllun Dosbarthu Carcasau Eidion: cofrestr

Os yw eich lladd-dy yn lladd mwy na 75 o anifeiliaid buchol llawndwf yr wythnos mae'n rhaid i chi fod wedi'ch cofrestru â'r cynllun Dosbarthu Carcasau Eidion.

Applies to England and Wales

Os yw eich lladd-dy yn lladd mwy na 75 o anifeiliaid buchol llawndwf yr wythnos (yn seiliedig ar gyfartaledd blynyddol treigl), mae’n rhaid i chi gofrestru ar gyfer y cynllun Dosbarthu Carcasau Eidion a chydymffurfio ag ef.

Mae anifail buchol llawndwf yn anifail sy’n 8 mis oed neu drosodd os cafodd ei ladd ar ôl 31 Rhagfyr 2013, neu’n anifail â phwysau byw a oedd yn fwy na 300 cilogram os cafodd ei ladd cyn 1 Ionawr 2014.

O dan y cynllun mae’n rhaid i chi gategoreiddio a graddio (dosbarthu) pob carcas eidion o anifeiliaid llawndwf ar gyfer cyfuniad o fraster a chydffurfiad. Mae graddio carcasau yn unffurf yn sicrhau bod cynhyrchwyr yn cael taliad teg yn seiliedig ar ansawdd y carcas.

Os ydych yn lladd llai o anifeiliaid o’r fath gallwch gofrestru ar gyfer y cynllun o hyd yn wirfoddol. Bydd hyn yn eich galluogi i ddosbarthu carcasau yn ôl y graddfeydd a ddefnyddir ledled yr Undeb Ewropeaidd. Fodd bynnag, ar ôl cofrestru â’r cynllun Dosbarthu Carcasau Eidion bydd angen i chi ddosbarthu pob carcas o anifail buchol llawndwf yn eich lladd-dy.

Cynhelir y cynllun gan y tîm Cynlluniau Technegol Cig yn yr Asiantaeth Taliadau Gwledig (RPA).

Sut i gofrestru

Er mwyn cofrestru, llenwch the Beef Carcase Classification scheme registration form (BCCS3) (PDF, 159 KB, 4 pages)

Gallwch gysylltu â’r tîm Cynlluniau Technegol Cig os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cynllun.

E-bost: MTS.Carlisle@rpa.gov.uk

Ffôn: 01228 640 369

Ysgrifennwch i:

Meat Technical Schemes team
Rural Payments Agency
Eden Bridge House
Lowther Street
Carlisle
CA3 8DX

Sicrhewch fod eich manylion yn gyfredol

Os bydd unrhyw fanylion a roddwch wrth gofrestru ar gyfer y cynllun Dosbarthu Carcasau Eidion yn newid, mae’n rhaid i chi hysbysu RPA o fewn 28 diwrnod.

Cyhoeddwyd ar 31 March 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 1 January 2021 + show all updates
  1. The Beef Carcase Classification scheme registration form (BCCS3) regulations updated and form made accessible.

  2. Text reviewed and updated

  3. First published.