Canllawiau

Cyfrifo faint o Doll Alcohol y mae angen i chi ei thalu

Dewch o hyd i’r gyfradd lawn o doll, ac enghreifftiau o gyfrifiadau sy’n berthnasol i chi os ydych yn cynhyrchu, mewnforio, neu’n dal cwrw, seidr, gwirodydd, gwin, neu gynhyrchion eplesedig eraill.

Cynhyrchion y mae’n rhaid i chi dalu Toll Alcohol arnynt

Mae’n rhaid i chi dalu Toll Alcohol ar gynhyrchion sydd ag alcohol yn ôl cyfaint (ABV) o 1.3% neu’n fwy ar gyfer unrhyw un o’r canlynol:

  • cwrw
  • seidr, gan gynnwys perai
  • gwirodydd, gan gynnwys diodydd gwirodol sydd wedi’u cymysgu ymlaen llaw ac yn barod-i-yfed (RTD)
  • gwin, gan gynnwys gwin pefriog a gwin cadarn
  • cynhyrchion eplesedig eraill (a elwir yn ‘gwin a wnaed’ yn flaenorol), megis seidr ffrwythau

Mae’r doll yn ddyledus pan mae’r cynhyrchion wedi’u rhyddhau i’w defnyddio yn y DU.

Sut i gyfrifo Toll Alcohol

Mae Toll Alcohol yn seiliedig ar faint o alcohol pur sydd mewn cynnyrch.

I gyfrifo swm y Doll Alcohol sy’n ddyledus ar eich cynnyrch, lluoswch nifer y litrau o alcohol pur sydd yn eich cynnyrch â’r gyfradd briodol o doll.

  1. Cyfrifwch sawl litr o’r cynnyrch gorffenedig sydd gennych.

  2. Cyfrifwch sawl litr o alcohol pur sydd gennych.

  3. Gwiriwch dabl y cyfraddau toll sydd yn yr arweiniad hwn i ddod o hyd i’r gyfradd briodol ar gyfer eich cynnyrch chi, gan ystyried ei gryfder o ABV.

  4. Cyfrifwch faint yw’r Doll Alcohol ar gyfer eich cynnyrch — lluoswch nifer y litrau o alcohol pur sydd yn eich cynnyrch â’r gyfradd briodol o doll.

  5. Cyfrifwch faint o Doll Alcohol y mae’n rhaid i chi ei thalu ar eich cynnyrch drwy dalgrynnu i lawr i’r geiniog agosaf.

Os ydych yn cynhyrchu gwin sydd ag ABV rhwng 11.5% a 14.5%

Darllenwch yr adran ‘trefniant dros dro ar gyfer gwin’ yn yr arweiniad hwn cyn i chi fynd ati i gyfrifo faint o Doll Alcohol y mae’n rhaid i chi ei thalu.

Cyfraddau tollau (fesul litr o alcohol pur) o 1 Awst 2023 ymlaen

Cwrw

Alcohol yn ôl cyfaint (ABV) Mewn £ (punnoedd), swm y doll byddwch yn ei thalu ar bob litr o alcohol pur sydd yn y cynnyrch
0 i 1.2% 0.00
o 1.3% i 3.4% 9.27
o 3.5% i 8.4% 21.01
o 8.5% i 22% 28.50
ABV dros 22% 31.64

Seidr (oni bai am seidr pefriog)

Alcohol yn ôl cyfaint (ABV) Mewn £ (punnoedd), swm y doll byddwch yn ei thalu ar bob litr o alcohol pur sydd yn y cynnyrch
0 i 1.2% 0.00
o 1.3% i 3.4% 9.27
o 3.5% i 8.4% 9.67
o 8.5% i 22% 28.50
ABV dros 22% 31.64

Seidr pefriog

Alcohol yn ôl cyfaint (ABV) Mewn £ (punnoedd), swm y doll byddwch yn ei thalu ar bob litr o alcohol pur sydd yn y cynnyrch
0 i 1.2% 0.00
o 1.3% i 3.4% 9.27
o 3.5% i 5.5% 9.67
o 5.6% i 8.4% 24.77
o 8.5% i 22% 28.50
ABV dros 22% 31.64

Gwirodydd, neu ddiodydd gwirodol sydd wedi’u cymysgu ymlaen llaw

Alcohol yn ôl cyfaint (ABV) Mewn £ (punnoedd), swm y doll byddwch yn ei thalu ar bob litr o alcohol pur sydd yn y cynnyrch
0 i 1.2% 0.00
o 1.3% i 3.4% 9.27
o 3.5% i 8.4% 24.77
o 8.5% i 22% 28.50
ABV dros 22% 31.64

Gwin (gan gynnwys gwin pefriog)

Alcohol yn ôl cyfaint (ABV) Mewn £ (punnoedd), swm y doll byddwch yn ei thalu ar bob
litr o alcohol pur sydd yn y cynnyrch
0 i 1.2% 0.00
o 1.3% i 3.4% 9.27
o 3.5% i 8.4% 24.77
o 8.5% i 22% 28.50
ABV dros 22% 31.64

Cynhyrchion eplesedig eraill, megis seidr ffrwythau

Alcohol yn ôl cyfaint (ABV) Mewn £ (punnoedd), swm y doll byddwch yn ei thalu ar bob litr o alcohol pur sydd yn y cynnyrch
0 i 1.2% 0.00
o 1.3% i 3.4% 9.27
o 3.5% i 8.4% 24.77
o 8.5% i 22% 28.50
ABV dros 22% 31.64

Trefniant dros dro ar gyfer gwin

Os oes angen i chi dalu toll ar win sydd ag ABV rhwng 11.5% a 14.5%, mae trefniant dros dro ar waith o 1 Awst 2023 hyd at a chan gynnwys 31 Ionawr 2025.

Yn ystod y cyfnod hwn, wrth i chi fynd ati i gyfrifo swm y Doll Alcohol ar gyfer eich gwin, mae’n rhaid i chi ddefnyddio cryfder ABV tybiedig o 12.5%. Nid yw’r trefniant hwn yn newid y gyfradd o doll, ond gall newid faint o doll y bydd yn rhaid i chi ei thalu.

Gwirio a allwch dalu llai o doll

Gallwch wirio a ydych yn gymwys am y canlynol:

Enghreifftiau o sut i gyfrifo swm y Doll Alcohol y mae’n rhaid i chi ei thalu

Enghraifft o gyfrifiad syml

Mae gennych 573 cynhwysydd o gwrw.

Mae pob cynhwysydd yn dal 7.5 litr o gwrw.

ABV eich cwrw yw 8.4%. Mae hyn yn golygu, am bob litr o alcohol pur sydd yn eich cwrw, y gyfradd o doll yw £21.01.

  1. Cyfrifwch sawl litr o gwrw sydd gennych.

    573 x 7.5 = 4,297.5 litr o gwrw.

  2. Cyfrifwch sawl litr o alcohol pur sydd gennych.

    4,297.5 litr x 8.4% (ABV) = 360.99 litr o alcohol pur.

  3. Cyfrifwch faint yw’r Doll Alcohol ar gyfer eich cwrw.

    360.99 x £21.01 (y gyfradd o doll) = £7,584.3999.

  4. Cyfrifwch faint o Doll Alcohol mae’n rhaid i chi ei thalu ar eich cwrw drwy dalgrynnu i lawr.

    £7,584.3999 wedi’i dalgrynnu i lawr i’r geiniog agosaf = £7,584.39.

Enghraifft o gyfrifiad sy’n defnyddio’r trefniant dros dro ar gyfer gwin

Mae gennych 407 cynhwysydd o win.

Mae pob cynhwysydd yn dal 3 litr o win.

ABV eich gwin yw 14%. Gan fod ABV eich gwin rhwng 11.5% a 14.5%, mae’n rhaid i chi ddefnyddio’r cryfder tybiedig o 12.5%. Mae hyn yn golygu, am bob litr o alcohol pur sydd yn eich gwin, y gyfradd o doll yw £28.50.

  1. Cyfrifwch sawl litr o win sydd gennych.

    407 x 3 = 1,221 litr o win.

  2. Cyfrifwch sawl litr o alcohol pur sydd gennych.

    1,221 litr x 12.5% (cryfder ABV tybiedig) = 152.625 litr o alcohol pur.

  3. Cyfrifwch faint yw’r Doll Alcohol ar gyfer eich gwin.

    152.625 x £28.50 (y gyfradd o doll) = £4,349.8125.

  4. Cyfrifwch faint o Doll Alcohol mae’n rhaid i chi ei thalu ar eich gwin drwy dalgrynnu i lawr.

    £4,349.8125 wedi’i dalgrynnu i lawr i’r geiniog agosaf = £4,349.81.

Cyhoeddwyd ar 29 June 2023