Canllawiau

Gwirio a allwch dalu llai o Doll Alcohol ar gynhyrchion o’r gasgen

Os ydych yn masnachu cynhyrchion o’r gasgen, ewch ati i gael gwybod a allwch dalu Toll Alcohol ar gyfradd is.

Pwy all gael y gyfradd is

Mae’n bosibl y gallwch dalu Toll Alcohol ar gyfradd is ar gynhyrchion sydd â llai na 8.5% o alcohol yn ôl cyfaint (ABV) os ydych yn un o’r canlynol:

  • cynhyrchydd
  • ceidwad warws ecséis
  • mewnforiwr

Cynhyrchion sy’n gymwys

Mae’n bosibl y gallwch gael cyfradd is os ydych yn cynhyrchu:

  • cwrw
  • seidr, gan gynnwys perai
  • gwirodydd, gan gynnwys diodydd gwirodol sydd wedi’u cymysgu ymlaen llaw ac yn barod-i-yfed (RTD)
  • gwin, gan gynnwys gwin pefriog a gwin cadarn
  • cynhyrchion eplesedig eraill (a elwir yn ‘gwin a wnaed’ yn flaenorol), megis seidr ffrwythau

Mae’n rhaid i gryfder alcoholaidd eich cynhyrchion fod yn llai na 8.5% ABV.

Ar adeg codi’r doll, mae’n rhaid i’r naill neu’r llall o’r canlynol hefyd fod yn wir:

  • maent wedi cael eu pacio mewn cynwysyddion cymwys ar gyfer cynhyrchion o’r gasgen
  • byddant yn cael eu symud i leoliad yn y DU lle y byddant yn cael eu trosglwyddo i gynwysyddion cymwys ar gyfer cynhyrchion o’r gasgen

Cynwysyddion ar gyfer cynhyrchion o’r gasgen y gallwch dalu cyfradd is arnynt

Mae’n rhaid bod eich cynhwysydd yn gallu dal o leiaf 20 litr o gynnyrch, a bod modd ei gysylltu ag un o’r canlynol:

  • system bwmp
  • tap diodydd sydd wedi’i wasgeddu â nwy

Os nad yw’ch cynhwysydd yn bodloni’r amodau hyn, bydd yn rhaid i chi dalu’r gyfradd lawn o Doll Alcohol.

Os defnyddir y cynnyrch yn eich cynwysyddion ar gyfer cynhyrchion o’r gasgen at ddiben gwerthiannau tecawê

Y safbwynt cyffredinol ar gyfer cynhyrchion mewn cynwysyddion ar gyfer cynhyrchion o’r gasgen yw y dylech dalu’r cyfraddau ar gyfer cynhyrchion o’r gasgen.

Os gofynnir i chi am gynhyrchion o’r gasgen cymwys a dalwyd ar y gyfradd lawn o doll (er enghraifft, ar gyfer gwerthiannau oddi ar y safle, megis cwrw tecawê), dylech ddatgan hyn ar eich datganiad toll.

Os bydd angen i chi ddatgan y gwahaniaeth rhwng y gyfradd ar gyfer cynhyrchion o’r gasgen sydd eisoes wedi’i thalu a’r gyfradd lawn o doll, dylech ddefnyddio blwch ‘tanddatganiad’ ar eich datganiad toll.

Mae’n rhaid i chi ddangos tystiolaeth i’ch cwsmer fod y gyfradd lawn o doll wedi’i thalu pan fyddwch yn cyflenwi’r cynhyrchion hyn.

Gallwch ddefnyddio unrhyw dystiolaeth briodol, megis datganiad ar ddogfennau masnachol neu lythyr cadarnhad. Mae’n rhaid bod y canlynol yn wir:

  • mae’n glir bod y gyfradd lawn o doll wedi’i thalu
  • mae wedi’i phasio ar hyd y gadwyn gyflenwi

Os ydych yn ail-becynnu diodydd o’r gasgen

Mae ail-becynnu cynhyrchion o’r gasgen yn golygu trosglwyddo’r rhain i gynhwysydd arall nad yw ar gyfer cynhyrchion o’r gasgen. Er enghraifft, ardywallt o gasgen i boteli.

Nid yw gweini diod o gynhwysydd ar gyfer cynhyrchion o’r gasgen i’w hyfed ar eich safleoedd yn cyfrif fel ail-becynnu. Er enghraifft, gweini diod mewn gwydryn wrth y bar.

Ni allwch ail-becynnu diodydd o’r gasgen ond am y rhesymau canlynol:

  • rydych yn gynhyrchydd cymeradwy neu’n geidwad warws ecséis cymeradwy, neu’r ddau
  • mae’r gyfradd doll lawn wedi’i thalu ar y cynhyrchion (fel at ddiben gwerthiannau tecawê)

Os nad oes gennych gymeradwyaeth, neu os nad yw’r gyfradd doll lawn wedi’i thalu, mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu cosb (yn Saesneg).

Os ydych yn gynhyrchydd cymeradwy neu’n geidwad warws ecséis cymeradwy

Os ydych yn ail-becynnu cynhyrchion o gynwysyddion ar gyfer cynhyrchion o’r gasgen i gynwysyddion eraill, ni fydd y cynhyrchion hyn yn gymwys bellach am y gyfradd is.

Bydd angen i chi dalu’r gwahaniaeth ar eich datganiad toll. Dylech ddatgan hwn fel ‘tanddatganiad mewn cyfnod blaenorol’. Y swm dylech ei ddatgan yw’r gwahaniaeth rhwng y gyfradd ar gyfer cynhyrchion o’r gasgen sydd eisoes wedi’i thalu a’r gyfradd lawn o doll a oedd yn berthnasol ar y pryd.

Cyfraddau tollau ar gyfer cynhyrchion o’r gasgen

Mae’r gyfradd is y gallwch ei chael yn seiliedig ar y fath o gynnyrch rydych yn ei wneud, a’i gryfder alcoholaidd.

Cynnyrch o’r gasgen Mewn £ (punnoedd), y swm o dreth byddwch yn ei thalu ar bob litr o alcohol pur sydd yn y cynnyrch
Pob cynnyrch ag ABV o lai na 3.5% 8.42
Seidr llonydd o 3.5% i lai na 8.5% 8.78
Seidr pefriog o 3.5% i 5.5% 8.78
Seidr pefriog dros 5.5% 19.08
Cwrw, gwirodydd, gwin a chynhyrchion eplesedig eraill o 3.5% i lai na 8.5% 19.08
Cyhoeddwyd ar 29 June 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 25 August 2023 + show all updates
  1. Guidance has been added about evidence you need to pass along the supply chain for takeaway sales. Information also added about how to pay the difference between the draught and full rate of duty and what counts as repackaging for draught products.

  2. Added translation