Tynnu eich cais am gymeradwyaeth ar gyfer cynhyrchwyr cynhyrchion alcoholaidd (APPA) yn ôl
Rhoi gwybod i CThEF eich bod am ganslo’ch cais am gymeradwyaeth ar gyfer cynhyrchwyr cynhyrchion alcoholaidd (APPA).
Ynglŷn â’r ffurflen hon
Bydd angen i chi roi gwybod i CThEF os ydych am dynnu’ch cais am gymeradwyaeth ar gyfer cynhyrchwyr cynhyrchion alcoholaidd (APPA) yn ôl.
Ni allwch dynnu’ch cais yn ôl os byddwn eisoes wedi’i gymeradwyo.
Mae ffurflenni gwahanol os oes angen i chi wneud y canlynol:
- rhoi gwybod i CThEF am newid i’ch APPA
- wneud cais i ganslo eich APPA
Yr hyn y bydd ei angen arnoch
Bydd angen i chi roi gwybod i ni am y canlynol:
- Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) ar gyfer y busnes
- y rheswm dros dynnu’n ôl
- cyfeirnod cyflwyno APPA
- eich manylion cyswllt
Tynnu eich cais APPA yn ôl
Ar-lein
I dynnu’ch cais am gymeradwyaeth ar gyfer cynhyrchwyr cynhyrchion alcoholaidd (APPA) yn ôl, bydd angen i chi fewngofnodi gan ddefnyddio’ch Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’ch cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth.
Gallwch gadw’r hyn rydych wedi’i wneud a dod yn ôl ato’n nes ymlaen.
Ar ôl i chi anfon y ffurflen, byddwch yn cael e-bost cadarnhau gyda chyfeirnod cyflwyno.
Os na allwch ddefnyddio’r ffurflen ar-lein
Os na allwch ddefnyddio’r ffurflen ar-lein, gallwch roi gwybod i ni eich bod am dynnu’ch cais am APPA yn ôl, drwy anfon llythyr.
Cysylltwch â ni drwy ysgrifennu at CThEF (yn agor tudalen Saesneg).
Ar ôl i chi anfon y ffurflen
Byddwn yn anelu at adolygu’r ffurflen o fewn 45 diwrnod gwaith.
Efallai y bydd hi’n cymryd hirach os bydd angen i ni ofyn am ragor o wybodaeth.
Updates to this page
-
The ‘If you cannot use the online form’ section has been updated to remove emailing as a way to withdraw your APPA application.
-
Welsh translation added.
-
First published.