Canllawiau

Gwneud newid i’ch cymeradwyaeth ar gyfer cynhyrchwyr cynhyrchion alcoholaidd (APPA)

Rhoi gwybod i CThEF am newidiadau i’ch APPA.

Ynglŷn â’r ffurflen hon

Mae’n rhaid i chi roi gwybod i CThEF am newidiadau i’ch cymeradwyaeth ar gyfer cynhyrchwyr cynhyrchion alcoholaidd (APPA), neu gais APPA.

Gallwch ddefnyddio’r ffurflen hon i roi gwybod i ni am newidiadau i’r canlynol:

  • manylion y busnes a manylion cyswllt
  • perchnogaeth a’r sawl sydd â chyfrifoldeb dros y busnes
  • y gwaith cynhyrchu a manylion y safle

Mae ffurflenni gwahanol os oes angen i chi wneud y canlynol:

Pan fydd angen i chi roi gwybod i ni am newid

Mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni am unrhyw newid i’ch APPA cyn gynted â phosibl.

Bydd angen i chi roi gwybod i ni am rai newidiadau cyn iddynt ddigwydd ac eraill o fewn 14 diwrnod calendr.

Darllenwch adran 4.25 o’r canllaw technegol ar gyfer cynhyrchion alcoholaidd (yn agor tudalen Saesneg) i ddysgu pryd mae angen i chi roi gwybod i CThEF am bob newid.

Os na fyddwch yn rhoi gwybod i ni am newidiadau, mae’n bosibl y codir cosb arnoch.

Yr hyn y bydd ei angen arnoch

I wneud newid, bydd angen i chi nodi’r manylion canlynol:

  • eich enw a’ch manylion cyswllt
  • eich statws busnes presennol a’ch manylion
  • eich ID APPA, os oes un gennych

Os nad oes gennych ID APPA, bydd angen i chi nodi’r canlynol:

  • enw’r busnes
  • Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR)
  • cyfeirnod cyflwyno APPA

Os oes angen i chi newid manylion eich busnes a manylion TAW

Dim ond y manylion busnes sydd wedi newid sydd angen i chi roi gwybod i ni amdanynt, megis:

  • enw, enw’r cwmni neu’r enw masnachu
  • eich dyddiad geni
  • rhif Yswiriant Gwladol
  • cyfeiriad, cyfeiriad busnes neu gyfeiriad masnachu
  • rhif y cwmni

Mae angen i chi roi gwybod i ni a yw’r busnes wedi’i gofrestru ar gyfer TAW ac os felly, y rhif cofrestru TAW.

Os oes angen i chi newid manylion endid cyfreithiol neu berchnogaeth

Mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni am y canlynol:

  • enw newydd neu enw’r busnes, os yw’n berthnasol
  • dyddiad cwblhau disgwyliedig

Os yw’ch manylion perchnogaeth wedi newid, bydd hefyd angen i chi roi gwybod i ni am y canlynol:

  • pobl sydd â chyfrifoldeb dros y busnes
  • gofynion cyfreithiol ar gyfer trin alcohol

Os oes angen i chi newid manylion am eich gofynion cyfreithiol ar gyfer trin alcohol

Mae angen i chi roi gwybod i ni am unrhyw berson sy’n berchen ar y busnes, yn ei reoli neu’n ymwneud â gweithredu’r busnes hwnnw, sydd naill ai o dan y Deddfau Tollau Tramor a Chartref:

  • wedi cael ei ddyfarnu’n euog o drosedd
  • wedi cael nwyddau wedi eu hatafael ganddo

Byddwn yn cysylltu â chi i ofyn am y manylion os na fyddwch yn eu nodi yn y ffurflen hon.

Os oes angen i chi newid manylion cynhyrchu neu fanylion safle

Dim ond am y manylion cynhyrchu a fydd yn newid sydd angen i chi roi gwybod i ni amdanynt, megis:

  • y math o alcohol rydych chi’n ei gynhyrchu
  • y dyddiad y byddwch yn dechrau neu’n gorffen cynhyrchu
  • ffigur blynyddol o ran cynhyrchu

Os ydych wedi newid eich manylion cynhyrchu, efallai y bydd angen i chi ddarparu cynllun busnes a diweddaru manylion eich safle.

Ar gyfer pob safle sy’n berthnasol, bydd angen i chi ddarparu’r canlynol:

  • cyfeiriad
  • math o gynnyrch alcoholaidd a fydd yn cael ei storio neu ei gynhyrchu
  • y gweithgareddau yn ymwneud â phob math o gynnyrch alcoholaidd
  • ID APPA unrhyw gynhyrchydd arall y bydd y busnes yn rhannu’r safle ag ef
  • cynllun y safle

Efallai y bydd hefyd rhaid i chi roi gwybod i ni am y canlynol:

  • cynhyrchwyr cynhyrchion alcoholaidd cysylltiedig
  • symud cynhyrchion alcoholaidd, oni bai eich bod yn gynhyrchydd bach ar gyfer seidr

Gwneud newid i’ch APPA

Ar-lein

I wneud newid i’ch cymeradwyaeth, bydd angen i chi fewngofnodi gan ddefnyddio’ch Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’ch cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth.

Dim ond un ffurflen sydd angen i chi ei anfon gyda’r holl newidiadau sydd angen i chi eu gwneud.

Gallwch gadw’r hyn rydych wedi’i wneud a dod yn ôl ato’n nes ymlaen.

Ar ôl i chi anfon y ffurflen, byddwch yn cael e-bost cadarnhau gyda chyfeirnod cyflwyno.

Dechrau nawr

Os na allwch ddefnyddio’r ffurflen ar-lein

Os na allwch ddefnyddio’r ffurflen ar-lein, gallwch roi gwybod i ni am newid i’ch cymeradwyaeth drwy anfon llythyr.

Cysylltwch â ni drwy ysgrifennu at CThEF (yn agor tudalen Saesneg).

Ar ôl i chi anfon y ffurflen

Rydym yn anelu at adolygu’r ffurflen a diweddaru’ch APPA o fewn 45 diwrnod gwaith, ond bydd hynny’n dibynnu ar ba mor gymhleth yw’r newid.

Efallai y bydd hi’n cymryd hirach os bydd angen i ni ofyn am ragor o wybodaeth.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 15 Rhagfyr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf ar 21 Ionawr 2026 show all updates
  1. The ‘If you cannot use the online form’ section has been updated to remove emailing as a way to make a change to your APPA.

  2. Welsh translation added.

  3. First published.

Argraffu'r dudalen hon