Canslo eich cymeradwyaeth ar gyfer cynhyrchwyr cynhyrchion alcoholaidd (APPA)
Rhoi gwybod i CThEF eich bod am ganslo’ch APPA.
Ynglŷn â’r ffurflen hon
Mae’n rhaid i chi roi gwybod i CThEF os ydych am ganslo eich cymeradwyaeth ar gyfer cynhyrchwyr cynhyrchion alcoholaidd (APPA).
Gallwch dynnu’ch cais yn ôl os na fyddwn eisoes wedi’i gymeradwyo.
Mae ffurflenni gwahanol os oes angen i chi wneud y canlynol:
- rhoi gwybod i CThEF am newid i’ch APPA
- cais i dynnu eich cais APPA yn ôl
Yr hyn y bydd ei angen arnoch
Er mwyn gwneud cais i ganslo, bydd angen i chi roi gwybod i ni am y canlynol:
- eich ID APPA
- Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) eich busnes
- y rheswm dros ganslo
- eich manylion cyswllt
Cais i ganslo’ch APPA
Er mwyn gwneud cais i ganslo’ch cymeradwyaeth, bydd angen i chi fewngofnodi gan ddefnyddio’ch Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’ch cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth.
Gallwch gadw’r hyn rydych wedi’i wneud a dod yn ôl ato’n nes ymlaen.
Ar ôl i chi anfon y ffurflen, byddwch yn cael e-bost cadarnhau gyda chyfeirnod cyflwyno.
Os na allwch ddefnyddio’r ffurflen ar-lein
Os na allwch ddefnyddio’r ffurflen ar-lein, gallwch roi gwybod i ni eich bod am ganslo eich cymeradwyaeth drwy anfon llythyr.
Cysylltwch â ni drwy ysgrifennu at CThEF (yn agor tudalen Saesneg).
Ar ôl i chi anfon y ffurflen
Byddwn yn anelu at adolygu’r ffurflen o fewn 45 diwrnod gwaith.
Efallai y bydd hi’n cymryd hirach os bydd angen i ni ofyn am ragor o wybodaeth.
Updates to this page
-
The ‘If you cannot use the online form’ section has been updated to remove emailing as a way to cancel your APPA.
-
Welsh translation added.
-
First published.