Beth i’w wneud os na all yr OPG ymchwilio i’ch pryderon
Mae'r dudalen hon yn rhoi gwybodaeth am beth i'w wneud os na all Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus ymchwilio i'ch pryder.
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
Dim ond rhai pryderon y gall Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG) ymchwilio iddyn nhw.
Mae’r dudalen hon yn egluro beth allwch chi ei wneud pan na all yr OPG ymchwilio.
Os yw eich pryder yn ymwneud â rhywun nad yw’n atwrnai, yn ddirprwy neu’n warcheidwad
Pam na allwn ymchwilio
Dim ond os ydych chi’n codi pryder am rywun a benodwyd i wneud penderfyniadau drwy LPA, EPA, dirprwyaeth neu warcheidiaeth y gall yr OPG ymchwilio.
Ni allwn ymchwilio i’ch pryderon os ydyn nhw ond yn ymwneud â rhywun sy’n adnabod yr unigolyn, fel eu priod neu eu plentyn.
Beth allwch chi ei wneud
Cysylltwch â thîm y gwasanaethau cymdeithasol yn awdurdod lleol yr unigolyn. Mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd i gefnogi pobl sydd mewn perygl o gam-drin ariannol, corfforol neu emosiynol.
Os ydych chi’n credu bod trosedd wedi’i gyflawni, dylech chi ddweud wrth yr heddlu. Ffoniwch 101, rhif yr heddlu pan nad yw’n achos brys.
Mae’r rhoddwr neu P wedi marw
Pam na allwn ni ymchwilio
Os yw’r rhoddwr neu P wedi marw, ni all yr OPG ymchwilio i’ch pryderon oherwydd fod LPA neu EPA yn cael ei chanslo pan fydd yr unigolyn a’i gwnaeth yn marw, a daw dirprwyaeth i ben pan fydd P yn marw.
Beth allwch chi ei wneud
Dywedwch wrth fanc neu gymdeithas adeiladu’r rhoddwr neu P eu bod wedi marw er mwyn iddyn nhw rewi eu cyfrifon. Gall hyn rwystro unrhyw un rhag defnyddio eu harian heb ganiatâd.
Siaradwch ag ysgutor ewyllys y rhoddwr neu P. Gall yr ysgutor ymchwilio i bryderon ynglŷn â’u hystad.
Gallwch chi hefyd wneud cais i’r Gwasanaeth Profiant i gofrestru rhybudd (sy’n cael ei alw’n ‘gafeat’) yn erbyn ystad y rhoddwr neu P. Gall hyn rwystro ysgutor yr ewyllys rhag gweithredu ar unwaith. Dysgwch fwy am hyn yn www.gov.uk/gwneud-cais-am-brofiant.
Os ydych chi’n credu bod rhywun wedi cyflawni trosedd yn erbyn y rhoddwr neu P, dywedwch wrth yr heddlu. Mewn rhai amgylchiadau, gall yr heddlu ymchwilio i drosedd ddifrifol er bod y dioddefwr honedig wedi marw. Ffoniwch 101, rhif yr heddlu ar gyfer achosion nad ydynt yn rhai brys.
Mae gan y rhoddwr neu P alluedd meddyliol
Pam na allwn ni ymchwilio
Os oes gan y rhoddwr neu P y galluedd meddyliol i wneud ei benderfyniadau ei hun, ni all yr OPG ymchwilio i’ch pryderon.
Mae hyn oherwydd bod y gyfraith yn dweud na ddylech chi feddwl bod unigolyn yn analluog i wneud penderfyniad dim ond oherwydd eu bod yn gwneud un annoeth. Os gall y rhoddwr wneud penderfyniad a deall y goblygiadau, dylid eu cefnogi i wneud hynny, hyd yn oed os nad yw pobl eraill yn cytuno â’r penderfyniad.
Serch hynny, os ydych chi’n credu bod trosedd wedi’i gyflawni, dylech chi ddweud wrth yr heddlu. Ffoniwch 101, rhif yr heddlu ar gyfer achosion nad ydynt yn rhai brys.
Beth all y rhoddwr ei wneud
Os oes gan y rhoddwr alluedd meddyliol ac os oes ganddynt bryderon ynglŷn â sut mae eu LPA yn cael ei defnyddio, gallant ei chanslo. Gallant hefyd ddewis cael gwared ar atwrneiod penodol, cyn belled â bod o leiaf un atwrnai arall ar ôl. Neu gallant gadw’r LPA fel y mae, hyd yn oed os yw’n ymddangos nad yw eu hatwrneiod yn gwneud y penderfyniadau gorau.
Os yw eich pryderon yn ymwneud ag LPA
Siaradwch â’r rhoddwr am eich pryderon. Os oes ganddyn nhw’r galluedd meddyliol o hyd i wneud eu penderfyniadau eu hunain, gallant ddweud wrthych chi pa gamau maen nhw eisiau eu cymryd.
Cysylltwch â’r tîm gwasanaethau cymdeithasol yn awdurdod lleol y rhoddwr. Mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd i gefnogi pobl sydd mewn perygl o gam-drin ariannol, corfforol neu emosiynol.
Os yw eich pryderon yn ymwneud â dirprwyaeth
Dim ond pan nad oes gan P alluedd meddyliol y dylai dirprwyaeth barhau. Mae dod â’r ddirprwyaeth i ben yn gofyn am orchymyn llys gan y Llys Gwarchod.