Beth i'w wneud os ydych yn cael negeseuon annisgwyl gan GOV.UK One Login
Beth i'w wneud os ydych yn derbyn e-bost, neges destun neu alwad ffôn gan GOV.UK One Login nad oeddech chi'n ei ddisgwyl neu'n meddwl y gallai fod yn sgam neu hacio.
Newid eich cyfrinair
Newidiwch eich cyfrinair GOV.UK One Login os ydych yn cael neges nad oeddech chi’n ei disgwyl. Gallai hyn fod yn:
- e-bost yn dweud wrthych i ailosod eich cyfrinair
- e-bost neu neges destun gyda chod diogelwch
- e-bost yn gofyn i chi fewngofnodi
- galwad ffôn
Newid eich cyfrinair yw’r ffordd orau i gadw’ch GOV.UK One Login yn ddiogel ac i’ch amddiffyn rhag sgam neu hacio.
Rydym yn argymell eich bod yn:
- creu cyfrinair diogel a chofiadwy, er enghraifft drwy ddefnyddio 3 gair ar hap
- defnyddio cyfrinair gwahanol i’r un rydych yn ei ddefnyddio i fewngofnodi i’ch e-bost
Ffyrdd eraill o gadw’ch gwybodaeth yn ddiogel
Peidiwch:
- ymateb i neges a allai fod yn sgam gwe-rwydo - gwiriwch sut i adnabod sgamiau os nad ydych yn siwr
- dweud wrth unrhyw un beth yw eich cod diogelwch neu unrhyw wybodaeth arall, gan gynnwys os byddant yn gofyn i chi am y wybodaeth hon dros y ffôn
Cysylltu â GOV.UK One Login os ydych angen mwy o help.