Canllawiau

Newid y manylion mewngofnodi ar gyfer eich GOV.UK One Login

Sut i newid y cyfrinair, rhif ffôn neu gyfeiriad e-bost rydych yn ei ddefnyddio i fewngofnodi i'ch GOV.UK One Login.

Newid neu ailosod eich cyfrinair

Newid eich cyfrinair

Gallwch newid eich cyfrinair yn eich GOV.UK One Login. I wneud hyn:

  1. Mewngofnodwch i’ch GOV.UK One Login.
  2. Ewch i ‘Diogelwch’.
  3. O dan ‘Eich manylion mewngofnodi’, dewch o hyd i’r rhes ar gyfer ‘Cyfrinair’ a dewiswch ‘newid’.
  4. Rhowch eich cyfrinair cyfredol a dewiswch ‘Parhau’.
  5. Rhowch gyfrinair newydd a dewiswch ‘Parhau’.

Ailosod eich cyfrinair

Os ydych wedi anghofio eich cyfrinair, gallwch ei ailosod. I wneud hyn:

  1. Ewch i Mewngofnodwch i’ch GOV.UK One Login.
  2. Dewiswch ‘Mewngofnodi’.
  3. Rhowch eich cyfeiriad e-bost.
  4. Ar y sgrin ‘Rhowch gyfrinair’, dewiswch y ddolen sy’n dweud ‘Rwyf wedi anghofio fy nghyfrinair’.
  5. Gwiriwch eich e-bost am god diogelwch.
  6. Rhowch y cod diogelwch a dewiswch ‘Parhau’.
  7. Rhowch god diogelwch arall - cewch hwn trwy neges destun neu o’ch ap dilysu.
  8. Rhowch gyfrinair newydd a dewiswch ‘Parhau’.

Newid eich rhif ffôn

Gallwch newid y rhif ffôn rydych yn ei ddefnyddio i gael codau diogelwch i fewngofnodi. I wneud hyn:

  1. Mewngofnodwch i’ch GOV.UK One Login.
  2. Ewch i ‘Diogelwch’.
  3. O dan ‘Sut rydych yn cael codau diogelwch’, dewch o hyd i’r rhes ar gyfer ‘Neges destun’ a dewiswch ‘newid’.
  4. Rhowch eich cyfrinair a dewiswch ‘Parhau’.
  5. Rhowch rif ffôn newydd a dewiswch ‘Parhau’.
  6. Gwiriwch eich ffôn am neges destun sy’n cynnwys cod diogelwch.
  7. Rhowch y cod diogelwch a dewiswch ‘Parhau’.

Os ydych wedi colli mynediad i’ch ffôn

Os ydych chi wedi colli mynediad i’ch rhif ffôn neu wedi’i newid, efallai y byddwch yn gallu newid sut rydych yn cael codau diogelwch i fewngofnodi i GOV.UK One Login. 

Byddwch ond yn gallu newid sut rydych yn cael codau diogelwch os ydych wedi profi eich hunaniaeth yn barod gyda GOV.UK One Login.

Bydd angen i chi:

  1. Fewngofnodi i’ch GOV.UK One Login.
  2. Rhoi eich cyfrinair.
  3. Pan ofynnir i chi nodi’r cod diogelwch, dewiswch ‘Problemau gyda’r cod’.
  4. Dewis ‘Gwiriwch a allwch chi newid sut rydych yn cael codau diogelwch’.

Os dywedir wrthych na allwch newid sut rydych yn cael codau diogelwch, cysylltwch â GOV.UK One Login.

Os dywedir wrthych y gallwch newid sut rydych yn cael codau diogelwch, bydd angen i chi brofi eich hunaniaeth drwy ddefnyddio’r ap GOV.UK ID Check. Mae hyn oherwydd rydym angen gwybod mai chi sydd yna ac yn helpu i gadw eich GOV.UK One Login yn ddiogel.

Byddwn yn gofyn rhai cwestiynau er mwyn sicrhau y gallwch ddefnyddio’r ap GOV.UK ID Check. Yna byddwn yn dweud wrthych sut i lawrlwytho a defnyddio’r ap i brofi eich hunaniaeth. 

Gallwch ddewis sut rydych eisiau cael y codau diogelwch. Gallwch gael y codau diogelwch wedi’u hanfon i rif ffôn symudol neu eu cael o ap dilysydd. Bydd newid sut rydych yn cael codau diogelwch yn dileu eich dull diofyn ac wrth gefn blaenorol, os ydych wedi sefydlu un.

Cael help i ddefnyddio’r ap GOV.UK One Login

Os na allwch ddefnyddio’r ap yna cysylltwch â GOV.UK One Login.

Newid eich cyfeiriad e-bost

Gallwch newid eich cyfeiriad e-bost yn eich GOV.UK One Login. I wneud hyn:

  1. Mewngofnodwch i’ch GOV.UK One Login.
  2. Ewch i ‘Diogelwch’.
  3. O dan ‘Eich manylion mewngofnodi’, dewch o hyd i’r rhes ar gyfer ‘E-bost’ a dewiswch ‘newid’.
  4. Rhowch eich cyfrinair a dewiswch ‘Parhau’.
  5. Rhowch gyfeiriad e-bost newydd a dewiswch ‘Parhau’.
  6. Gwiriwch eich e-bost am god diogelwch.
  7. Rhowch y cod diogelwch a dewiswch ‘Parhau’.

Cysylltu â GOV.UK One Login os ydych angen mwy o help.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 26 Hydref 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 27 Chwefror 2025 show all updates
  1. Updated instructions on changing how to get security codes if you've lost access to your phone.

  2. The instructions for changing your phone number if you have lost access to your phone or changed your number have been updated to include the rule that you can only do this if you are not also resetting your password.

  3. The steps for resetting your password have been updated.

  4. Added translation

Argraffu'r dudalen hon