Canllawiau

Cael cod diogelwch ar gyfer GOV.UK One Login

Sut i gael cod diogelwch i fewngofnodi i'ch GOV.UK One Login a beth i'w wneud os ydych yn cael problemau wrth dderbyn cod.

Mae cod diogelwch yn helpu i gadarnhau mai chi yw chi pan fyddwch yn mewngofnodi. Pan fyddwch yn creu eich GOV.UK One Login, bydd cod diogelwch yn cael ei anfon i chi drwy neges e-bost.

Gallwch hefyd ddewis sut rydych yn cael codau diogelwch i fewngofnodi. Gall hyn fod naill ai:

  • neges destun i rif ffôn y DU
  • defnyddio ap dilysydd

Os nad ydych yn derbyn cod diogelwch trwy neges destun

Gallwch geisio cael y cod wedi’i anfon eto trwy ddewis y ddolen anfon y cod eto.

Os yw’ch rhif ffôn wedi’i gofrestru y tu allan i’r DU ac nad yw’ch cod yn cyrraedd pan yn mewngofnodi, dewiswch ‘Problemau gyda’r cod?’ ac yna ‘Gwiriwch a allwch chi newid sut rydych yn cael codau diogelwch’.

Os ydych yn creu eich GOV.UK One Login, dylech wirio eich bod wedi rhoi’r rhif ffôn yn gywir a’i roi eto os na. Gallwch wneud hyn drwy ddewis y ddolen ‘defnyddio rhif ffôn gwahanol’.

Os nad ydych yn derbyn y cod o hyd, gallai fod oherwydd:

  • nid oes gan eich ffôn signal
  • mae anfonwr y neges destun wedi’i flocio ar eich dyfais

Cael cod os oes gennych rif ffôn y tu allan i’r DU

Ni allwch gael cod diogelwch trwy neges destun os yw’ch rhif ffôn wedi’i gofrestru y tu allan i’r DU.

Bydd angen i chi ddefnyddio ap dilysydd neu rif ffôn symudol yn y DU yn lle hynny.

Defnyddio ap dilysydd

Gallwch ddefnyddio ap dilysydd i gael cod diogelwch.

Mae ap dilysydd yn creu cod diogelwch rydych yn ei roi yn yr un modd â chod rydych yn ei gael trwy neges destun neu e-bost.

Gallwch ddefnyddio ap dilysydd ar eich ffôn clyfar, tabled neu gyfrifiadur.

Lawrlwythwch ap dilysydd o’ch ‘app store’ neu chwiliwch ar-lein am un y gallwch ddefnyddio ar eich cyfrifiadur.

Pan fyddwch yn creu eich GOV.UK One Login, dilynwch y cyfarwyddiadau ar y dudalen Sefydlu ap dilysydd.

Os nad ydych yn derbyn cod diogelwch trwy e-bost

  1. Gwiriwch eich bod wedi rhoi eich cyfeiriad e-bost yn gywir.
  2. Gwiriwch eich ffolder sbam neu junk.
  3. Rhowch gynnig eto a dewiswch y ddolen ‘Anfon y cod eto’.
  4. Os ydych yn defnyddio cyfeiriad e-bost gwaith neu fusnes, gwiriwch gyda’ch tîm TG i wneud yn siwr nad yw negeseuon e-bost gan GOV.UK One Login yn cael eu blocio na’u cyfyngu.

Gallwch hefyd geisio defnyddio cyfeiriad e-bost gwahanol.

Os nad yw’ch cod diogelwch yn gweithio

Mae yna ychydig o resymau pam efallai na fydd y cod rydych yn ei roi yn gweithio. Gwiriwch:

  • eich bod wedi ei roi yn gywir
  • os gwnaethoch ofyn am fwy nag un cod, eich bod yn rhoi’r cod diweddaraf
  • nad yw wedi dod i ben - bydd y cod yn dod i ben ar ôl 15 munud
  • os ydych yn cael codau ar eich ffôn, mae gennych rif ffôn y DU

Os ydych wedi derbyn cod diogelwch ac heb ofyn amdano

Os ydych wedi derbyn cod diogelwch trwy neges destun neu e-bost gan GOV.UK One Login ac nad oeddech yn ei ddisgwyl, gallai hyn fod oherwydd bod rhywun yn ceisio mewngofnodi i’ch GOV.UK One Login. Os bydd hyn yn digwydd, gallwch newid eich cyfrinair i gadw’ch GOV.UK One Login yn ddiogel.

Mwy am sut i newid eich cyfrinair.

Os ydych wedi derbyn cod diogelwch annisgwyl ac nad oes gennych GOV.UK One Login, gallwch ei anwybyddu.

Os oes angen i chi newid eich manylion mewngofnodi

Gallwch newid eich manylion mewngofnodi, gan gynnwys newid y rhif ffôn neu’r cyfeiriad e-bost rydych yn ei ddefnyddio i gael codau diogelwch.

Cysylltu â GOV.UK One Login os ydych angen mwy o help.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 26 Hydref 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 6 Chwefror 2026 show all updates
  1. Added information to explain you can only get security codes to a UK mobile phone number or authenticator app.

  2. Added sections on : 'Using an authenticator app' to get security codes, and what to do 'If you need to change your sign in details'

  3. Added guidance about what to do if receive a unexpected security code for GOV.UK One Login

  4. Added translation

Argraffu'r dudalen hon