Defnyddio Darparwr Gwasanaeth Corfforaethol Awdurdodedig (ACSP) i gwblhau gwiriad hunaniaeth
Sut i ddod o hyd i ACSP, beth sydd ei angen ar ACSP i gwblhau eich gwiriad hunaniaeth ar gyfer Tŷ’r Cwmnïau, a beth sy’n digwydd ar ôl i ACSP gwblhau eich gwiriad hunaniaeth.
Os oes angen i chi gwblhau gwiriad hunaniaeth ar gyfer Tŷ’r Cwmnïau, gallwch ofyn i ACSP wneud hyn ar eich rhan.
Mae ACSP yn asiant, fel cyfrifydd neu gyfreithiwr, sy’n ffeilio ar ran eraill. I gofrestru fel ACSP gyda Thŷ’r Cwmnïau, rhaid iddynt gael eu goruchwylio at ddibenion Atal Gwyngalchu Arian (AML).
Sut i ddod o hyd i ACSP
Os oes gennych gyfrifydd neu gyfreithiwr presennol (neu unrhyw weithiwr proffesiynol arall sy’n cael ei oruchwylio gan AML), gallwch ofyn iddynt a ydynt wedi’u cofrestru gyda Thŷ’r Cwmnïau fel ACSP.
Gallwch hefyd edrych ar ein rhestr gyhoeddus o ACSP. Mae’r asiantau ar y rhestr hon wedi gofyn am gyhoeddi eu manylion, felly efallai na fydd yn cynnwys pob ACSP.
Wrth ddewis asiant, rydym yn argymell eich bod chi’n darganfod mwy am eu henw da a’u profiad. Bydd hyn yn eich helpu i ddewis asiant a all ddarparu’r gwasanaethau sydd eu hangen arnoch.
Beth sy’n digwydd pan mae ACSP yn cwblhau eich gwiriad hunaniaeth
Bydd angen i chi roi’r wybodaeth ganlynol i’ch ACSP:
- eich enw llawn
- eich cyfeiriad cartref
- eich cyfeiriad e-bost - byddwn yn defnyddio hwn i anfon gwybodaeth am eich gwiriad
- tystiolaeth i brofi eich hunaniaeth – bydd eich ACSP yn dweud wrthych ba dystiolaeth y gallwch ei defnyddio
Ar ôl i ACSP gwblhau eich gwiriad hunaniaeth
Byddwn yn anfon eich cod personol i’r cyfeiriad e-bost rydych chi’n ei roi i’ch ACSP. Sicrhewch ei fod yn gywir a’ch bod yn gallu cael mynediad at negeseuon e-bost a anfonir i’r cyfeiriad.
Dylech dderbyn yr e-bost o fewn ychydig oriau. Efallai y bydd angen i chi wirio’ch ffolder sbam neu sothach.
Os ydych chi’n defnyddio eich cod personol i gysylltu eich hunaniaeth sydd wedi’i wirio â’n cofnodion, byddwn yn dangos datganiad gwiriad ar y gofrestr gyhoeddus.
Bydd y datganiad yn cynnwys:
- eich enw
- y dyddiad y cwblhawyd eich gwiriad hunaniaeth
- enw’r ACSP a gwblhaodd eich gwiriad hunaniaeth
- enwau’r cyrff goruchwylio Atal Gwyngalchu Arian (AML) y mae’r ACSP wedi’i gofrestru gyda nhw
Os nad ydych chi’n derbyn e-bost gyda’ch cod personol
Dylech gysylltu â’r ACSP a gwblhaodd eich gwiriad hunaniaeth a gwirio pa gyfeiriad e-bost a ddarparwyd ganddynt. Os ydynt wedi darparu cyfeiriad e-bost anghywir, bydd angen iddynt gywiro eich manylion.
Os yw’r cyfeiriad e-bost yn gywir, cysylltwch â ni a gofynnwch am y tîm ACSP. Gallwn ail-anfon yr e-bost gyda’ch cod personol.
Sut i gadw’ch cyfeiriad e-bost yn gyfredol
Efallai y bydd angen i ni anfon diweddariadau pwysig atoch ar ôl i chi gwblhau gwiriad hunaniaeth. Dylech roi gwybod i ni os yw eich cyfeiriad e-bost yn newid.
Os ydych chi’n mewngofnodi neu’n creu cyfrif Tŷ’r Cwmnïau ar ôl i chi dderbyn eich cod personol, byddwch yn gallu:
- diweddaru eich cyfeiriad e-bost pan fydd angen
- gweld eich cod personol yn eich cyfrif
Byddwn yn cynnwys cyfarwyddiadau ar sut i wneud hyn pan fyddwn yn e-bostio eich cod personol.