Canllawiau

Defnydd o Ddeallusrwydd Artiffisial (AI) mewn Tystiolaeth Achoswaith

Canllawiau ar ddefnyddio deallusrwydd artiffisial (AI) fel rhan o unrhyw apel, cais neu arholiad sy'n cael ei ymdrin gan yr Arolygiaeth Cynllunio.

Yn berthnasol i Loegr a Chymru

Mae’r Arolygiaeth yn deall y gellir defnyddio AI i gefnogi ein gwaith, a gellir gwneud hyn yn gadarnhaol pan gaiff ei ddefnyddio’n briodol ac yn dryloyw. Oherwydd datblygiad parhaus gallu a chymhwysiad AI byddwn yn cadw’r canllaw hwn dan adolygiad.

Cewch ddefnyddio deallusrwydd artiffisial (AI) i helpu paratoi’r wybodaeth a anfonwch at yr Arolygiaeth Gynllunio os byddwch yn dilyn y canllaw hwn sy’n esbonio beth ddylech ei ddweud wrthym pan ddefnyddiwyd AI i greu neu newid unrhyw ran o’ch cyflwyniad yn sylweddol.

Rydym yn gofyn am yr wybodaeth hon fel y gall yr Arolygwyr ddeall tarddiad a thriniaeth y deunydd y maent yn ei asesu. Mae hyn yn eu helpu i wneud penderfyniadau teg, tryloyw ac wedi’u rhesymu’n dda. Mae’r gofynion wedi’u cynllunio i fod yn syml ac i beidio â bod yn faich.

Nid oes angen i chi ddweud wrthym am offer arferol megis gwirio sillafu, awgrymiadau gramadeg, offer fformatio, neu swyddogaethau hygyrchedd.

‘Rheol euraidd’ ar gyfer unrhyw ddefnydd o AI yw bod yn rhaid i chi ddefnyddio AI yn gyfrifol. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod yr wybodaeth a gynhyrchir yn gywir ac yn briodol.

Pryd y mae angen i chi ddweud wrthym am ddefnydd o AI

Dylech ddweud wrthym os ydych wedi defnyddio AI i:

  • drafftio neu ailysgrifennu testun yn sylweddol
  • cynhyrchu crynodeb neu ddadansoddiad
  • cynhyrchu neu newid delweddau neu fideos
  • chreu cynnwys sy’n mynd y tu hwnt i fformatio neu gyflwyniad syml

Sut i ddarparu eich datganiad

Dim ond datganiad byr sydd ei angen.

Gellir ei gynnwys yn eich e-bost clawr, llythyr neu fel rhan o’ch datganiad a/neu dystiolaeth ysgrifenedig.

Beth i’w gynnwys yn eich datganiad

Nodwch yn gryno:

  1. Fod AI wedi’i ddefnyddio.
  2. Pa offeryn a ddefnyddiwyd.
    Er enghraifft, CoPilot, chatGPT, midjourney neu gymhwysiad arall.

  3. Beth y’i defnyddiwyd ar ei gyfer a sut y’i defnyddiwyd.
    Er enghraifft, os defnyddiwyd i ddrafftio gwrthwynebiad yn gyffredinol neu ran benodol o wrthwynebiad.
    Er enghraifft, os oes unrhyw ddelweddau neu fideos wedi’u cynhyrchu neu eu newid, nodwch pa rannau sydd wedi newid.
  4. Pa wiriadau a wnaethoch a’ch bod yn cymryd cyfrifoldeb am gywirdeb y cynnwys.

Partïon proffesiynol

Disgwylir i bartïon proffesiynol gymryd cyfrifoldeb am gywirdeb a chyfreithlondeb y deunydd a gyflwynant.

Os ydych yn aelod o gorff proffesiynol, dylech hefyd ddefnyddio AI yn unol â’ch cod ymarfer proffesiynol. Gellid ymgorffori’r cyngor uchod ar yr hyn i’w gynnwys yn eich ardystiad.

Partïon â diddordeb

Gall partïon â diddordeb ddefnyddio AI i helpu drafftio neu gyfieithu eu sylwadau. Os gwnewch hynny, rhowch ddatganiad byr yn dweud hynny.

Dilynwch y cyngor uchod ar yr hyn i’w gynnwys yn eich datganiad, gan sicrhau eich bod yn glir am gymryd cyfrifoldeb am yr hyn a anfonwch, er enghraifft:

“Rwyf wedi defnyddio AI i helpu drafftio’r sylwadau hyn. Yn benodol, defnyddiais Microsoft CoPilot i fy helpu i ddrafftio fy sylwadau ar y polisïau cynllunio. Rwyf wedi’u gwirio ac rwy’n gyfrifol am yr hyn a ddywedir.”

Pam rydym yn gofyn am yr wybodaeth hon

Mae darparu datganiad byr yn helpu’r Arolygydd i ddeall sut y cafodd y deunydd ei gynhyrchu a’i asesu’n deg.

Er bod AI yn offeryn defnyddiol iawn, nid yw’r canlyniadau a roddir bob amser yn berffaith. Mae AI hefyd yn gallu creu sylwadau neu dystiolaeth ffug, neu fathau eraill o destunau a delweddau ffug.

Dylai’r camau a nodwyd uchod eich helpu i ystyried sut rydych wedi defnyddio AI yn eich cyflwyniadau. Dylai hefyd helpu i liniaru’r risg o ychwanegu baich ychwanegol / amser diangen i’r achos. Mae hyn yn bwysig gan y gallai defnydd amhriodol gael ei ystyried yn enghraifft o ymddygiad afresymol, a chodi’r posibilrwydd o ddyfarnu costau.

Drwy ddilyn y canllaw hwn, byddwch yn helpu ni, ein Harolygwyr, a phobl eraill sy’n rhan o’r broses i ddeall tarddiad, pwrpas a chywirdeb yr wybodaeth. Bydd hyn yn helpu pawb i’w dehongli a’i deall yn briodol.

Diogelu data a gwybodaeth sensitif

Peidiwch â rhoi gwybodaeth sensitif neu bersonol i mewn i offer AI cyhoeddus. gweler ICO.org.uk am ddiffiniadau’r termau hyn

Cyswllt

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch ynghylch sut i ddarparu’r wybodaeth hon, cysylltwch â’r tîm achos perthnasol gan ddefnyddio’ch cyfeirnod achos.

Dylid cyfeirio unrhyw gwestiynau eraill trwy ein Tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 6 Medi 2024
Diweddarwyd ddiwethaf ar 20 Chwefror 2026 show all updates
  1. To update our existing guidance in line with evolving AI use by our customers and translation added

  2. First published.

Argraffu'r dudalen hon