Canllawiau

Diweddaru’ch manylion cyswllt gyda CThEF, fel asiant treth

Rhowch wybod i CThEF am newidiadau i’ch manylion cyswllt a’ch manylion ynghylch goruchwyliaeth gwrth-wyngalchu arian, fel asiant treth.

Gallwch fwrw golwg dros y manylion cyswllt canlynol, a’u diweddaru gyda CThEF:

  • enw’r busnes
  • cyfeiriad busnes — ni all hwn fod yn gyfeiriad blwch Swyddfa’r Post
  • rhif ffôn
  • e-bost

Os yw endid cyfreithiol eich busnes yn newid (yn agor tudalen Saesneg), bydd angen i chi greu cyfrif gwasanaethau asiant newydd.

Ni allwch ddiweddaru’ch manylion gyda CThEF ar gyfer y gwasanaethau TAW canlynol:

  • Gwasanaeth Un Cam ar gyfer TAW 
  • Ad-daliadau TAW yr UE ar gyfer Asiantau

Diweddaru’ch manylion yn eich cyfrif gwasanaethau asiant

Mewngofnodwch i’ch cyfrif gwasanaethau asiant, a dewis ‘Rheoli cyfrif’.

Er mwyn i chi allu gwneud newidiadau, mae’n rhaid i chi naill ai fod yn ddefnyddiwr gweinyddol sy’n gweithio yn un o’r rolau canlynol, neu wedi’ch awdurdodi gan gydweithiwr sy’n gweithio yn un o’r rolau canlynol:

  • cyfarwyddwr
  • ysgrifennydd y cwmni
  • unig fasnachwr
  • perchennog
  • partner

Gallwch ddefnyddio’ch cyfrif i wneud yr un newidiadau i’ch codau asiant ar gyfer Hunanasesiad a Threth Gorfforaeth (yn agor tudalen Saesneg). I wneud hyn, bydd angen eich codau arnoch. Mae CThEF yn anfon codau drwy’r post pan fydd eich sefydliad yn gofyn am fynediad asiant i’r gwasanaethau treth hyn.

Unwaith i chi wneud eich newidiadau, ni allwch wneud unrhyw newid arall am 4 wythnos. Bydd eich hen fanylion yn dal i ddangos yn eich cyfrif yn ystod y cyfnod hwn.

I gysylltu cyfeiriad gwahanol i’ch cod asiant ar gyfer Hunanasesiad a Threth Gorfforaeth, darllenwch yr adrannau canlynol.

Diweddaru’ch manylion cod asiant ar gyfer Hunanasesiad

Ysgrifennwch at:

Tîm Cydymffurfiad Asiantau
Cyllid a Thollau EF
BX9 1ZE
Y Deyrnas Unedig

Diweddaru’ch manylion cod asiant ar gyfer Treth Gorfforaeth

Yn yr adran ‘Ynglŷn â’ch Ffỳrm’ yn eich cyfrif ar-lein, gallwch ddiweddaru’r manylion canlynol:

  • cyfeiriad eich busnes
  • eich rhif ffôn
  • eich e-bost

Os nad oes unrhyw newid i’r endid cyfreithiol (yn agor tudalen Saesneg), gallwch ddiweddaru enw’ch busnes drwy ysgrifennu at:

Tîm Cydymffurfiad Asiantau
Cyllid a Thollau EF
BX9 1ZE
Y Deyrnas Unedig

Diweddaru’ch manylion cod asiant ar gyfer TWE neu CIS

Dilynwch y camau hyn i ddiweddaru’ch manylion cod asiant ar gyfer TWE (Talu Wrth Ennill) neu ar gyfer Cynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS):

  1. Ffoniwch Wasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF: 0300 200 1900.

  2. Anfonwch eich rhestr o gleientiaid i’r Tîm Canolog ar gyfer Awdurdodi Asiantau er mwyn i’r tîm allu diweddaru’ch cyfeiriad newydd ar holl gofnodion eich cleientiaid.

Ysgrifennwch at:

Swyddfa Cyfraniadau Yswiriant Gwladol a Chyflogwyr
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
HMRC
BX9 1ST
Y Deyrnas Unedig

Bydd angen i chi gynnwys yr wybodaeth ganlynol ar eich rhestr o gleientiaid:

  • eu henwau
  • eu cyfeirnodau TWE y cyflogwr
  • eu henwau busnes

O ran cleientiaid unigol sydd ond yn ymwneud â TWE, ac sydd heb gofnod Hunanasesiad, bydd angen i chi anfon rhestr o’u henwau a’u rhifau Yswiriant Gwladol.

Os na fyddwch yn anfon manylion eich cleientiaid, gallai copïau o ohebiaeth gael eu hanfon i’ch hen gyfeiriad ar gyfer pob cleient sydd wedi’i awdurdodi.

Diweddaru’ch manylion ynghylch goruchwyliaeth gwrth-wyngalchu arian

Mewngofnodwch i’ch cyfrif gwasanaethau asiant, a dewis ‘Rheoli cyfrif’.

Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i fwrw golwg dros eich manylion ynghylch goruchwyliaeth gwrth-wyngalchu arian a diweddaru’r canlynol:

  • corff goruchwylio
  • cyfeirnod
  • dyddiad yr adnewyddiad

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 23 Ebrill 2024
Diweddarwyd ddiwethaf ar 21 Mai 2024 show all updates
  1. We have made it clear that you cannot use a PO box address as your business address.

  2. Added translation

  3. First published.

Argraffu'r dudalen hon