Credyd Cynhwysol: beth allech chi ei gael os oes gennych gyflwr iechyd neu anabledd
Sut mae'r 2 gyfradd ar gyfer gallu cyfyngedig i weithio a gweithgareddau sy'n gysylltiedig â gwaith yn gweithio o 6 Ebrill 2026.
Yn berthnasol i Loegr, yr Alban a Chymru
LCWRA (gallu cyfyngedig i weithio a gweithgareddau sy’n gysylltiedig â gwaith)
Efallai y byddwch yn cael mwy o arian ar ben eich lwfans safonol os na allwch weithio oherwydd cyflwr iechyd neu anabledd.
Mae’r swm ychwanegol hwn o arian ar gyfer pobl sydd â gallu cyfyngedig i weithio a gweithgareddau sy’n gysylltiedig â gwaith (LCWRA). Mae rhai pobl yn galw hyn yn ‘elfen iechyd’ neu’r ‘elfen LCWRA’.
Newidiodd Deddf Credyd Cynhwysol 2025 sut mae’r swm ychwanegol hwn yn gweithio o 6 Ebrill 2026. Nid yw’r newidiadau hyn yn effeithio arnoch os ydych yn cael LCWRA ar hyn o bryd ac wedi bod yn ei gael ers cyn 6 Ebrill 2026.
Beth sydd wedi newid ers 6 Ebrill 2026
Mae’r swm ychwanegol LCWRA bellach yn cael ei dalu ar 2 gyfradd yn hytrach nag un: cyfradd uwch a chyfradd is.
Mae’r gyfradd a gewch yn dibynnu ar:
- pryd wnaethoch chi ddatgan eich cyflwr iechyd neu anabledd
- os oes gennych gyflwr iechyd neu anabledd difrifol, gydol oes
- os ydych yn agosáu at ddiwedd eich oes
Pryd y byddwch yn cael y swm LCWRA uwch
Fe gewch y swm uwch os oes unrhyw rai o’r canlynol yn berthnasol:
- rydych wedi dweud wrthym am eich cyflwr iechyd neu anabledd cyn 6 Ebrill 2026, waeth beth yw dyddiad y penderfyniad LCWRA
- roeddech eisoes yn cael LCWRA cyn 6 Ebrill 2026
- roedd gennych yr elfen ‘grŵp cymorth’ o Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm cyn 6 Ebrill 2026 ac yn parhau i’w gael nes i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol
Cyflyrau iechyd neu anableddau difrifol, gydol oes
Byddwch yn cael y swm uchaf o LCWRA os yw un o’r isod yn berthnasol:
- mae gennych gyflwr iechyd neu anabledd difrifol, gydol oes
- rydych yn agosáu at ddiwedd eich oes
Mae hyn yn berthnasol waeth pryd rydych yn gwneud cais.
Pryd y byddwch yn cael y swm LCWRA is
Byddwch yn cael y swm is o LCWRA os yw’r canlynol i gyd yn berthnasol:
- rydych yn datgan cyflwr iechyd neu anabledd ar neu ar ôl 6 Ebrill 2026
- nad oes gennych gyflwr iechyd difrifol, gydol oes
- nid ydych yn agosáu at ddiwedd eich oes
- nid oes gan eich partner, os oes gennych un, hawl i’r swm LCWRA uwch
Sut rydym yn asesu cyflyrau ac anableddau difrifol a gydol oes
Bydd gweithiwr iechyd proffesiynol yn adolygu eich tystiolaeth feddygol fel rhan o Asesiad Gallu i Weithio (WCA).
Ni fydd angen i chi gael WCA os ydych yn agosáu at ddiwedd eich oes.
Byddwch yn cael eich trin fel bod gennych gyflwr iechyd neu anabledd difrifol, gydol oes os yw’r rhain i gyd yn berthnasol. Mae eich cyflwr iechyd neu anabledd:
- yn golygu na allwch weithio
- bydd yn para eich bywyd cyfan
- ni fydd yn gwella
- yn cael diagnosis swyddogol gan weithiwr iechyd proffesiynol
Os yw’r WCA yn canfod bod gennych gyflwr iechyd neu anabledd difrifol, gydol oes byddwch yn cael llythyr ar ôl yr asesiad sy’n dweud hyn wrthych.
Os ydych yn cael eich asesu fel bod â chyflwr iechyd neu anabledd difrifol, gydol oes ni fyddwch angen asesiad arall fel arfer.
Os ydych yn rhan o gwpl
Os ydych yn byw gyda’ch partner ac mae gennych LCWRA, dim ond un swm misol ychwanegol o LCWRA y byddwch yn ei gael. Os oes gan un ohonoch hawl i’r swm uwch, byddwch yn cael y swm uwch.
Os oedd gennych allu cyfyngedig i weithio cyn 3 Ebrill 2017
Os oes gennych allu cyfyngedig i weithio (LCW), efallai y byddwch yn gymwys i gael £158.76 y mis yn ychwanegol. Rhaid i chi fod wedi dechrau eich cais Credyd Cynhwysol sy’n gysylltiedig ag iechyd neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) cyn 3 Ebrill 2017.