Canllawiau

Credyd Cynhwysol a lefelau cyrsiau addysg

Gall eich lefel addysg presennol effeithio ar eich Credyd Cynhwysol os ydych chi'n fyfyriwr, neu os yw'ch plentyn rhwng 16 a 19 oed ac mewn addysg.

Mae’r canllaw hwn yn rhoi enghreifftiau o’r cyrsiau sy’n cael eu cyfrif fel addysg ‘nad yw’n addysg uwch’ ac ‘uwch’ ar gyfer Credyd Cynhwysol.

Sut mae lefel y cwrs yn effeithio ar Gredyd Cynhwysol

Mae lefel yr addysg sy’n cael ei hastudio yn effeithio ar:

  • daliadau Credyd Cynhwysol ychwanegol ar gyfer plant rhwng 16 a 19 oed
  • eich cymhwysedd ar gyfer Credyd Cynhwysol fel myfyriwr

Os ydych chi’n rhiant neu’n warcheidwad i blentyn rhwng 16 a 19 oed

Os yw’ch plentyn rhwng 16 a 19 oed efallai y byddwch chi’n gymwys i gael y swm ychwanegol o Gredyd Cynhwysol os ydyn nhw mewn addysg llawn amser nad yw’n addysg uwch. Byddwch chi’n parhau i gael taliadau ar gyfer plentyn yn eich cartref rhwng 16 a 19 oed os ydyn nhw’n parhau mewn addysg nad yw’n addysg uwch.

Darganfyddwch fwy am pryd y gallwch gael y taliad Credyd Cynhwysol ychwanegol ar gyfer plant 16 i 19 oed.

Os ydych chi neu’ch partner yn fyfyriwr

Efallai y byddwch yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol os:

  • rydych chi neu’ch partner mewn addysg llawn amser nad yw’n addysg uwch
  • rydych yn bodloni meini prawf penodol, er enghraifft rydych yn gymwys i gael budd-dal anabledd cymwys neu’n gyfrifol am blentyn

Nid yw’r rhan fwyaf o fyfyrwyr mewn addysg uwch yn gymwys, ond mae yna eithriadau. Darganfyddwch fwy am Gredyd Cynhwysol a myfyrwyr.

Beth sy’n cyfrif fel addysg nad yw’n addysg uwch

Mae addysg nad yw’n addysg uwch yn cynnwys cymwysterau islaw lefel addysg uwch, ac fel arfer fe’u cynigir mewn ysgolion neu golegau addysg bellach. Nid yw addysg nad yw’n addysg uwch yn cynnwys prentisiaethau.

Addysg nad yw’n addysg uwch Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon

Mae addysg nad yw’n addysg uwch rhwng lefelau 1 a 3 ar y Fframwaith Cymwysterau Rheoleiddiedig (RQF).

Mae enghreifftiau’n cynnwys:

  • TGAU, lefel AS, lefel A a lefel T
  • NVQ, dyfarniad, tystysgrif neu ddiploma, hyd at lefel 3
  • BTEC a Diploma Estynedig BTEC, hyd at lefel 3
  • tystysgrif genedlaethol a diploma cenedlaethol hyd at lefel 3
  • cyrsiau sgiliau hanfodol a swyddogaethol hyd at lefel 3
  • CACHE, City and Guilds, EDEXCEL, ESOL, hyd at lefel 3
  • Sgiliau am Oes
  • NQual, hyd at lefel 3
  • Cymhwyster Porth hyd at lefel 3
  • Llwybrau hyd at lefel 3
  • diploma mynediad i addysg uwch
  • diploma Bagloriaeth ryngwladol
  • unrhyw gwrs nad yw’n cael ei ddosbarthu fel addysg uwch

Addysg nad yw’n addysg uwch yr Alban

Mae addysg nad yw’n addysg uwch rhwng lefelau 1 a 6 ar y Scottish Credit and Qualifications Framework (SCQF).

Mae enghreifftiau’n cynnwys:

  • Cymhwyster Cenedlaethol hyd at lefel 6
  • Scottish Higher and Advanced Higher
  • Tystysgrif Genedlaethol (CC) a Dyfarniad Dilyniant Cenedlaethol (NPA) hyd at lefel 6
  • Skills for Work
  • Dyfarniad SQA hyd at Lefel 6
  • SCQF hyd at lefel 6
  • Dyfarniad Datblygiad Proffesiynol (PDA) hyd at lefel 6
  • Scottish Vocational Qualification (SVQ) hyd at lefel 3
  • cyrsiau cyflwyniadol neu fynediad nad ydynt yn arwain yn uniongyrchol at radd
  • BTEC a Diploma Estynedig BTEC, hyd at lefel 3
  • diploma Bagloriaeth ryngwladol
  • Diploma Cenedlaethol Cyffredin a Gradd Safonol
  • unrhyw gwrs nad yw’n cael ei ddosbarthu fel addysg uwch

Beth sy’n cyfrif fel addysg uwch

Mae addysg uwch yn cynnwys cymwysterau addysg uwch uwchlaw Lefel A neu gyfwerth. Fel arfer mae’n arwain at astudiaeth ar lefel prifysgol.

Addysg uwch Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon

Mae enghreifftiau’n cynnwys:

  • gradd prifysgol
  • cymhwyster lefel ôl-raddedig
  • NVQ lefel 4 neu uwch
  • prentisiaeth gradd
  • diploma addysg uwch (DipHE)
  • tystysgrif addysg uwch (CertHE)
  • diploma cenedlaethol uwch (HND)
  • tystysgrif genedlaethol uwch (HNC)
  • gradd sylfaen
  • cymhwyster addysgu
  • diploma graddedig

Addysg uwch yr Alban

Mae enghreifftiau’n cynnwys:

  • gradd prifysgol
  • cymhwyster lefel ôl-raddedig
  • Scottish Qualifications Authority (SQA) higher national certificate (HNC)
  • diploma cenedlaethol uwch (HND) SQA
  • diploma addysg uwch
  • SVQ lefel 7 ac uwch
  • cymhwyster addysgu

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 16 Medi 2025
Diweddarwyd ddiwethaf ar 16 Medi 2025 show all updates
  1. Added translation

  2. First published.

Argraffu'r dudalen hon