Canllawiau

Caffael (8)

Mae’r dudalen hon yn darparu gwybodaeth ar gaffael ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Caffael

8.1 Mae’r canllawiau caffael cyhoeddus cyffredinol yn adran 7.6.2 y Prosbectws a lansiwyd ar 13 Ebill 2022 yn berthnasol o hyd i Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

8.2 Awdurdodau lleol arweiniol sydd yn y lle gorau i benderfynu ar y dulliau mwyaf buddiol o wneud y mwyaf o effaith ymyriadau’r UKSPF yn eu hardal leol. Gwyddom fod gan awdurdodau lleol arweiniol y profiad a’r wybodaeth angenrheidiol ynghylch cyflawni prosiectau felly mewn ffordd sy’n cydymffurfio’n gyfreithiol. Gyda chyfle i ymgymryd â chystadlaethau ar gyfer gweithgareddau cyllid grant, comisiynu neu gaffael, neu ddefnyddio timau mewnol i gyflawni amcanion, mae angen sicrwydd ar uwch gynrychiolwyr y bydd eu hawdurdod yn cydymffurfio â’r safonau gofynnol a’r dyletswyddau cyfreithiol canlynol wrth gyflawni’r gronfa hon:

  • Cyfansoddiad yr Awdurdod, gan gynnwys unrhyw reolau, prosesau a gweithdrefnau Grant / Contract lleol;
  • Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 neu Reoliadau Contractau Cyhoeddus (Yr Alban) 2015, gan gynnwys unrhyw ddiwygiadau neu ddeddfwriaeth ddilynol sy’n disodli’r Ddeddf;
  • Pob deddfwriaeth arall sy’n berthnasol i weithgarwch a wneir, fel Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015, IR35 (Deddfwriaeth Cyfryngwyr), Deddfwr Cydraddoldeb 2010, Deddf Rheoli Cymorthdaliadau 2022 ac ati; a
  • Safon Swyddogaethol Grantiau’r Llywodraeth gyda ffocws penodol ar gydymffurfiaeth â’r meysydd canlynol:
  • Asesiad Risg Twyll (FRA) – tudalennau 15-19
  • Diwydrwydd Dyladwy - tudalennau 20-24

8.3 Dylai awdurdodau lleol arweiniol hefyd ystyried a gweithredu, lle bynnag y bo’n bosibl:

  • mesurau cynaliadwyedd a gwyrdd mewn cynlluniau caffael, yn cyd-fynd â strategaeth sero net y llywodraeth; - caffael blaengar, gan gynnwys ymgorffori gwerth cymdeithasol mewn caffael; a – mentrau, canllawiau a pholisi’r llywodraeth, fel y Sourcing and Consultancy Playbooks, Construction Playbook, yr Outsourcing Playbook a chanllawiau’r llywodraeth ar Gynllunio Datrysiad.

8.4 Cyfrifoldeb pob awdurdod lleol arweiniol fydd sicrhau bod y safonau gofynnol yn 8.2 yn cael eu cymhwyso, eu monitro a’u cynnal trwy gydol cyfnod 3 blynedd grant yr UKSPF.

8.5 Os bydd awdurdodau nad ydynt yn contractio yn cymryd rhan mewn cyflawni prosiectau UKSPF, dylent fabwysiadu’r polisïau a’r gweithdrefnau hynny sy’n ofynnol i sicrhau y cafwyd gwerth am arian wrth gaffael nwyddau neu wasanaethau a ariennir gan y Grant. Dylai hyn gynnwys mabwysiadu’r gweithdrefnau gofynnol canlynol oni bai bod trothwyon gwahanol wedi’u cymeradwyo’n fewnol trwy broses lywodraethu fewnol briodol yr awdurdod lleol arweiniol, fel y Cabinet:

Gwerth y contract Gweithdrefn ofynnol
£0 - £2,499 Dyfarniad uniongyrchol
£2,500 - £24,999 Ceisio 3 dyfynbris neu bris ysgrifenedig gan gyflenwyr perthnasol nwyddau, waith a/neu wasanaethau
Dros £25,000 Proses dendro ffurfiol

8.6 Bydd awdurdodau lleol arweiniol yn gyfrifol am sicrhau bod y polisïau a’r gweithdrefnau hyn yn cael eu cymhwyso gan awdurdodau nad ydynt yn contractio, fel y bo’n briodol, ac y gwneir adroddiadau arnynt a’u monitro.

Asesiad Risg Twyll

8.7 Awdurdodau lleol arweiniol fydd yn gyfrifol am sicrhau bod Twyll yn ystyriaeth allweddol ym mhob gweithgarwch gwario ac y bodlonir y safonau gofynnol canlynol:

  • dilyn Safonau Swyddogaethol Grantiau ar Asesu Risg Twyll (FRA) – tudalennau 15-19.
  • ymgymryd ag asesiadau risg twyll ar lefel briodol i bob prosiect unigol, yn dibynnu ar y risg.
  • sicrhau bod gwariant UKSPF yn cael ei wneud yn unol â pholisi a gweithdrefn atal twyll effeithiol yr awdurdod, a thrwy ymgysylltu â chydweithwyr sy’n arbenigo yn y maes hwn.
  • sicrhau bod tystiolaeth a data perthnasol i atal twyll yn cael eu casglu fel rhan o’r diwydrwydd dyladwy a wneir cyn rhyddhau cyllid.
  • gweithredu gofynion adrodd a monitro a fydd yn nodi afreolaidd-dra neu broblemau yn y defnydd o gyllid, y gellir ymchwilio ymhellach iddynt.
  • storio a ffeilio’r holl waith a wneir ar yr asesiad risg twyll rhag ofn y bydd unrhyw broblemau neu ofynion archwilio.

Diwydrwydd Dyladwy:

8.8 Awdurdodau lleol arweiniol fydd yn gyfrifol am sicrhau bod diwydrwydd dyladwy cymesur yn cael ei gymhwyso i holl wariant yr UKSPF a bod y safonau gofynnol canlynol yn cael eu bodloni:

  • dilyn Safonau Swyddogaethol Grantiau ar Ddiwydrwydd Dyladwy – tudalennau 20-24.
  • ymgymryd â diwydrwydd dyladwy ar lefel briodol i bob prosiect unigol, yn dibynnu ar y risg.
  • sicrhau bod diwydrwydd dyladwy ar gyfer UKSPF yn cael ei wneud yn unol â rheolau a gweithdrefnau effeithiol yr awdurdod trwy Dimau sy’n arbenigo yn y maes hwn.
  • sicrhau bod meysydd diwydrwydd dyladwy allweddol a nodir ar gyfer prosiectau yr ydych yn buddsoddi ynddynt yn destun adroddiadau a monitro trwy gydol y tymor cyflawni. -storio a ffeilio’r holl waith a wneir ar ddiwydrwydd dyladwy rhag ofn y bydd unrhyw broblemau neu ofynion archwilio.
Cyhoeddwyd ar 19 July 2022
Diweddarwyd ddiwethaf ar 10 August 2022 + show all updates
  1. Welsh added

  2. Added translation