Canllawiau

Tryloywder ac adrodd yn y llysoedd teulu

Mae'r canllawiau hyn ar gyfer rhieni ac aelodau o'r teulu sy'n ymwneud ag achosion llys teulu. Mae’n esbonio gorchmynion tryloywder ac adrodd ar achosion gan newyddiadurwyr a chyfreithwyr penodol.

Yn berthnasol i Loegr a Chymru

Yn dilyn cynllun peilot dan arweiniad y farnwriaeth, mae’r Senedd wedi cytuno y dylai’r system cyfiawnder teuluol fod yn fwy agored. Mae hyn yn golygu bod rhai newyddiadurwyr a chyfreithwyr yn cael dod i wrandawiadau ac adrodd amdanynt.  

Bydd unrhyw beth sy’n cael ei adrodd yn cael ei wneud yn ddienw fel nad oes modd eich adnabod chi a’ch teulu. Mae hyn er mwyn helpu’r cyhoedd i ddeall sut mae’r llysoedd yn gweithio, tra’n dal i amddiffyn preifatrwydd eich teulu.  

Yn 2021, arweiniodd llywydd yr adran deulu adolygiad i dryloywder yn y llys teulu. Penderfynodd yr adolygiad y dylai’r llys teulu fod yn fwy agored, ac argymhellodd sut y gallai hynny ddigwydd. Rhwng 2023 a 2025, arweiniodd llywydd yr adran deulu y Grŵp Gweithredu Tryloywder (TIG), a gynhaliodd gynllun peilot mewn tua hanner y llysoedd teulu yng Nghymru a Lloegr i weld sut roedd hyn yn gweithio. Cafwyd gwerthusiad annibynnol hefyd gan y Ganolfan Genedlaethol Ymchwil Gymdeithasol. Gallwch ddarllen mwy am y darpariaethau adrodd agored.

Gorchmynion tryloywder

Os yw’r llys yn caniatáu adrodd am eich achos, anfonir gorchymyn tryloywder atoch chi. Mae’r gorchymyn yn manylu ar yr hyn y gellir ei adrodd ac na ellir ei adrodd.

Mae gorchymyn tryloywder yn caniatáu i newyddiadurwyr a chyfreithwyr adrodd ar yr achos yn unig - nid yw’n caniatáu i unrhyw un arall gyhoeddi unrhyw beth am yr achos.

Newyddiadurwyr a blogwyr cyfreithiol

Mae newyddiadurwr yn rhywun sydd â cherdyn i’r wasg yn y DU. Mae blogiwr cyfreithiol yn gyfreithiwr nad yw’n ymwneud â’r achos ond sydd wedi’i awdurdodi i fynychu gwrandawiadau yn union fel newyddiadurwr. 

Cerdyn adnabod a gynhyrchir gan Awdurdod Gwasg y DU yw Cerdyn Gwasg y DU. Mae’n gerdyn glas gyda phennawd melyn yn dweud ‘press’ a hologram. 

Bydd blogiwr cyfreithiol yn perthyn i siambrau bargyfreithwyr neu gwmni cyfreithiol, neu sefydliad fel Prifysgol neu elusen, a bydd yn gallu cadarnhau pwy ydyw.

Pa ddogfennau y gall newyddiadurwyr gael mynediad atynt

Bydd newyddiadurwyr yn cael gweld rhai dogfennau sylfaenol, fel y dogfennau y mae’r cyfreithwyr yn eu cynhyrchu i’w helpu i ddeall yr achos. Er enghraifft, amlinelliadau achos neu ddatganiadau sefyllfa.  

Os yw newyddiadurwr eisiau gweld beth sydd mewn unrhyw ddogfen arall, mae’n rhaid iddo ofyn i’r barnwr am ganiatâd. 

Bydd llawer o wybodaeth sensitif yn dal i fod yn breifat. Bydd preifatrwydd eich teulu yn cael ei ddiogelu.

Beth ellir ac na ellir ei adrodd

Bydd y gorchymyn tryloywder yn dweud y gall newyddiadurwyr adrodd am fanylion eich achos a’ch dogfennau achos, a’r hyn sydd wedi digwydd yn eich gwrandawiad.  

Bydd hefyd yn rhoi mwy o fanylion am ba bobl, llefydd, a sefydliadau y gellir eu henwi a pha rai na ddylid eu henwi. Gall y barnwr sy’n delio â’ch achos addasu’r gorchymyn tryloywder i wneud yn siŵr ei fod yn iawn i’ch teulu. 

Ni all newyddiadurwyr gynnwys: 

  • enwau unrhyw blant neu aelodau o’r teulu

  • y llefydd mae’r plant yn byw neu’n mynd iddyn nhw

  • dyddiad geni unrhyw blant

  • ffotograffau ohonoch chi neu’r plant

Weithiau bydd gorchymyn yn crybwyll pethau eraill na ddylid eu cynnwys mewn adroddiadau, i sicrhau nad oes modd adnabod eich teulu drwy ddamwain.

Nid yw’r gorchymyn tryloywder yn caniatáu ichi adrodd na chyhoeddi unrhyw beth ynghylch yr achos. Pwrpas hyn yw sicrhau nad oes modd eich adnabod chi a’r plant. 

Hyd yn oed os oes sylw yn y wasg o’ch achos, rhaid i chi beidio â chyhoeddi unrhyw beth amdano – gan gynnwys postio ar gyfryngau cymdeithasol – a rhaid i chi beidio â rhyngweithio ag unrhyw sylw yn y cyfryngau, er enghraifft, trwy hoffi neu wneud sylwadau ar bostiadau.

Os byddwch chi’n cyhoeddi unrhyw beth am yr achos, gallech fod yn torri’r gyfraith.

Pwy sy’n penderfynu a ddylid adrodd ar achos

Bydd y barnwr yn gwneud y penderfyniad terfynol ynghylch a ellir adrodd am eich achos. Os nad ydych yn awyddus i ohebydd adrodd am eich achos, byddwch yn gallu dweud hynny wrth y barnwr cyn iddo benderfynu, ond ni allwch optio allan heb i’r barnwr gytuno. 

Pan fydd barnwr yn penderfynu, bydd yn meddwl am holl amgylchiadau’r achos ac yn cloriannu’r pethau yr ydych chi’n poeni amdanynt a’r nod o wneud gwaith y llys teulu yn fwy agored.  

Yna bydd y barnwr yn dweud wrthych a fydd yn: 

  • caniatáu eich cais, ac atal pob adrodd

  • newid y gorchymyn tryloywder, fel y gellir adrodd llai o wybodaeth

  • gadael y gorchymyn tryloywder yn weithredol

Siarad â newyddiadurwyr

Dim ond â newyddiadurwr sydd â Cherdyn i’r Wasg neu sy’n ‘gyfreithiwr awdurdodedig’ y gallwch chi siarad.  

Os yw’r newyddiadurwr eisoes wedi bod mewn gwrandawiad yn eich achos chi, bydd y barnwr wedi gwirio hyn a gallwch fynd yn eich blaen. Os nad ydynt wedi gwneud hynny, dylech wirio gyda’r llys, fel y gallwch fod yn siŵr nad ydych yn torri’r rheolau. Os oes amheuaeth, dylech ofyn am weld Cerdyn y Wasg gan y newyddiadurwr neu ei gymwysterau. 

Nid oes rhaid i chi siarad â newyddiadurwr oni bai eich bod chi eisiau. Mater i’r newyddiadurwr yw sicrhau bod hawl i gyhoeddi beth bynnag mae’n ei gynnwys yn ei adroddiad. Ni chaniateir i chi rannu unrhyw ddogfennau llys gyda newyddiadurwr ar wahân i’r hyn sydd ganddynt eisoes fynediad ato, oni bai bod y barnwr wedi rhoi caniatâd.

Cael cymorth

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am dryloywder ac adrodd yn y llysoedd teulu, dylech gysylltu â’ch cyfreithiwr. 

Os nad oes gennych gyfreithiwr, gallwch gysylltu â’r Llys. Bydd y gorchymyn tryloywder yn dweud wrthych pwy i gysylltu ag ef am eich achos. 

Gallwch hefyd ddod o hyd i fanylion cyswllt y llys sy’n delio â’ch achos.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 8 Awst 2025
Diweddarwyd ddiwethaf ar 21 Awst 2025 show all updates
  1. Added a Welsh version of the guide

  2. First published.

Argraffu'r dudalen hon