Canllawiau

Canolfan Datblygu Richard Ley y DVLA (cyfleuster dysgu)

Mae Canolfan Datblygu Richard Ley yn gyfleuster ar gyfer cynadleddau a hyfforddiant wedi’i leoli yn Abertawe.

Ynglŷn â Chanolfan Datblygu Richard Ley (RLDC)

Innovation Facility

Mae’r RLDC yn leoliad cynadledda modern a hyblyg sy’n addas ar gyfer cynnal digwyddiadau a seminarau ar gyfer hyd at 240 o bobl.

Mae gan ein lleoliad dderbynfa groesawgar a hwylustod maes parcio 130 o leoedd gyda 7 o fannau anabl. Mae gennym hefyd gaffi ar y safle a Wifi am ddim.

Y theatr ddigidol

Digital theatre

Yn ddelfrydol ar gyfer cynadleddau, seminarau neu gyflwyniadau ar raddfa fawr, gall y theatr ddigidol gynnal hyd at 240 o bobl mewn arddull theatr, neu hyd at 96 o bobl mewn arddull cabaret.

Mae’r safle hyblyg mawr hwn wedi’i gyfarparu’n llawn gyda thechnoleg TG a chlyweledol modern, gan gynnwys pleidleisio cynulleidfa rhyngweithiol.

Ystafelloedd cynadledda ac ystafell hyfforddiant TG

Mae ein hystafelloedd cynadledda’n cynnig hyblygrwydd o ran capasiti a ffurfweddiad ystafelloedd. Gall rhai o’n hystafelloedd gael eu rhannu ac mae gan bob un ohonynt daflunydd nenfwd gyda sgrin neu sgrin LCD fawr. Mae gan yr ystafell hyfforddiant TG gynllun dosbarth sefydlog gyda 12 gweithfan PC.

Y caffi

The cafe

Mae’r caffi ar agor rhwng 8am a 3pm o ddydd Llun i ddydd Gwener ac yn gweini dewis o fyrbrydau a diodydd poeth ac oer.

Y parth

The Zone

Mae’r parth yn ystafell gron sy’n ddelfrydol ar gyfer gweithdai bach, datrys problemau a sesiynau ysgogi meddwl. Mae’r waliau cron yn dyblu fel byrddau gwyn sy’n hyrwyddo cyfranogiad, yn annog meddwl creadigol ac yn helpu i greu syniadau arloesol.

Cynlluniau a chyfleusterau’r ystafelloedd

Ac eithrio’r seddi ar ogwydd yn y theatr ddigidol a’r ystafell hyfforddi TG, mae gan bob ystafell hyfforddi gynlluniau hyblyg i gwrdd â’ch anghenion. Y gosodiadau ystafell fwyaf cyffredin yw:

  • ystafell ddosbarth
  • ystafell y bwrdd
  • siâp pedol
  • cabaret

Bydd capasiti pob ystafell yn amrywio yn dibynnu ar y gosodiad rydych chi’n ei ddewis. Gall ein cynllunwyr digwyddiadau gynghori ar gapasiti ystafell yn yr amrywiol arddulliau sydd ar gael.

Mae gan ein holl ystafelloedd daflunydd neu sgrin LCD fawr, cysylltedd gliniadur, siart troi a chyflenwad safonol o ddeunydd ysgrifennu.

Yn ogystal â’r cyfarpar safonol sydd ar gael ym mhob un o’n hystafelloedd, mae gennym ddetholiad mawr o gyfarpar ar gael i ategu’ch digwyddiad. Er enghraifft:

  • gliniaduron
  • siartiau troi
  • system bleidleisio ryngweithiol
  • meicroffonau
  • ffotograffiaeth ddigidol
  • fideo gynadledda

Mae pob un o’n hystafelloedd wedi’u haerdymheru llawn. Mae gennym hefyd drwyddedau cerddoriaeth PRS a PPL, sy’n caniatáu i gerddoriaeth a fideo sydd wedi’u recordio i gael eu darlledu’n gyhoeddus i gefnogi’ch digwyddiad.

Gall ein cynllunwyr digwyddiadau helpu i drefnu unrhyw gyfarpar ychwanegol y bydd arnoch ei angen.

Lletygarwch

Hospitality image

Mae gwasanaeth lletygarwch ac arlwyo llawn ar gael i ategu’ch digwyddiad.

Bydd ein cynllunwyr digwyddiadau yn hapus i’ch cynorthwyo â’ch gofynion lletygarwch.

Nodwch fod ein cyflenwyr arlwyo yn gofyn am 48 awr o rybudd i ganslo ceisiadau am letygarwch. Gall methu â rhoi gwybod i ni mewn pryd arwain at gostau llawn ar gyfer unrhyw letygarwch sydd wedi archebu.

Archebu a chynllunio digwyddiad

Booking an event

Mae ein gwasanaeth archebu ac ymholiadau ar agor rhwng 8am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Gallwch gysylltu â ni trwy e-bost neu’r ffôn ar 01792 761497.

Gallwch wneud ymholiad neu archebu digwyddiad trwy ein tîm o gynllunwyr digwyddiadau penodol, a fydd yn eich helpu i ddewis yr ystafell orau i ddiwallu’ch anghenion ac yn trafod eich gofynion lletygarwch.

Unwaith y bydd eich archeb wedi’i gadarnhau, byddwch yn cael cynllunydd digwyddiad penodol a fydd yn eich pwynt cyswllt unigol o ran paratoi hyd at ddiwedd eich digwyddiad.

Os bydd angen i chi ganslo neu ddiwygio’ch archeb gyda ni am unrhyw reswm, rhowch wybod i ni ar unwaith. Efallai y bydd costau canslo yn berthnasol; gweler y telerau ac amodau ar eich ffurflen archebu.

Mynychu digwyddiad

Amseroedd agor

Ein hamseroedd agor yw 8:30am tan 4:30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Mae archebion penwythnos a min nos ar gael pan drefnir apwyntiad o flaen llaw.

Hygyrchedd

Mae RLDC yn hygyrch i gadeiriau olwyn. Mae croeso i gŵn cymorth.

Bydd ein tîm archebu digwyddiadau yn hapus i drafod eich gofynion hygyrchedd.

Cyrraedd yma a pharcio

Cyrraedd yr RLDC

Rydym yn agos iawn i Gyffordd 45 yr M4, ar Upper Fforest Way ym Mro Abertawe. Os ydych yn defnyddio system llywio â lloeren, y cod post yw SA7 0AN. Rydym yn daith tacsi fer o orsafoedd rheilffordd Abertawe a Chastell-nedd.

Google map yr RLDC

Pan gyrhaeddwch RLDC, ewch i’r dderbynfa arloesi (fel y nodir ar eich cadarnhad archebu), lle bydd ein staff derbyn yn cwrdd â chi.

Parcio

Mae gennym 130 o leoedd parcio sydd ar gael i’w harchebu ar y safle. Rhaid archebu lleoedd parcio cyn eich digwyddiad, felly trafodwch eich gofynion parcio gyda’ch cynllunydd digwyddiad.

Cysylltu â ni

E-bost: rldc@dvla.gsi.gov.uk
Ffôn: 01792 761497

Digwyddiadau a Chynadledda

Canolfan Datblygu Richard Ley
Upper Forest Way
Bro Abertawe
Abertawe
SA7 0AN

Ffurflen gysylltu https://www.gov.uk/the...

Cyhoeddwyd ar 5 June 2013
Diweddarwyd ddiwethaf ar 16 August 2018 + show all updates
  1. Page updated

  2. Booking form updated.

  3. Updated RLDC brochure

  4. Booking form updated.

  5. New external booking form updated

  6. New booking form added

  7. New edition of the RLDC brochure added.

  8. First published.