Canllawiau

Y Cynllun Graddio Carcasau Moch: trin a graddio carcasau

Mae'n rhaid i ladd-dai sy'n rhan o'r Cynllun Graddio Carcasau Moch gydymffurfio â'r rheoliadau ar gyfer trin, pwyso, graddio a marcio carcasau.

Applies to England and Wales

Ar ôl i chi gofrestru â’r Cynllun Graddio Carcasau Moch, mae’n rhaid i chi ddilyn y

rheolau sy’n disgrifio sut i wneud y canlynol:

  • trin carcasau
  • ailbwyso carcasau
  • graddio carcasau yn ôl faint o gig coch y maent yn ei gynnwys (wedyn caiff y radd ei marcio ar y carcas neu ei chofnodi)

Ceir hefyd reolau am y wybodaeth y mae’n rhaid i chi ei chofnodi ar gyfer pob carcas.

Trin carcasau

Mae’n rhaid i chi drin carcasau moch yn unol â manyleb trin yr UE neu fanyleb trin y DU. Ni allwch ddefnyddio eich manyleb trin eich hun.

Manyleb yr UE

Cyn pwyso’r carcas, mae’n rhaid i chi dynnu ymaith y canlynol:

  • y tafod
  • gwrych (blew)
  • carnau
  • yr organau cenhedlu
  • gwêr yr arennau
  • yr arennau
  • y diaffram

Manyleb y DU

Yn y DU, caniateir i ladd-dai gyflwyno carcasau moch yn unol â ‘manyleb y DU’.

Caiff carcasau eu trin yn unol â manyleb yr UE, ond:

  • gadewir y rhannau canlynol yn y carcas:
    • yr arennau
    • gwêr yr arennau
    • y diaffram
  • gellir gadael y tafod yn y carcas neu ei dynnu o’r carcas

Pwyso carcasau

Mae’n rhaid i chi gofnodi pwysau carcasau fel y maent yn ymddangos ar ddangosydd y peiriant pwyso. Ni ddylech dalgrynnu’r pwysau i fyny nac i lawr.

Mae’n rhaid i’r carcas wedi’i drin gael ei bwyso i gofnodi ei bwysau cynnes. Lle y bo’n bosibl, mae’n rhaid gwneud hyn o fewn 45 munud i ladd y mochyn.

Dengys y tabl canlynol y ffactorau eraill sy’n effeithio ar y pwysau cynnes rydych yn eu cofnodi ar gyfer y carcas a’r lleihadau y dylech eu defnyddio (a elwir hefyd yn gyfernodau).

Cyflwyno carcasau Addasiad i’r pwysau a gofnodwyd (cyfernod)
Pwyswyd gyda’r arennau, gwêr yr arennau a’r diaffram yn y carcas Mae carcasau sy’n pwyso hyd at 56kg yn lleihau 0.7kg

Mae carcasau sy’n pwyso rhwng 56.5kg a 74.5kg yn lleihau 1.1kg;

Mae carcasau sy’n pwyso 74.6kg a mwy yn lleihau 1.6kg
Pwyswyd gyda’r tafod yn y carcas Mae’n lleihau 0.3kg
Pwyswyd fwy na 45 munud ar ôl lladd y mochyn Mae’n lleihau 0.1% am bob 15 munud ychwanegol sy’n mynd heibio neu ran o’r cyfnod

Er mwyn cyfrifo’r pwysau oer, didynnwch 2% o’r pwysau cynnes.

Graddio carcasau

Ar adeg pwyso’r carcas, mae’n rhaid i ladd-dai sydd wedi’u cofrestru â’r Cynllun Graddio Carcasau Moch hefyd asesu a graddio faint o gig coch y mae’r carcas yn ei gynnwys.

Nodir isod offerynnau cymeradwy y dylid eu defnyddio i fesur braster y cefn:

  • Mewnsgop (Profiedydd Optegol)
  • Fat-O-Meater (FOM)
  • Profiedydd Graddio Hennessy (HGP II)
  • CSB Ultra-Meater
  • AutoFom (system graddio carcasau uwchsain hollol awtomatig)

Gellir defnyddio’r canlyniadau wedyn i raddio’r carcas yn ôl y raddfa hon:

Cig coch fel canran o bwysau oer cofnodedig carcas Gradd
60 neu fwy S
55 neu fwy ond llai na 60 E
50 neu fwy ond llai na 55 U
45 neu fwy ond llai na 50 R
40 neu fwy ond llai na 45 O
llai na 40 P

Cofnodi graddau carcasau

Mae’n rhaid marcio gwybodaeth am radd y carcas yn uniongyrchol ar y carcas neu ei chofnodi pan gaiff ei raddio.

Rhaid i chi farcio carcasau y bwriedir eu hallforio heb dorri i aelod-wladwriaeth o’r UE gyda’r naill na’r llall:

  • y llythyren briodol o’r raddfa raddio uchod
  • canran y cig coch y mae’r carcas yn ei gynnwys

Mewn achosion eraill, mae’n rhaid i chi naill ai:

  • marcio’r carcas â’r llythyren briodol o’r raddfa raddio neu ganran y cig coch y mae’r carcas yn ei gynnwys
  • cadw cofnod o naill ai’r llythyren o’r raddfa raddio uchod neu ganran y cig coch y mae’r carcas yn ei gynnwys

Os byddwch yn marcio’n carcas, mae’n rhaid i chi ddefnyddio inc anwenwynig, annileadwy sy’n gwrthsefyll gwres ac mae’n rhaid i’r llythrennau a’r rhifau fod o leiaf 2 gentimedr o uchder.

Cyhoeddwyd ar 31 March 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 30 September 2022 + show all updates
  1. An example has been added to 'weigh carcass'

  2. Text reviewed and updated

  3. First published.