Canllawiau

Tudalennau atodol CT600N: Treth Datblygwyr Eiddo Preswyl

Sut i lenwi tudalennau atodol CT600N a pha wybodaeth y mae angen i chi ei chynnwys.

Pryd i’w llenwi

Mae angen i chi lenwi ffurflen CT600N os ydych yn cofnodi swm o Dreth Datblygwyr Eiddo Preswyl (RPDT) ym mlwch 49 ar ffurflen CT600.

Bydd angen i chi ddarparu manylion ychwanegol os ydych yn hawlio neu’n ildio’r canlynol:

  • unrhyw symiau dan ddarpariaethau rhyddhad grŵp neu gonsortiwm

  • treth dramor gymwys heb ryddhad

  • unrhyw symiau o dan a356NA(3)(b) o Ddeddf Treth Gorfforaeth (CTA) 2010 (taliadau prydles sydd dros ben ac heb gael eu hystyried at ddibenion cyfrifo elw contractwr sydd wedi’i ddiogelu)

  • unrhyw golledion a gariwyd ymlaen o dan y rheolau diwygio colled

Pan fyddwch wedi llenwi ffurflen CT600N:

  1. Copïwch y swm o flwch N285 i adran 4.

  2. Nodwch y swm hwn ym mlwch 497 ar ffurflen CT600.

Gwybodaeth am y cwmni

N1 Enw’r cwmni

Nodwch enw’r cwmni.

N2 Cyfeirnod treth

Nodwch Gyfeirnod Unigryw y Trethdalwr 10 digid ar gyfer y cwmni.

Y cyfnod sydd dan sylw yn y dudalen atodol hon (ni all fod yn fwy na 12 mis)

N3 O

Nodwch ddyddiad dechrau’r cyfnod cyfrifyddu, gan ddefnyddio’r fformat DD-MM-BBBB.

N4 I

Nodwch ddyddiad dod i ben y cyfnod cyfrifyddu, gan ddefnyddio’r fformat DD-MM-BBBB.

Adran 1 — Datganiad Dyrannu

N5 Rhowch ‘X’ ym mlwch N5 os mai chi yw’r aelod enwebedig sy’n dyrannu

Mae llawlyfr RPDT20520 (yn agor tudalen Saesneg) yn esbonio sut i fynd ati i enwebu aelod sy’n dyrannu.

N10 Rhowch ‘X’ ym mlwch N10 os yw’r datganiad dyrannu wedi’i anfon i CThEF ar gyfer y cyfnod hwn

Os byddwch yn llenwi blwch N10, peidiwch â llenwi blychau N15 i N65. Dim ond yr aelod sy’n dyrannu sydd angen llenwi tudalen 2.

Mae llawlyfr RPDT20530 (yn agor tudalen Saesneg) yn esbonio sut i fynd ati i anfon datganiad dyrannu i CThEF.

N15 O

Nodwch ddyddiad dechrau’r cyfnod dyrannu, gan ddefnyddio fformat DD-MM-BBBB.

N20 I

Nodwch ddyddiad dod i ben y cyfnod dyrannu, gan ddefnyddio’r fformat DD-MM-BBBB.

N25 Enwebu aelod sy’n dyrannu

Ar ddechrau’r cyfnod, os yw’r aelod enwebedig sy’n dyrannu yn gwmni gwahanol, nodwch yr enw ym mlwch N25.

N30 Cyfeirnod treth

Ar ddechrau’r cyfnod, os yw’r aelod enwebedig sy’n dyrannu yn gwmni gwahanol, nodwch y cyfeirnod treth ym mlwch N30.

N35 Rhowch ‘X’ ym mlwch N35 os mai chi yw Rhiant-gwmni Terfynol y grŵp

Nodwch ‘X’ os yw hyn yn berthnasol.

N40 Nodwch enw’r Rhiant-gwmni Terfynol os nad yw N35 wedi’i lenwi

Nodwch enw’r Rhiant-gwmni Terfynol os na wnaethoch lenwi blwch N35.

N45 Tabl Dyrannu

Yn y tabl, nodwch y canlynol:

  • enw’r cwmni sy’n rhan o grŵp

  • cyfnod cyfrifyddu’r cwmni hwnnw

  • cyfeirnod treth

  • y swm a ddyrannwyd i’r cwmni sy’n derbyn

N50 Y cyfanswm a ddyrannwyd

Nodwch gyfanswm colofn D yn nhabl N45.

Awdurdodi Datganiad

N55 Os yw’r datganiad wedi’i awdurdodi, rhowch ‘X’ ym mlwch N55 i gadarnhau hynny

Nodwch ‘X’ yn y blwch os yw hyn yn berthnasol.

Adran 2 — Cwmnïau Menter ar y Cyd

Mae angen i chi lenwi’r adran hon os ydych yn gwmni Menter ar y Cyd perthnasol, ac mae’ch lwfans wedi’i gyfyngu oherwydd aelod eithriedig a’ch bod chi wedi cael dyraniad o lwfans tybiannol.

N70 Y lwfans tybiannol a hawliwyd

Nodwch swm y lwfans tybiannol a hawliwyd.

N75 Nodwch ‘X’ ym mlwch N75 os yw’r swm tybiannol a hawliwyd yn cael ei ddyrannu mewn perthynas â chorff eithriedig

Nodwch ‘X’ os yw hyn yn berthnasol.

N80 Dyrannu lwfans tybiannol ar ran corff eithriedig

Diffinnir corff eithriedig yn y ddeddfwriaeth yn A44(9) o Ddeddf Cyllid 2022 (FA2022) yn gwmni sydd ond yn agored i Dreth Datblygwyr Eiddo Preswyl am ei fod yn gwmni tai di-elw.

Bydd angen i chi nodi’r canlynol:

  • enw’r cwmni sy’n dyrannu

  • y cyfeirnod treth

  • y swm a ddyrannwyd

N85 Y cyfanswm

Nodwch gyfanswm colofn C yn Nhabl N80.

N90 Nodwch fanylion y cwmnïau eithriedig sy’n aelodau o’r cwmni menter ar y cyd

Bydd angen i chi nodi’r canlynol:

  • enw’r corff eithriedig

  • cyfeirnod treth yr aelod

Adran 3

Rhan 1: Hawliadau am ryddhad grŵp RPDT

Bydd angen i chi lenwi’r rhan hon os ydych yn hawlio rhyddhad grŵp ar gyfer Treth Datblygwyr Eiddo Preswyl wrth i chi gyfrifo’r Dreth Datblygwyr Eiddo Preswyl sy’n daladwy.

Oni bai bod trefniant syml ar waith, mae’n rhaid i chi hefyd atodi copi i’r hawliad o hysbysiad o gydsyniad pob cwmni sy’n ildio.

Os oes trefniant syml ar waith ac na roddir copïau o’r cydsyniad, dylid awdurdodi’r hawliad yn nhabl N95.

N95 Manylion y Cwmni sy’n Ildio

Ar gyfer pob ildiad, nodwch:

  • enw’r cwmni sy’n ildio

  • dyddiad dechrau a dod i ben cyfnod cyfrifyddu’r cwmni sy’n ildio, os yw’n wahanol i’r cyfnod a gwmpesir gan y Ffurflen Dreth

  • cyfeirnod treth y cwmni sy’n ildio, neu wybodaeth arall a fydd yn helpu i ddod o hyd i’r cwmni (er enghraifft, rhif cofrestru’r cwmni)

  • swm yr ildiad a hawliwyd

N100 Y cyfanswm a hawliwyd

Nodwch gyfanswm colofn D yn nhabl N95 ar gyfer swm y rhyddhad grŵp a hawliwyd.

Copïwch y ffigur o flwch N100 i flwch N260 ar ffurflen CT600N.

Awdurdodi hawliad

Llenwch yr adran hon os oes trefniadau syml ar waith ac nad oes copïau o’r cydsyniad wedi’u darparu.

Rhan 2: Symiau sydd wedi’u hildio fel rhyddhad grŵp RPDT

Mae angen i chi lenwi’r rhan hon os yw’r cwmni’n ildio unrhyw swm o dan ddarpariaethau’r grŵp.

Oni bai bod trefniant syml ar waith:

  • bydd angen hysbysiad o gydsyniad ar gyfer pob hawliad

  • mae’r rhan hon yn dderbyniol fel hysbysiad o gydsyniad, os yw manylion y cwmni sy’n ildio wedi’u nodi, a’i bod yn cael ei llenwi gan berson awdurdodedig

  • anfonwch gopi o’r hysbysiad o gydsyniad i’r swyddfa Cyllid a Thollau EF sy’n delio â ffurflen y cwmni sy’n hawlio, ar yr un pryd ag y bydd y cwmni sy’n hawlio yn cyflwyno’i Ffurflen Dreth er mwyn hawlio’r rhyddhad grŵp ar gyfer colledion a gariwyd ymlaen

N120 Manylion yr ildiad

Ar gyfer pob ildiad, nodwch:

  • enw’r cwmni sy’n hawlio

  • dyddiad dechrau a dod i ben cyfnod cyfrifyddu’r cwmni sy’n hawlio, os yw’n wahanol i’r cyfnod a gwmpesir gan y Ffurflen Dreth

  • cyfeirnod treth y cwmni sy’n hawlio neu wybodaeth arall a fydd yn helpu i ddod o hyd i’r cwmni (er enghraifft, rhif cofrestru’r cwmni)

  • y swm a ildiwyd

N125 Y cyfanswm a ildiwyd

Nodwch gyfanswm Colofn D yn nhabl N120 ar gyfer y swm a ildiwyd.

Manylion y cwmni sy’n ildio rhyddhad

Mae angen i chi lenwi’r adran hon i gyd os ydych yn defnyddio’r ffurflen hon fel hysbysiad o gydsyniad i ildio.

N150 Enw llawn y person sy’n awdurdodi

Gall unrhyw berson sydd wedi ei awdurdodi lenwi’r adran hon ar ran y cwmni oni bai bod datodydd neu weinyddwr wedi’i benodi.

Rhagor o wybodaeth

Mae gan Lawlyfr RPDT20420 (yn agor tudalen Saesneg) ragor o wybodaeth ynghylch rhyddhad grŵp Treth Datblygwyr Eiddo Preswyl.

Mae gan Lawlyfr CTM80100 (yn agor tudalen Saesneg) ragor o wybodaeth ynghylch rhyddhad grŵp cyffredinol at ddibenion Treth Gorfforaeth.

Rhan 3: Hawliadau am ryddhad grŵp RPDT ar gyfer colledion a gariwyd ymlaen

Mae angen i chi lenwi’r rhan hon os ydych yn hawlio rhyddhad grŵp ar gyfer colledion a gariwyd ymlaen wrth i chi gyfrifo Treth Datblygwyr Eiddo Preswyl.

Oni bai bod trefniant syml ar waith, mae’n rhaid i chi hefyd atodi copi i’r hawliad o hysbysiad o gydsyniad pob cwmni sy’n ildio.

Os oes trefniant syml ar waith ac na roddir copïau o’r cydsyniad, dylid awdurdodi’r hawliad yn N160.

N160 Manylion y Cwmni sy’n Ildio

Ar gyfer pob ildiad, nodwch:

  • enw’r cwmni sy’n ildio

  • dyddiad dechrau a dod i ben cyfnod cyfrifyddu’r cwmni sy’n ildio, os yw’n wahanol i’r cyfnod a gwmpesir gan y Ffurflen Dreth

  • cyfeirnod treth y cwmni sy’n ildio neu wybodaeth arall a fydd yn helpu i ddod o hyd i’r cwmni. Er enghraifft, rhif cofrestru’r cwmni

  • swm yr ildiad a hawliwyd

N165 Y cyfanswm a hawliwyd

Nodwch gyfanswm colofn D yn Nhabl N160 ar gyfer swm y rhyddhad grŵp a hawliwyd.

Copïwch y ffigur o flwch N165 i flwch N265 ar ffurflen CT600N.

Awdurdodi hawliad

Llenwch yr adran hon os oes trefniadau syml ar waith ac nad oes copïau o’r cydsyniad wedi’u darparu.

Rhan 4: Symiau a ildiwyd fel rhyddhad grŵp RPDT ar gyfer colledion a gariwyd ymlaen

Mae angen i chi lenwi’r rhan hon os yw’r cwmni’n ildio unrhyw swm ar gyfer colledion a gariwyd ymlaen o dan ddarpariaethau’r grŵp.

Oni bai bod trefniant syml ar waith:

  • bydd angen hysbysiad o gydsyniad ar gyfer pob hawliad

  • mae’r rhan hon yn dderbyniol fel hysbysiad o gydsyniad, os yw manylion y cwmni sy’n ildio wedi’u nodi, a’i bod yn cael ei llenwi gan berson awdurdodedig

  • anfonwch gopi o’r hysbysiad o gydsyniad i’r swyddfa Cyllid a Thollau EF sy’n delio â ffurflen y cwmni sy’n hawlio, ar yr un pryd ag y bydd y cwmni sy’n hawlio yn cyflwyno’i Ffurflen Dreth er mwyn hawlio’r rhyddhad grŵp ar gyfer colledion a gariwyd ymlaen

N190 Manylion yr ildiad

Ar gyfer pob ildiad, nodwch:

  • enw’r cwmni sy’n hawlio

  • dyddiad dechrau a dyddiad dod i ben cyfnod cyfrifyddu’r cwmni sy’n hawlio os yw’n wahanol i’r cyfnod a gwmpesir gan y Ffurflen Dreth

  • cyfeirnod treth y cwmni sy’n hawlio neu wybodaeth arall a fydd yn helpu i ddod o hyd i’r cwmni (er enghraifft, rhif cofrestru’r cwmni)

  • y swm a ildiwyd

N195 Y cyfanswm a ildiwyd

Nodwch gyfanswm colofn D yn Nhabl N190 ar gyfer y swm a ildiwyd.

Manylion y cwmni sy’n ildio rhyddhad

Mae angen i chi lenwi’r adran hon i gyd os ydych yn defnyddio’r ffurflen hon fel hysbysiad o gydsyniad i ildio.

N220 Enw llawn y person sy’n awdurdodi

Gall unrhyw berson sydd wedi ei awdurdodi lenwi’r adran hon ar ran y cwmni oni bai bod datodydd neu weinyddwr wedi’i benodi.

Adran 4 — Cyfrifo elw RPD a’r Dreth Gorfforaeth sy’n daladwy

N230 Elw masnachu addasedig mewn perthynas â’r cyfnod cyfrifyddu

Nodwch swm yr elw masnachu addasedig.  Peidiwch â llenwi ffurflen N235 os yw blwch N230 yn cynnwys ffigur.

N235 Colled fasnachu addasedig mewn perthynas â’r cyfnod cyfrifyddu

Nodwch swm y golled fasnachu addasedig. Peidiwch â llenwi ffurflen N230 os yw blwch N235 yn cynnwys ffigur.

N240 Swm unrhyw elw gan fenter ar y cyd a briodolir i’r datblygwr

Nodwch swm unrhyw elw gan fenter ar y cyd. Peidiwch â llenwi ffurflen N245 os yw blwch N240 yn cynnwys ffigur.

N245 Swm unrhyw golled gan fenter ar y cyd a briodolir i’r datblygwr

Nodwch swm unrhyw golled gan fenter ar y cyd. Peidiwch â llenwi ffurflen N245 os yw blwch N240 yn cynnwys ffigur.

N250 Cyfanswm yr elw

Nodwch gyfanswm blychau N230 ac N240, llai cyfanswm blychau N235 a N245.

N255 Swm y rhyddhad colledion caniataol

Nodwch swm y colledion RPDT a gariwyd ymlaen o flynyddoedd blaenorol i’w hawlio.

Mae gan Lawlyfr RPDT20410 (yn agor tudalen Saesneg) ragor o wybodaeth ynghylch colledion a gariwyd ymlaen ar gyfer Treth Datblygwyr Eiddo Preswyl.

N260 Swm y rhyddhad grŵp RPDT caniataol a hawliwyd

Nodwch y ffigur o flwch N100.

N265 Swm y rhyddhad grŵp RPDT caniataol a hawliwyd ar gyfer colledion a gariwyd ymlaen

Nodwch y ffigur o flwch N165.

N270 Elw RPD mewn perthynas â’r cyfnod cyfrifyddu

Nodwch yr elw o ddatblygu eiddo preswyl (RPD).

Er mwyn cyfrifo hwn, dylech dynnu’r symiau ym mlychau N255, N260 a N265 o’r swm ym mlwch N250.

N275 Swm y dyraniad o lwfans mewn perthynas â’r cyfnod cyfrifyddu

Nodwch y lwfans blynyddol a ddyrannwyd i’r cwmni o’r datganiad dyrannu.

N280 Elw sy’n agored i RPDT

Nodwch yr elw sy’n drethadwy. Er mwyn cyfrifo hwn, dylech dynnu’r ffigur ym mlwch N275 o’r ffigur ym mlwch N270.

N285 RPDT sy’n daladwy

Cyfrifwch 4% o’r swm ym mlwch N285. Dyma gyfanswm y Dreth Datblygwyr Eiddo Preswyl sy’n daladwy. Nodwch y swm hwn ym mlwch 497 ar ffurflen CT600.

Cyhoeddwyd ar 1 April 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 2 January 2024 + show all updates
  1. Added translation

  2. First published.