Canllawiau

Tudalennau atodol CT600L: ymchwil a datblygu

Sut i lenwi tudalennau atodol CT600L a pha wybodaeth y mae angen i chi ei chynnwys.

Pryd i’w llenwi

Llenwch y tudalennau atodol hyn os yw’ch cwmni’n hawlio un o’r canlynol, neu’r ddau ohonynt:

  • credyd gwariant ymchwil a datblygu (RDEC)
  • credyd treth taladwy yn sgil gwariant Ymchwil a Datblygu ar gyfer mentrau bach a chanolig (MBaCh)

I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch y canlynol:

Ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2024, bydd cynllun cyfun RDEC a chymorth ychwanegol o ran Ymchwil a Datblygu dwys (ERIS) yn disodli’r hen gynlluniau RDEC ac MBaCh.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch ryddhad treth Ymchwil a Datblygu — y cynllun cyfun a chymorth ychwanegol o ran Ymchwil a Datblygu dwys (yn agor tudalen Saesneg).

Gwybodaeth am y cwmni

L1 Enw’r cwmni

Nodwch enw’r cwmni.

L2 Cyfeirnod treth

Nodwch Gyfeirnod Unigryw y Trethdalwr 10 digid ar gyfer y cwmni.

Y cyfnod sydd dan sylw yn y dudalen atodol hon (ni all fod yn fwy na 12 mis)

L3

Nodwch y dyddiad dechrau gan ddefnyddio’r fformat DD MM BBBB.

L4

Nodwch ddyddiad dod i ben y cyfnod cyfrifyddu gan ddefnyddio’r fformat DD MM BBBB.

Cyfyngiad cyn Cam 1

Llenwch y rhan hon os yw’r naill neu’r llall yn berthnasol:

  • mae gennych o gyfyngiad Cam 2 a ddygwyd ymlaen o gyfnod cyfrifyddu blaenorol
  • rydych yn dymuno cynnwys swm o RDEC a ildiwyd gan gwmnïau eraill sy’n rhan o’r grŵp

L5 Cyfyngiadau Cam 2 a ddygwyd ymlaen o gyfnodau cyfrifyddu blaenorol neu a ildiwyd o gwmnïau sy’n rhan o grŵp, neu’r ddau

Nodwch gyfanswm y cyfyngiadau Cam 2 a ddygwyd ymlaen o gyfnodau cyfrifyddu blaenorol.

Gallwch gynnwys unrhyw RDEC Cam 2 neu Gam 5 a ildiwyd gan gwmnïau eraill sy’n rhan o’r grŵp, y gall y cwmni ei ddefnyddio ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwn (darllenwch adran 104O ac adran 104R o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2009). Mae’n bosibl i chi wneud hyn hyd yn oed os nad ydych chi eich hun yn hawlio RDEC na chredyd treth taladwy MBaCh yn y Ffurflen Dreth hon.

Os byddwch yn cynnwys swm a ildiwyd, sicrhewch fod y cwmni sy’n ildio, sy’n rhan o’r grŵp, yn cynnwys y manylion yn ei gyfrifiannau fel y gall CThEF roi cyfrif am y credyd. Gallwch glirio rhwymedigaeth Treth Gorfforaeth yn hytrach nag unrhyw RDEC a ddygwyd ymlaen o adran 104N(2) o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2009. I wneud hynny, nodwch ffigur sy’n adlewyrchu defnydd y cwmni o’r naill neu’r llall o’r canlynol:

  • cam 2 o adran 104N(2) o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2009
  • cam 5 RDEC a ildiwyd

Nid oes rhaid i chi gynnwys RDEC a ildiwyd i’ch cwmni o dan Gamau 2 neu 5 gan gwmni arall sy’n rhan o’r grŵp yn eich CT600L — ond gallwch ddewis gwneud hynny. Os byddwch yn gwneud hynny, gwnewch yn siŵr na wnaed yr ildio ar ôl y cyfnod pan gaiff y derbynnydd gyflwyno diwygiad.

Os na fydd unrhyw symiau Cam 2 neu 5 a ildiwyd yn cael eu cynnwys yn y CT600L, mae’n rhaid cynnwys manylion y cwmni sy’n ildio, sy’n rhan o’r grŵp, yn eich cyfrifiannau.

L6 Rhwymedigaeth Treth Gorfforaeth

Nodwch y ffigur o flwch 475 ar eich ffurflen CT600.

L7 Swm Cam 2 a ddygwyd ymlaen a swm yr RDEC a ildiwyd a gafodd ei ddefnyddio i ryddhau rhwymedigaeth Treth Gorfforaeth

Nodwch ffigur naill ai blwch L5 neu flwch L6 — p’un bynnag yw’r lleiaf. Copïwch y ffigur hwn i flwch L194.

L8 Swm yr RDEC a ddygwyd ymlaen o Gam 2 i’w gario ymlaen i’r cyfnod cyfrifyddu nesaf

Nodwch y ffigur ym mlwch L5 llai’r ffigur ym mlwch L7. Copïwch y ffigur hwn i flwch L129.

L9 Rhwymedigaeth Treth Gorfforaeth sy’n weddill i’w chario ymlaen i Gam 1.

Nodwch y ffigur ym mlwch L6 llai’r ffigur ym mlwch L7.

Cam 1: cyfrifo RDEC a osodwyd yn erbyn rhwymedigaeth Treth Gorfforaeth

Darllenwch y Llawlyfr Ymchwil a Datblygu o ran Asedion Anniriaethol Corfforaethol CIRD89780: cynllun credyd gwariant Ymchwil a Datblygu (RDEC): talu credyd – Pennod 6A o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2009, adrannau S104N a 104O (yn agor tudalen Saesneg) am ragor o wybodaeth.

L10 Gwariant Ymchwil a Datblygu yr hawlir RDEC arno yn y cyfnod cyfrifyddu hwn

Nodwch swm y gwariant sy’n gymwys ar gyfer RDEC yn ystod y cyfnod cyfrifyddu hwn ac yr hawlir RDEC arno.

L15 Hawliad RDEC ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwn

Nodwch gyfanswm yr RDEC a hawliwyd cyn unrhyw ryddhau neu ildio er enghraifft. Dylech gynnwys unrhyw symiau sy’n cael eu diddymu gan y rheolau busnes gweithredol ar yr adeg hon (darllenwch adran 104S(2)(b) o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2009). Mae’r symiau hyn yn cael eu tynnu ym mlwch L123.

L20 Symiau Cam 3 o gyfnod cyfrifyddu blaenorol a driniwyd fel RDEC ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwn

Nodwch y cyfanswm o Gam 3, adran 104N(2), a ddygwyd ymlaen o gyfnodau cynharach.

L25 Cyfanswm yr RDEC ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu

Nodwch swm blychau L15 ac L20.

L30 Rhwymedigaeth Treth Gorfforaeth sy’n weddill

Nodwch y ffigur o flwch L9. Os na wnaethoch lenwi blwch L9, nodwch y ffigur o flwch 475 ar eich ffurflen CT600.

L35 Treth Incwm a ddidynnwyd o elw (sy’n berthnasol i rwymedigaeth Treth Gorfforaeth)

Nodwch yr elfen o Dreth Incwm a ddidynnwyd o elw gros, fel y dangosir ym mlwch 515, y mae angen ei osod yn erbyn y rhwymedigaeth Treth Gorfforaeth ym mlwch 475. Hwn fydd y swm llawn os nad oes unrhyw rwymedigaeth arall ym mlychau 480 i 505.

Os oes rhwymedigaethau eraill ym mlychau 480 i 505, gellir gwneud dosraniad teg a rhesymol rhwng y rhwymedigaethau hynny a’r rhwymedigaeth ym mlwch 475. Dim ond y rhwymedigaeth sy’n cael ei ddosrannu yn erbyn blwch 475 y dylid ei nodi ym mlwch L35.

L40 Yr uchafswm sydd ar gael ar gyfer gwrthbwysiad Cam 1

Nodwch y ffigur ym mlwch L30 llai’r ffigur ym mlwch L35.

L45 Swm yr RDEC a ddefnyddiwyd i ryddhau Treth Gorfforaeth yng Ngham 1

Nodwch naill ai ffigur blwch L25 neu ffigur blwch L40 — p’un bynnag yw’r lleiaf. Os nad yw blwch L40 wedi’i lenwi, nodwch 0.00. Copïwch y ffigur o flwch L45 i flwch L195.

Cam 2: cyfrifo’r tâl treth tybiannol

Dim ond os oes gennych RDEC yn weddill ar ôl cwblhau Cam 1 y dylech gwblhau Cam 2.

Mae’r cam hwn yn cyfyngu ar yr elfen daladwy bosibl ac yn sicrhau bod y sawl sydd ar eu colled yn cael yr un budd net â’r sawl sy’n gwneud elw (mae’r credyd yn drethadwy). Cyflawnir hyn drwy gadw treth dybiannol yn ei lle fel bod cyfanswm y budd arian parod ar gyfer pob hawliwr yn hafal i’r credyd gwariant net, heb dreth ar brif gyfradd Treth Gorfforaeth.

L50 Balans Cam 1 a gariwyd ymlaen i Gam 2

Nodwch y ffigur ym mlwch L25 llai’r ffigur ym mlwch L45.

L55 Tâl Treth Gorfforaeth ar yr RDEC ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwn

Nodwch y ffigur ym mlwch L15 wedi’i luosi gan y gyfradd dreth ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwn.

L60 Cyfanswm yr RDEC sy’n codi yn y cyfnod cyfrifyddu hwn, llai’r tâl Treth Gorfforaeth ar yr RDEC ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwn

Nodwch y ffigur ym mlwch L15 llai’r ffigur ym mlwch L55.

L62 RDEC sy’n codi yn y cyfnod cyfrifyddu hwn, llai’r rhwymedigaeth Treth Gorfforaeth sy’n weddill yng Ngham 1

Nodwch y ffigur ym mlwch L15 llai’r ffigur ym mlwch L30. Os yw blwch L30 yn fwy na blwch L15, nodwch 0.00.

L65 Cyfyngiad Cam 2 i’w gario ymlaen i’r cyfnod cyfrifyddu nesaf

Nodwch y ffigur ym mlwch L62 llai’r ffigur ym mlwch L60. Os yw blwch L60 yn fwy na blwch L62, nodwch 0.00.

Cam 3: gwariant ar TWE a chyfraniadau Yswiriant Gwladol gweithwyr Ymchwil a Datblygu

Dim ond os oes gennych RDEC yn weddill ar ôl cwblhau Cam 2 y dylech gwblhau Cam 3.

Mae’r cam hwn yn cyfyngu ymhellach ar unrhyw elfen daladwy i gyfanswm gwariant y cwmni ar TWE a chyfraniadau Yswiriant Gwladol gweithwyr Ymchwil a Datblygu ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu. Mae cyfrifiad y credyd sydd wedi’i gyfyngu ar gyfer TWE a chyfraniadau Yswiriant Gwladol gweithwyr Ymchwil a Datblygu wedi’i nodi yn y Llawlyfr Ymchwil a Datblygu o ran Asedion Anniriaethol Corfforaethol:

L70 Balans Cam 2 a gariwyd ymlaen i Gam 3

Nodwch y ffigur ym mlwch L50 llai’r ffigur ym mlwch L65.

L75 Cyfanswm y gwariant perthnasol ar TWE a Chyfraniadau Yswiriant Gwladol gweithwyr Ymchwil a Datblygu

Nodwch swm y gwariant.

L80 Cyfyngiad Cam 3 i’w gario ymlaen i’r cyfnod cyfrifyddu nesaf

Nodwch y ffigur ym mlwch L70 llai’r ffigur ym mlwch L75. Os yw blwch L75 yn fwy na blwch L70, nodwch 0.00. Copïwch y ffigur o flwch L80 i flwch L145.

Cam 4: Yr RDEC i’w osod yn erbyn rhwymedigaethau Treth Gorfforaeth sydd heb eu bodloni

Defnyddir unrhyw swm sy’n weddill ar ôl Cam 3 i ryddhau’r cwmni rhag unrhyw rwymedigaethau i Dreth Gorfforaeth sy’n weddill (ac sy’n ddyledus ond heb eu setlo) ar gyfer unrhyw gyfnodau cyfrifyddu eraill.

L85 Balans Cam 3 a gariwyd ymlaen i Gam 4

Nodwch y ffigur ym mlwch L70 llai’r ffigur ym mlwch L80.

L90 Swm a ddefnyddiwyd i ryddhau rhwymedigaeth Treth Gorfforaeth cyfnod cyfrifyddu arall

Ni all y ffigur fod yn fwy na’r ffigur ym mlwch L85.

Cam 5: y swm a ildiwyd i aelod o grŵp

Os yw’r cwmni’n aelod o grŵp, gall ildio’r cyfan, neu unrhyw ran sy’n weddill ar ôl Cam 4, i unrhyw aelod arall o’r grŵp. Darllenwch CIRD89810: ildio credyd i gwmni arall sy’n rhan o’r grŵp (yn agor tudalen Saesneg) i gael rhagor o wybodaeth.

L95 Balans Cam 4 a gariwyd ymlaen i Gam 5

Nodwch y ffigur ym mlwch L85 llai’r ffigur ym mlwch L90.

L100 Credyd a ildiwyd i aelod o grŵp

Ni all y ffigur fod yn fwy na’r ffigur ym mlwch L95. Copïwch y ffigur o flwch L100 i flwch L160. Mae’n rhaid i’ch cyfrifiannau gynnwys manylion yr aelod arall o’r grŵp rydych yn ildio’r credyd iddo.     

Cam 6: y swm a ddefnyddiwyd i ryddhau rhwymedigaethau eraill y cwmni

Defnyddir unrhyw swm sy’n weddill ar ôl Cam 5 i ryddhau’r cwmni rhag unrhyw rwymedigaeth arall i dalu swm i’r Comisiynwyr, er enghraifft TAW neu rwymedigaethau o dan unrhyw setliad contract.

L105 Balans Cam 5 a gariwyd ymlaen i Gam 6

Nodwch y ffigur ym mlwch L95 llai’r ffigur ym mlwch L100.

L110 Swm a ddefnyddiwyd i setlo rhwymedigaeth arall y cwmni ar yr Hunanasesiad hwn ar gyfer Treth Gorfforaeth

Nodwch y swm a ddefnyddiwyd i ryddhau’r cwmni rhag rhwymedigaeth ar y Ffurflen Dreth, gan gynnwys y rhai nad ydynt yn Dreth Gorfforaeth ond sy’n cael eu trin felly. Er enghraifft, Ardoll Banc, treth cwmni tramor rheoledig, treth ar fenthyciadau i gyfranogwyr. Copïwch y ffigur o flwch L110 i flwch L200.

L115 Swm a ddefnyddiwyd i ryddhau unrhyw rwymedigaeth arall y cwmni

Nodwch y swm a ddefnyddiwyd i ryddhau’r cwmni rhag rhwymedigaeth arall y tu hwnt i Dreth Gorfforaeth. Er enghraifft, TAW neu TWE. Ni all y ffigur fod yn fwy na blwch L105 llai blwch L110.

L120 Cyfanswm a ddefnyddiwyd i ryddhau rhwymedigaeth arall y cwmni

Nodwch swm blychau L110 ac L115.     

Cam 7: credyd gwariant Ymchwil a Datblygu sy’n daladwy

Mae’r swm terfynol sy’n weddill yn daladwy i’r cwmni ar yr amod bod y cwmni’n fusnes gweithredol. Darllenwch y Llawlyfr Ymchwil a Datblygu o ran Asedion Anniriaethol Corfforaethol, CIRD81130: cwmni sy’n fusnes gweithredol (dim ond MBaCh a chynlluniau brechlynnau) (yn agor tudalen Saesneg) am ragor o wybodaeth.

L123 Symiau sydd wedi’u diddymu gan Adran 104S (2)(b) o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2009

Nodwch y swm cyfan a ddiddymwyd gan adran 104S o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2009 (y rheolau busnes gweithredol).

L125 RDEC sy’n daladwy

Nodwch y ffigur ym mlwch L105 llai swm blychau L120 ac L123.

Nodwch y ffigur o flwch L125 ym mlwch 880 ar eich ffurflen CT600.   

RDEC a gariwyd ymlaen

L129 Cyfyngiad cyn Cam 1

Nodwch y ffigur o flwch L8. Gall y ffigur hwn ond cynnwys symiau a ddygwyd ymlaen ac na chafodd eu defnyddio yng Ngham 2. Ni all gynnwys unrhyw ildiad Cam 2 sydd dros ben o symiau cwmnïau sy’n rhan o’r grŵp.

L130 Cyfyngiad Cam 2

Nodwch y ffigur o flwch L65.

L135 Swm a ildiwyd i gwmni arall sy’n rhan o grŵp

Copïwch y ffigur o flwch L135 i flwch L155. Mae’n rhaid i’ch cyfrifiannau gynnwys manylion y cwmni arall sy’n rhan o’r grŵp rydych yn ildio’r credyd iddo.

L140 Balans i’w gario ymlaen i’r cyfnod cyfrifyddu nesaf

Nodwch swm blychau L129 ac L130 llai blwch L135.

L145 Cyfyngiad Cam 3

Nodwch y ffigur ym mlwch L80.

L150 Cyfanswm i’w gario ymlaen i’r cyfnod cyfrifyddu nesaf

Nodwch gyfanswm blwch L140 a blwch L145.

RDEC a ildiwyd

L155 Cyfyngiad Cam 2 a ildiwyd

Nodwch y ffigur ym mlwch L135.

L160 Credyd Cam 5 a ildiwyd i aelod o grŵp

Nodwch y ffigur ym mlwch L100.

L165 Cyfanswm a ildiwyd

Nodwch gyfanswm blwch L155 a blwch L160.

Ymchwil a Datblygu MBaCh

I gael gwybodaeth am ryddhad MBaCh, darllenwch

Ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2024, dylid llenwi’r adran hon dim ond os ydych yn gymwys o dan y cynllun cymorth ychwanegol o ran Ymchwil a Datblygu dwys.

L166 Gwariant Ymchwil a Datblygu

Nodwch swm y Gwariant Ymchwil a Datblygu sy’n gymwys ar gyfer rhyddhad o fewn y cynllun Ymchwil a Datblygu MBaCh ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwn ac yr hawlir rhyddhad Ymchwil a Datblygu MBaCh arno.

L167 A yw’r eithriad yn Adran 1058D o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2009 yn berthnasol?

Nodwch ‘X’ os yw’r eithriad yn adran 1058D o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2009 yn berthnasol.

L167A Cyfanswm y gwariant ar weithwyr a ddarparwyd yn allanol gan bobl gysylltiedig ac sy’n isgontractio i bobl gysylltiedig

Nodwch ffigur sy’n hafal i’r ffigur ym mlwch L166 wedi’i luosi â 15%, neu sy’n llai na’r ffigur hwnnw. Mae’n rhaid llenwi’r blwch hwn os yw’n eithriad yn adran 1058D.

L168 TWE/CYG y mae’r cwmni’n agored iddynt yn y cyfnod cyfrifyddu hwn

Nodwch swm y TWE a chyfraniadau Yswiriant Gwladol y mae eich cwmni’n agored iddynt yn ystod y cyfnod cyfrifyddu hwn.

L168A Cyfeirnod TWE y Cyflogwr

Nodwch eich Cyfeirnod TWE y Cyflogwr.

L169 Rhwymedigaeth TWE/CYG berthnasol cwmnïau cysylltiedig

Nodwch swm rhwymedigaethau TWE a chyfraniadau Yswiriant Gwladol unrhyw gwmnïau cysylltiedig.

L169A Cyfeirnod TWE y Cyflogwr cwmnïau cysylltiedig

Nodwch Gyfeirnodau TWE y Cyflogwr ar gyfer unrhyw gwmnïau cysylltiedig.

Gwariant Ymchwil a Datblygu gan Fentrau Bach a Chanolig (MBaCh)

L170 Hawliad am gredyd treth taladwy yn sgil gwariant Ymchwil a Datblygu gan MBaCh ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwn

Mae Adran 1058D o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2009 yn nodi eithriadau i’r cap credyd treth. Os nad yw’r eithriadau hyn yn berthnasol, ni all y ffigur rydych chi’n ei nodi yn y blwch hwn fod yn fwy na swm blychau L168 ac L169 wedi’u lluosi â 3 plws £20,000.

Darllenwch y Llawlyfr Ymchwil a Datblygu o ran Asedion Anniriaethol Corfforaethol, CIRD90500: credyd treth taladwy — ar gyfer colled y gellir ei hildio (yn agor tudalen Saesneg) am ragor o wybodaeth.

L175 Credyd treth taladwy yn sgil gwariant Ymchwil a Datblygu gan MBaCh a osodwyd yn erbyn rhwymedigaethau eraill ar y Ffurflen Dreth hon

Nodwch swm y credyd MBaCh sy’n cael ei osod yn erbyn rhwymedigaethau eraill ar y Ffurflen Dreth hon, gan gynnwys y rhai ym mlychau 480 i 505 ar eich ffurflen CT600. Ni all y ffigur fod yn fwy na’r ffigur ym mlwch L170. Copïwch y ffigur o flwch L175 i flwch L205.

L180 Balans y credyd treth taladwy yn sgil gwariant Ymchwil a Datblygu gan MBaCh

Nodwch y ffigur ym mlwch L170 llai’r ffigur ym mlwch L175.

Nodwch y ffigur o flwch L180 ym mlwch 875 ar eich ffurflen CT600.

L185 Hawliad RDEC gan MBaCh mewn perthynas â gwaith a gafodd ei isgontractio iddi gan gwmni mawr

Nodwch gyfanswm yr RDEC a hawliwyd o dan adrannau 104C i 104E o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2009.

Am ragor o wybodaeth, darllenwch y Llawlyfr Ymchwil a Datblygu o ran Asedion Anniriaethol Corfforaethol:

L190 Hawliad RDEC gan MBaCh o waith a gymorthdalwyd a gwaith a gyfyngwyd

Nodwch gyfanswm yr RDEC a hawliwyd o dan adran 104F i adran 104I o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2009.

Am ragor o wybodaeth, darllenwch y Llawlyfr Ymchwil a Datblygu o ran Asedion Anniriaethol Corfforaethol:

Cyfanswm y gwariant Ymchwil a Datblygu wedi’i osod yn erbyn rhwymedigaethau yn y Ffurflen Dreth Cwmni hon

L194 RDEC — Swm rhyddhau cyn Cam 1

Nodwch y ffigur o flwch L7.

L195 RDEC — Swm rhyddhau yng Ngham 1

Nodwch y ffigur o flwch L45.

L200 RDEC — Swm rhyddhau yng Ngham 6 ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwn

Nodwch y ffigur o flwch L110.

L205 Credyd treth taladwy yn sgil gwariant Ymchwil a Datblygu gan MBaCh a ddefnyddiwyd i ryddhau rhwymedigaethau eraill ar y Ffurflen Dreth hon

Nodwch y ffigur o flwch L175.

L210 Cyfanswm

Nodwch swm blychau L194, L195, L200 ac L205.

Nodwch y ffigur o flwch L210 ym mlwch 530 ar eich ffurflen CT600.   

Cyhoeddwyd ar 30 September 2022
Diweddarwyd ddiwethaf ar 29 April 2024 + show all updates
  1. Information about the SME R&D section of CT600L added to notify it should be completed for periods starting on or after 1 April 2024, if the company qualifies under the enhanced research and development intensive support.

  2. Welsh translation added.

  3. Clarification has been added that you can include in L5 the value of step 2 or step 5 RDEC surrendered from other group companies even if you're not claiming RDEC or SME payable tax credit yourself in the return.

  4. First published.