Canllawiau

Tudalennau atodol CT600J: datgelu cynlluniau arbed treth

Sut i lenwi tudalennau atodol CT600J a pha wybodaeth y mae angen i chi ei chynnwys.

Pryd i’w llenwi

Llenwch y tudalennau atodol hyn os yw’r canlynol yn berthnasol:

  • rydych yn rhan o unrhyw drefniadau hysbysadwy, fel y’u diffinnir yn adran 306 o Ddeddf Cyllid 2004

  • rydych wedi cael cyfeirnod cynllun (SRN) 8 digid

  • rydych wedi ymrwymo i drafodiad sy’n rhan o’r trefniadau hynny naill ai yn y cyfnod cyfrifyddu hwn neu yn y gorffennol, ac yn disgwyl cael mantais dreth yn sgil y trefniadau hynny yn y cyfnod cyfrifyddu hwn neu yn y dyfodol

Diffinnir mantais treth yn adran 318 o Ddeddf Cyllid 2004.

Dylech hefyd lenwi’r tudalennau hyn os yw’r canlynol yn wir:

  • rydych wedi cael cyfeirnod hyrwyddwr (PRN) gan hyrwyddwr wedi’i fonitro neu gleient hyrwyddwr wedi’i fonitro

  • rydych yn disgwyl cael mantais dreth yn sgil y trefniadau perthnasol y mae’r hyrwyddwr sy’n cael ei fonitro yn hyrwyddwr mewn perthynas â nhw

Datgelu cynlluniau arbed treth

Os ydych yn gyflogwr ac mae’r trefniadau hysbysadwy yn ymwneud â chyflogaeth eich cyflogeion o dan adran 313ZC o Ddeddf Cyllid 2004, mae’n rhaid i chi ddefnyddio ffurflen AAG8 (yn agor tudalen Saesneg) i roi’r manylion canlynol yn flynyddol:

  • cyfeirnod y cynllun

  • manylion y cyflogai

Mae trefniadau sy’n ymwneud â chyflogaeth yn golygu unrhyw gynnig neu drefniadau hysbysadwy y dylid eu datgelu o dan adran 308, adran 309 neu adran 310 o Ddeddf Cyllid 2004 yn rhinwedd rheoliad 8(10) o Reoliadau Cynlluniau Arbed Treth (Gwybodaeth) 2004.

Dylech ddarllen Datgelu cynlluniau arbed treth (yn agor tudalen Saesneg) i gael rhagor o wybodaeth am rwymedigaethau cyflogwyr. 

Os na chyflwynir y Ffurflen Dreth erbyn y dyddiad cyflwyno, neu os na chynhwyswyd cyfeirnod y cynllun ar Ffurflen Dreth a gyflwynwyd erbyn y dyddiad cyflwyno, dylech roi gwybod am gyfeirnod y cynllun ar wahân gan ddefnyddio ffurflen AAG4 (yn agor tudalen Saesneg).

Mewn achosion lle nad oes hyrwyddwr, neu os yw’r hyrwyddwr yn gyfreithiwr na all wneud hysbysiad llawn oherwydd partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, dylech roi gwybod i CThEF trwy lenwi ffurflen AAG3 (yn agor tudalen Saesneg).

Hyrwyddwyr cynlluniau arbed treth

Os ydych wedi cael cyfeirnod hyrwyddwr gan hyrwyddwr wedi’i fonitro, neu gleient yr hyrwyddwr hwnnw, mae’n rhaid i chi roi’r cyfeirnod hwnnw i CThEF os ydych yn disgwyl cael mantais dreth yn sgil trefniadau perthnasol yn y cyfnod cyfrifyddu a gwmpesir gan y Ffurflen Dreth hon. Mae hyn yn ymwneud â’r canlynol:

  • Treth Gorfforaeth

  • Treth Incwm

  • Treth Enillion Cyfalaf

  • TAW

  • Cyfraniadau Yswiriant Gwladol

Darllenwch adran 253 o Ddeddf Cyllid 2014 i gael ragor o wybodaeth.

Peidiwch â defnyddio’r ffurflen hon i roi gwybod am gyfeirnod hyrwyddwr os yw’r canlynol yn wir:

  • mae’r trefniadau’n ymwneud â Threth Etifeddiant, Treth Refeniw Petroliwm, Treth Dir y Tollau Stamp neu Dreth Tollau Stamp Wrth Gefn

  • nid yw’r Ffurflen Dreth wedi’i chyflwyno erbyn y dyddiad cyflwyno, neu ni chynhwyswyd cyfeirnod yr hyrwyddwr ar Ffurflen Dreth a gyflwynwyd erbyn y dyddiad cyflwyno

Dylech roi gwybod am gyfeirnod yr hyrwyddwr ar wahân i CThEF ar ffurflen AAG4(PRN) (yn agor tudalen Saesneg).

Llenwi’r ffurflen

J1Enw’r cwmni

Nodwch enw’r cwmni.

J2 Cyfeirnod treth

Nodwch Gyfeirnod Unigryw y Trethdalwr yn y DU (sef 10 digid) ar gyfer y cwmni.

Y cyfnod dan sylw yn y dudalen atodol hon (ni all fod yn fwy na 12 mis)

J3

Nodwch y dyddiad dechrau gan ddefnyddio’r fformat DD MM BBBB.

J4

Nodwch ddyddiad dod i ben y cyfnod cyfrifyddu gan ddefnyddio’r fformat DD MM BBBB.

J5 i J50 Cyfeirnod y cynllun

Nodwch y cyfeirnod a roddwyd gan yr hyrwyddwr neu berson arall sy’n ymwneud â chyflawni’r trefniadau, neu gan CThEF ar gyfer pob cynnig hysbysadwy neu drefniant hysbysadwy, os ydych naill ai:

  • wedi rhoi’r trefniant ar waith yn ystod y cyfnod cyfrifyddu y mae’r Ffurflen Dreth hon yn effeithio arno, ac yn disgwyl mantais Treth Gorfforaeth yn y cyfnod hwn neu yn y dyfodol

  • wedi rhoi’r cynllun ar waith yn flaenorol, ac yn disgwyl mantais Treth Gorfforaeth yn ystod y cyfnod cyfrifyddu hwn neu yn y dyfodol

Nodwch y cyfeirnod, hyd yn oed os ydych eisoes wedi nodi’r rhif ar Ffurflen Dreth sy’n cwmpasu cyfnod cynharach, oni bai nad ydych bellach yn disgwyl unrhyw fantais dreth yn sgil y trefniadau hysbysadwy naill ai yn y cyfnod cyfrifyddu hwn neu yn y dyfodol.

J5A i J50A Cyfnod cyfrifyddu pryd y cwyd y fantais ddisgwyliedig

Nodwch ddiwrnod olaf y cyfnod cyfrifyddu pryd y disgwylir unrhyw fantais dreth yn sgil y trefniadau hysbysadwy, gan ddefnyddio’r fformat DD MM BBBB.

Os ydych yn disgwyl i’r fantais dreth gwmpasu mwy nag un cyfnod cyfrifyddu, nodwch y cyfnod cynharaf.

Cosbau

Datgelu cynlluniau arbed treth

Gall y cwmni fod yn agored i gosb o dan adran 98C(3) o Ddeddf Rheoli Trethi 1970 os yw’n methu:

  • darparu unrhyw gyfeirnod a roddir gan yr hyrwyddwr, person sy’n ymwneud â chyflawni’r trefniadau neu CThEF ar gyfer unrhyw gynnig neu drefniant hysbysadwy

  • rhoi gwybod am ddiwrnod olaf y cyfnod cyfrifyddu pryd y disgwylir unrhyw fantais dreth yn y lle cyntaf (darllenwch adran 313(1) o Ddeddf Cyllid 2004)

Swm y gosb yw £5,000 ar gyfer pob cynllun y mae’r methiant yn ymwneud ag ef, oni bai bod y naill neu’r llall o’r canlynol yn berthnasol:

  • mae’r cwmni wedi methu â chydymffurfio ar un achlysur blaenorol yn ystod y cyfnod o 36 mis sy’n dod i ben ar ddyddiad y methiant presennol, p’un a yw’r methiant yn ymwneud â’r un cynllun ai peidio — cosb o £7,500 am bob cynllun

  • mae’r cwmni wedi methu â chydymffurfio o’r blaen ar 2 neu fwy o achlysuron yn ystod y cyfnod o 36 mis sy’n dod i ben ar ddyddiad y methiant presennol, p’un a yw’r methiant yn ymwneud â’r un cynllun ai peidio — cosb o £10,000 am bob cynllun

Hyrwyddwyr cynlluniau arbed treth

Gall y cwmni hefyd fod yn agored i gosb o dan atodlen 35, paragraff 2(3) o Ddeddf Cyllid 2014 os yw’n methu â:

  • rhoi cyfeirnod yr hyrwyddwr i unrhyw berson arall y gellid disgwyl yn rhesymol iddo wybod sydd wedi dod yn gleient i’r hyrwyddwr hwnnw, neu’n debygol o fod wedi dod yn gleient i’r hyrwyddwr hwnnw, ar adeg pan oedd yr hysbysiad monitro mewn grym (darllenwch adran 252 o Ddeddf Cyllid 2014)

  • rhoi gwybod am unrhyw gyfeirnod yr hyrwyddwr a roddwyd iddo, mewn perthynas â hyrwyddwr trefniadau perthnasol y mae’r cwmni’n disgwyl cael mantais dreth yn eu sgil (darllenwch adran 253 o Ddeddf Cyllid 2014)

Mae swm y gosb, mewn cysylltiad â methiant o dan adran 252, hyd at £5,000 ar gyfer pob person y mae’r methiant yn ymwneud ag ef.

Swm y gosb, mewn cysylltiad â methiant o dan adran 253 yw £5,000, oni bai bod y naill neu’r llall o’r canlynol yn berthnasol:

  • mae person wedi methu â chydymffurfio ar un achlysur blaenorol yn ystod y cyfnod o 36 mis sy’n dod i ben ar ddyddiad y methiant presennol — cosb o £7,500

  • mae person wedi methu â chydymffurfio o’r blaen ar 2 neu fwy o achlysuron yn ystod y cyfnod o 36 mis sy’n dod i ben ar ddyddiad y methiant presennol — cosb o £10,000

Rhagor o wybodaeth

Darllenwch arweiniad CThEF Arbed treth: gwybodaeth fanwl (yn agor tudalen Saesneg) i gael rhagor o wybodaeth.

Cyhoeddwyd ar 30 September 2022
Diweddarwyd ddiwethaf ar 2 January 2024 + show all updates
  1. Welsh translation added.

  2. First published.