Cyflwyno eich swyddi gwag Cynllun Kickstart
Cyflwyno eich swyddi gwag Cynllun Kickstart ar-lein ar ôl i chi dderbyn canlyniad llwyddiannus i'ch cais ar-lein am grant Cynllun Kickstart.
Yn berthnasol i Gymru, Loegr a Scotland
Gwnaeth ceisiadau i’r Cynllun Kickstart gau am hanner dydd ar 17 Rhagfyr 2021.
Gwiriwch y dyddiadau cau eraill ar gyfer cwblhau tasgau Cynllun Kickstart.
-
Cyflwynwch eich swyddi gwag
Os ydych yn borth Kickstart, gwiriwch y canllawiau ar gyfer pyrth.
Cyn i chi gyflwyno’ch swyddi gwag
Mae’n rhaid i chi fod:
- wedi gwneud cais llwyddiannus am grant Cynllun Kickstart cyn hanner dydd ar 17 Rhagfyr 2021
- wedi llofnodi a dychwelyd y cytundeb grant i DWP neu’ch porth Kickstart cyn 11:59pm ar 7 Ionawr 2022
Gwnaeth ceisiadau i ychwanegu mwy o swyddi neu gyflogwyr i’ch cytundeb grant (amrywiad grant) gau am hanner dydd ar 17 Rhagfyr 2021.
Sut i gyflwyno’ch swyddi gwag
Os gwnaethoch gais trwy borth Kickstart
Rhowch fanylion eich swyddi gwag i’ch porth. Byddant yn eu cyflwyno i DWP ar eich rhan erbyn 11:59pm ar 31 Ionawr 2022 gan ddefnyddio’r templed lleoliad gwaith.
Os gwnaethoch gais ar-lein
Byddwn naill ai’n:
- e-bostio’r templed lleoliad gwaith atoch i’w gwblhau a’i anfon yn ôl i’w gymeradwyo
- eich gwahodd i greu cyfrif ar-lein lle gallwch gyflwyno’ch swyddi gwag i’w cymeradwyo ar-lein
Mae angen i chi anfon y templed lleoliad gwaith yn ôl neu gyflwyno’ch swyddi gwag ar-lein erbyn 11:59pm ar 31 Ionawr 2022.
Os ydych wedi derbyn gwahoddiad i greu cyfrif ar-lein
Gwahoddir rhai cyflogwyr sy’n gwneud cais ar-lein trwy e-bost i greu cyfrif.
Os cewch eich gwahodd, byddwch yn gallu:
- cyflwyno manylion eich swyddi gwag ar-lein i’w cymeradwyo
- gwirio statws cymeradwyo eich swyddi gwag
Bydd yr e-bost yn esbonio sut i greu eich cyfrif.
Ar ôl i chi greu eich cyfrif, gallwch fewngofnodi i gyflwyno’ch swyddi gwag ar-lein:
Mewngofnodi i gyflwyno’ch swyddi gwag
Ar ôl i chi ychwanegu eich swyddi gwag
-
Bydd eich swyddi gwag yn mynd yn fyw unwaith y byddwn wedi eu cymeradwyo.
-
Byddwn yn hysbysebu eich swyddi ar y Find a job service tan 28 Chwefror 2022.
-
Bydd anogwyr gwaith yn y Ganolfan Byd Gwaith yn atgyfeirio pobl ifanc at eich swyddi gwag (‘atgyfeiriadau’) tan 1 Mawrth 2022. Gwneir atgyfeiriad pan fyddwn yn argymell eich swydd wag i ymgeisydd. Nid yw hyn yn gwarantu y bydd yr ymgeisydd yn cyflwyno cais.
-
Byddwch chi neu’ch porth Kickstart (yn dibynnu ar eich cytundeb â nhw) yn cyfweld ymgeiswyr addas sydd wedi gwneud cais.
-
Rhaid i’r person ifanc ddechrau’r swydd ar neu cyn 31 Mawrth 2022.
-
Dylech chi neu’ch porth Kickstart ddweud wrthym erbyn 11:59pm ar 30 Ebrill 2022 bod y person ifanc wedi dechrau fel y gallwn brosesu’r cyllid.
-
Gallwch ychwanegu rhagor o swyddi i’ch cytundeb grant presennol tan hanner dydd ar 17 Rhagfyr 2021.
-
Gallwch reoli eich cyllid unwaith y bydd y person ifanc wedi dechrau.
Gallwch hysbysebu swyddi gwag eich hun, ond mae rhaid i bob swydd gael cyflwyniad trwy anogwr gwaith DWP i dderbyn cyllid llawn.
Cael help gyda Chynllun Kickstart
Cysylltwch â’ch cyswllt lleol neu genedlaethol os oes angen help arnoch gyda phroses Cynllun Kickstart.
Updates to this page
-
Updated page as the deadline for submitting vacancies has now passed.
-
Updated page as the deadline for grant agreements to be signed and returned has now passed.
-
Updated page to say applications for Kickstart Scheme funding closed at midday on 17 December 2021 and removed links to the apply guides.
-
Added deadlines for completing Kickstart Scheme tasks.
-
First published.