Canllawiau

Cyflwyno neu ymateb i gais gyda MyHMCTS

Cyflwyno neu ymateb i geisiadau ar-lein ar gyfer rhai achosion sifil, teulu a thribiwnlys.

Mae’r gwasanaeth hwn ar gyfer cyfreithiwr a gweithwyr proffesiynol ym maes y gyfraith eraill.

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i gyflwyno ceisiadau am:

  • hawliadau am iawndal yn y llys sifil
  • hawliadau am arian yn y llys sifil
  • ysgariad
  • ymatebion y tribiwnlys cyflogaeth
  • gorchmynion cyfraith deulu gyhoeddus
  • rhwymedi ariannol
  • apeliadau mewnfudo a lloches
  • profiant

Cyn ichi ddechrau

I allu defnyddio’r gwasanaeth hwn, mae’n rhaid bod eich sefydliad wedi cofrestru ar gyfer cyfrif MyHMCTS. Unwaith y bydd eich sefydliad wedi cofrestru, bydd ganddo weinyddwr cyfrif MyHMCTS. Gallant ychwanegu mwy o weinyddwyr cyfrif a’ch gwahodd i ymuno â chyfrif MyHMCTS eich sefydliad. Dim ond gweinyddwyr cyfrif all ychwanegu defnyddwyr.

Ar ôl ichi gael gwahoddiad fe gewch neges e-bost i orffen agor eich cyfrif. Fe anfonir y neges e-bost hon o hm.courts.and.tribunals.registrations@notifications.service.gov.uk. Bydd pob neges e-bost, gan gynnwys codau dilysu, yn cael ei hanfon o’r cyfeiriad e-bost hwn.

Mae’n rhaid i chi ychwanegu’r cyfeiriad hwn i’ch rhestr o gyfeiriadau e-bost diogel. Os oes gan eich sefydliad feddalwedd diogelwch ychwanegol, rhaid i chi ychwanegu’r cyfeiriad e-bost i’r rhestr o gyfeiriadau e-bost diogel hon hefyd. Os oes gennych adran TG, gallant eich helpu i wneud hyn.

Mae’n rhaid i chi greu eich cyfrinair o fewn 20 diwrnod. Os na fyddwch yn creu eich cyfrinair o fewn y cyfnod hwn, gall eich gweinyddwr cyfrif anfon gwahoddiad arall atoch.

Cael mynediad i MyHMCTS

Unwaith y bydd eich cyfrif wedi’i agor gallwch fewngofnodi i MyHMCTS i reoli a chreu achosion.

Dechrau nawr

Dilysu eich cyfrif

Bob tro y byddwch yn mewngofnodi i’ch cyfrif, byddwn yn anfon cod dilysu atoch. Bydd y cod yn gweithio am 90 munud.

Os byddwch yn cymryd mwy o amser na hyn i ddefnyddio’r cod, bydd rhaid ichi fewngofnodi i’r system eto a gofyn am god newydd.

Os nad ydych wedi cael cod ar ôl aros am 20 munud, cysylltwch â MyHMCTSsupport@justice.gov.uk.

Os na allwch wneud cais ar-lein

Ni ellir defnyddio MyHMCTS i gyflwyno rhai ceisiadau a rhaid llenwi ffurflen bapur.

Profiant

Gwneud cais am brofiant gan ddefnyddio ffurflen bapur

Apeliadau mewnfudo a lloches

Gwneud cais am apeliadau mewnfudo a lloches gan ddefnyddio ffurflen bapur

Cyfarwyddyd ar gyflwyno a rheoli achosion

Cyfeiriwch at y cyfarwyddiadau canlynol i gael mwy o wybodaeth am reoli, cyflwyno ac ymateb i achosion yn MyHMCTS:

Gwasanaeth Cymraeg i weithwyr proffesiynol

Gallwch greu a rheoli eich achosion yn Gymraeg drwy glicio ar y botwm Cymraeg sydd ar ochr dde uchaf unrhyw dudalen yn MyHMCTS. Dim ond pan fyddwch yn rheoli achos y mae’r opsiwn hwn ar gael, ac nid pan fyddwch yn cofrestru neu’n rheoli cyfrif sefydliad.    Os nad yw’r botwm iaith yn gweithio, anfonwch e-bost i MyHMCTSsupport@justice.gov.uk.   Os nad yw cyfieithiad Cymraeg yn ymddangos yn gywir, anfonwch e-bost i welsh.language.unit.manager@justice.gov.uk. Pan fydd y gwasanaeth newydd gael ei ddiweddaru, efallai y byddwch yn gweld testun Saesneg yn hytrach na thestun Cymraeg tra bydd y testun yn cael ei gyfieithu.

Os ydych angen cymorth gydag achos, cyfeiriwch at y cyfarwyddyd ar reoli achosion a chael mynediad i achosion yn MyHMCTS

Cymorth gyda MyHMCTS

Os nad oes gennych gyfrif eto

Ni allwch greu cyfrif ar gyfer chi eich hun. Os ydych wedi ceisio cofrestru ac y dywedwyd wrthych bod rhif cofrestru’r Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr (SRA) neu’r rhif Trosglwyddiad Cyfrif (PBA) wedi’i ddefnyddio’n barod, mae’n rhaid i chi gysylltu â’ch gweinyddwr cyfrif MyHMCTS.

Os na allwch ddod o hyd i fanylion eich gweinyddwr cyfrif MyHMCTS, gallwch anfon e-bost i MyHMCTSsupport@justice.gov.uk. Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Mewngofnodi i’ch cyfrif MyHMCTS

Os ydych yn cael trafferth mewngofnodi i MyHMCTS, gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio’r ddolen gywir. I reoli achos, mae’n rhaid ichi ddefnyddio https://manage-case.platform.hmcts.net.

Os ydych yn weinyddwr cyfrif ac rydych angen rheoli cyfrif y sefydliad neu ddefnyddiwr, defnyddiwch https://manage-org.platform.hmcts.net.

Dylech hefyd wneud yn siŵr eich bod yn:

  • defnyddio porwr we sydd wedi’i ddiweddaru - rydym yn argymell eich bod yn defnyddio Google Chrome neu Microsoft Edge (ni allwch ddefnyddio Internet Explorer neu Apple Safari)
  • clirio eich cwcis a’ch cof dros dro (cache)
  • gwirio eich gosodiadau diogelwch a wal tân

Rydym yn argymell eich bod yn rhoi nod tudalen ar dudalen we MyHMCTS neu’n ei hychwanegu at eich rhestr ffefrynnau. Dylech ond wneud hyn ar ôl i chi fewngofnodi i MyHMCTS ac rydych ar y dudalen gartref. Peidiwch â gwneud hyn o’r dudalen fewngofnodi neu’r dudalen ddilysu, neu tra bydd gennych fanylion achos ar agor.

Os ydych dal i gael trafferth mewngofnodi i MyHMCTS, ceisiwch ddefnyddio dyfais wahanol.

Os oes gennych dîm cymorth TG yn eich sefydliad, yna byddant yn gallu eich helpu gydag unrhyw broblemau gyda’ch dyfais, porwr we a gosodiadau diogelwch.

Os oes gennych broblem â’ch cyfrif MyHMCTS, dylech gysylltu â gweinyddwr cyfrif eich sefydliad.

Os ydych angen cymorth pellach gyda’ch cyfrif MyHMCTS, anfonwch neges e-bost i MyHMCTSsupport@justice.gov.uk. Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Rheoli achosion a chael mynediad at achosion yn MyHMCTS

Cyfarwyddyd ar dasgau gweinyddol achosion yn MyHMCTS, gan gynnwys ffeilio hysbysiad o gais am newid.

Os ydych angen cymorth gydag achos penodol neu i reoli achos yn MyHMCTS, cyfeiriwch at y cyfarwyddyd perthnasol i ganfod gyda phwy y dylech gysylltu.

Gweler y cyfarwyddyd ar reoli a chyflwyno achosion am restr o ddolenni i wasanaethau gwahanol.

Cyhoeddwyd ar 19 October 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 13 March 2024 + show all updates
  1. Added guidance about managing cases in Welsh

  2. First published.