Canllawiau

Cyflwyno datganiad toll gwin, seidr a chynhyrchion eplesedig eraill

Cyflwyno datganiad (EX606) i ddatgan toll ar win, seidr a chynhyrchion eplesedig eraill (gwin a wnaed yn ffurfiol) bob mis.

Pryd y dylech gyflwyno Datganiad

Mae’n rhaid i CThEF gael eich datganiad heb fod yn hwyrach na’r 15fed diwrnod o’r mis ar ôl diwedd eich cyfnod cyfrifyddu.

Os yw’r 15fed diwrnod o’r mis yn disgyn ar benwythnos neu ŵyl gyhoeddus, mae’n rhaid i ni gael eich datganiad erbyn y diwrnod gwaith olaf cyn y dyddiad hwnnw.

Dylech gyflwyno datganiad hyd yn oed os yw’ch rhwymedigaeth tollau yn sero.

Pan fydd y gyfradd yn newid yn ystod cyfnod cyfrifyddu, mae’n rhaid i chi lenwi 2 ddatganiad ar wahân am y cyfnod. Dylech nodi eich ffurflenni cyn neu ar ôl y gyllideb.

Cyn i chi ddechrau

Gallwch ddarllen arweiniad ar sut i lenwi’ch datganiad yn:

Yr hyn y bydd ei angen arnoch

Bydd angen y canlynol arnoch:

Gallwch ddod o hyd i godau’r math o dreth a chyfraddau ar gyfer y Doll Alcohol yn Tariff Masnach y DU: tollau ecséis, rhyddhadau, anfanteision a lwfansau (yn Saesneg).

Sut i gyflwyno’ch Datganiad


Datganiad gwin, seidr a chynhyrchion eplesedig eraill (EX606) ar gyfer cyfnodau ar ôl 1 Awst 2023

Request an accessible format.
If you use assistive technology (such as a screen reader) and need a version of this document in a more accessible format, please email different.format@hmrc.gov.uk. Please tell us what format you need. It will help us if you say what assistive technology you use.


Datganiad gwin, gwin a wnaed, seidr a pherai (EX606) ar gyfer cyfnodau hyd at 31 Gorffennaf 2023

Request an accessible format.
If you use assistive technology (such as a screen reader) and need a version of this document in a more accessible format, please email different.format@hmrc.gov.uk. Please tell us what format you need. It will help us if you say what assistive technology you use.

Anfonwch e-bost i CThEF i ofyn am y ffurflen yn Gymraeg.

Cyflwyno’ch datganiad gan ddefnyddio Dropbox

Os oes gennych fynediad at sganiwr, gallwch ofyn i chi gyflwyno eich datganiad drwy Dropbox.

Bob mis, mae angen i chi:

  1. Darllen y protocols Dropbox (yn Saesneg).

  2. Anfon e-bost yn cadarnhau eich bod yn derbyn y protocols i dîm cyfrifyddu Cumbernauld yn tapsreturns@hmrc.gov.uk.

Yna byddwn yn ymateb ac yn rhoi gwybod i chi beth i’w wneud nesaf. Peidiwch ag anfon datganiad nes y byddwn yn gofyn i chi wneud hynny.

Cyflwyno’ch datganiad drwy’r post

Dylech argraffu, llenwi a phostio eich datganiad i:

Taliadau Newid Hinsawdd a Thollau Alcohol
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
HMRC
BX9 1ST

Ar gyfer unrhyw ymholiadau, cysylltwch â’r llinell gymorth taliad Toll Gwin neu Seidr a datganiadau (yn Saesneg).

Gall defnyddio print a phost gymryd mwy o amser i ni brosesu.

Yr hyn i’w wneud nesaf

Dysgwch sut i dalu toll gwin neu gwrw (yn Saesneg).

Os yw’r cynhyrchion yn cael eu rhoi mewn warws ecséis

Mae’n rhaid i chi dalu’r doll a rhoi gwybod i CThEF gan ddefnyddio naill ai:

Cyhoeddwyd ar 1 August 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 15 September 2023 + show all updates
  1. Welsh translation added.

  2. A new version of the EX606 has been added. The guidance has been updated for the changes to Alcohol Duty from 1 August 2023.

  3. First published.