Canllawiau

Cyflwyno Datganiad Toll Cwrw

Cyflwynwch Ddatganiad (EX46) i ddatgan toll ar gwrw ac i ddatgan symudiadau eraill i mewn ac allan o’ch safle cofrestredig.

This guidance was withdrawn on

To pay Alcohol Duty, you must now use the Manage your Alcohol Duty online service.

If you owe any duty up to and including February 2025, you will not see this on the Manage your Alcohol Duty service. To pay any outstanding duty, you must contact nru.alcohol@hmrc.gov.uk to use the product-specific duty returns.

Read more about the changes to alcohol approvals, returns and payments from 1 February 2025.

O 1 Mawrth 2025 ymlaen, mae’n rhaid i chi gyflwyno datganiad misol erbyn 15fed o’r mis gan ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein Rheoli’ch Toll Alcohol. Bydd y ffurflen hon yn cynnwys pob cynnyrch alcoholig, ar draws pob safle cymeradwy.

Os nad ydych wedi cyflwyno datganiad hyd at a chan gynnwys mis Chwefror 2025, ni fyddwch yn gweld hyn ar wasanaeth ar-lein Rheoli’ch Toll Alcohol. Dylech ddefnyddio’r datganiadau tollau sy’n benodol i gynnyrch (ffurflenni EX606 ac EX46) i ddatgan tollau.

Darllenwch ragor am y newidiadau i gymeradwyo, datganiadau a thaliadau o ran alcohol o 1 Chwefror 2025 ymlaen.

Pryd y dylech gyflwyno Datganiad

Mae’n rhaid i chi gyflwyno Datganiad Toll Cwrw erbyn 15fed diwrnod y mis ar ôl diwedd pob cyfnod cyfrifyddu.

Defnyddiwch y Datganiad i ddatgan y canlynol:

  • y doll sy’n ddyledus ar gwrw
  • gorddatganiadau a thanddatganiadau
  • cwrw a ddosbarthwyd i, ac a gafwyd o, safleoedd eraill sydd wedi’u cofrestru yn y DU neu warysau ecséis
  • y doll a gafodd ei hadennill ar gwrw wedi’i ddifetha
  • y doll a gafodd ei hadennill fel ad-daliad
  • cwrw a fewnforiwyd i’r DU
  • cwrw a allforiwyd y tu allan i’r DU

Mae’n rhaid i chi gyflwyno Datganiad hyd yn oed os nad oes arnoch ddim byd.

Os oes angen i chi gyflwyno Datganiad ar gyfer cyfnod sydd dros na 6 mis yn ôl, dylech gysylltu â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF gan nodi eich bod am drafod Toll Cwrw.

Gwybodaeth sydd ei hangen arnoch cyn i chi ddechrau

Bydd angen y canlynol arnoch:

Cyflwyno’ch Datganiad ar-lein

Bydd angen y manylion mewngofnodi a ddefnyddiwyd gennych wrth gofrestru ar gyfer Toll Alcohol.

Cewch gadarnhad drwy e-bost pan fyddwch yn cyflwyno eich Datganiad.

Dechrau nawr

Anfon eich Datganiad drwy’r post

Gallwch ddod o hyd i godau’r math o dreth a chyfraddau ar gyfer y Doll Alcohol yn Tariff Masnach y DU: tollau ecséis, rhyddhadau, anfanteision a lwfansau (yn Saesneg).

Casglwch eich holl wybodaeth at ei gilydd cyn i chi ddechrau. Byddwch yn llenwi’r ffurflen hon ar-lein ac ni allwch gadw’ch cynnydd.

Llenwch y canlynol:

Argraffwch y ffurflen a’i hanfon drwy’r post i CThEF gan ddefnyddio’r cyfeiriad post a ddangosir ar y ffurflen.

Efallai na fydd y ffeil hon yn addas ar eich cyfer os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol (megis darllenydd sgrin). Os oes angen fformat mwy hygyrch arnoch, e-bost i gwasanaeth.cymraeg@hmrc.gov.uk a rhoi gwybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd o gymorth i ni os nodwch pa dechnoleg gynorthwyol yr ydych yn ei defnyddio. Darllenwch y datganiad hygyrchedd ar gyfer ffurflenni CThEF (yn Saesneg).

Anfonwch e-bost i CThEF i ofyn am y ffurflen yn Gymraeg.

Yr hyn i’w wneud nesaf

Dysgwch sut i dalu Toll Cwrw (yn Saesneg).

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 18 Awst 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 1 Mawrth 2025 show all updates
  1. Added text explaining that from 1 March 2025, you must use the Manage your Alcohol Duty online service to submit returns.

  2. Welsh translation added.

  3. First published.

Argraffu'r dudalen hon