Storio, prosesu neu gynhyrchu nwyddau ecséis mewn safle tollau Porthladd Rhydd yn y DU
Dysgwch pwy all gael ei awdurdodi i storio, prosesu neu gynhyrchu nwyddau ecséis mewn safle tollau Porthladd Rhydd yn y DU a sut mae gwneud cais i wneud hynny.
Wrth gyfeirio at ‘Porthladd Rhydd’ ar y dudalen hon, mae hyn hefyd yn cynnwys ‘Porthladdoedd Rhydd Gwyrdd yn yr Alban’, oni nodir yn wahanol.
Trosolwg
Mae’r arweiniad hwn yn egluro pwy sy’n gallu gweithredu ym maes nwyddau ecséis ar safle tollau Porthladd Rhydd (sydd hefyd yn cael ei alw’n ‘parth rhydd’) a beth mae’n rhaid i chi ei wneud. Dylech ei ddarllen os yw’r canlynol yn berthnasol i chi:
- hoffech fewnforio, allforio, cynhyrchu, trin, storio, prosesu, pecynnu, cludo neu ddelio mewn nwyddau ecséis ar safle tollau Porthladd Rhydd
- hoffech gael eich awdurdodi fel busnes ecséis Porthladd Rhydd (sydd hefyd yn cael ei alw’n ‘busnes ecséis parth rhydd’) a’ch cymeradwyo i weithredu warws ecséis Porthladd Rhydd (sydd hefyd yn cael ei galw’n ‘warws ecséis parth rhydd’)
Ystyr ‘parth rhydd’ yw ardal yn y DU sydd wedi’i dynodi’n ardal arbennig at ddibenion tollau o dan adran 100A o Ddeddf Rheoli Tollau Tramor a Chartref 1979.
Gall CThEF ddewis a yw am wneud y canlynol:
- caniatáu i awdurdodiad neu gymeradwyaeth sy’n bodoli’n barod barhau
- cymeradwyo a chofrestru safleoedd a busnesau ecséis Porthladd Rhydd newydd
- cymeradwyo safleoedd newydd ac ychwanegol
Efallai y byddwch yn cael cosb os na fyddwch yn gwneud cais am awdurdodiad neu gymeradwyaeth ar yr adeg gywir.
Bydd CThEF bob amser yn gwneud y canlynol:
- adolygu cydymffurfiad busnesau ecséis Porthladd Rhydd awdurdodedig sy’n bodoli’n barod
- gwirio pob cais newydd
Pwy y gellir ei awdurdodi fel busnes ecséis Porthladd Rhydd i weithredu warws ecséis Porthladd Rhydd
Mae busnes ecséis Porthladd Rhydd awdurdodedig wedi’i gymeradwyo i weithredu warws ecséis Porthladd Rhydd er mwyn gwneud y naill neu’r llall o’r canlynol:
- datgan nwyddau i weithdrefn Porthladd Rhydd (sydd hefyd yn cael ei galw’n ‘gweithdrefn parth rhydd’)
- cyflawni gweithgaredd Porthladd Rhydd (sydd hefyd yn cael ei alw’n ‘gweithgaredd parth rhydd’)
Ystyr busnes ecséis Porthladd Rhydd awdurdodedig yw busnes sydd wedi’i awdurdodi fel busnes ‘parth rhydd’ ac sydd hefyd wedi’i gymeradwyo i weithredu warws ecséis parth rhydd yn unol â rheoliad 85C o Reoliadau Nwyddau Ecséis (Dal, Symud a Man Tollau) 2010. Mae gweithdrefn parth rhydd yn golygu gweithdrefn storio a ddisgrifir ym mharagraff 2(1)(b) o Atodlen 2 i Ddeddf Trethiant (Masnach Drawsffiniol) 2018.
Mae warws ecséis Porthladd Rhydd yn fan diogel i roi, cadw a diogelu nwyddau ecséis mewn gweithdrefn Porthladd Rhydd.
Mae gweithgaredd Porthladd Rhydd yn weithgaredd sy’n dod o dan y disgrifiad yn rheoliad 3(2)(c) o Reoliadau Tollau (Gweithdrefnau Arbennig a Phrosesu Allanol) (Ymadael â’r UE) 2018.
Gwneud cais i gael eich awdurdodi fel busnes ecséis Porthladd Rhydd i weithredu warws ecséis Porthladd Rhydd
Mae’n rhaid i chi wneud cais i ddefnyddio gweithdrefn arbennig y tollau ar gyfer Porthladdoedd Rhydd. Mae’n rhaid i berson cyfrifol yn y busnes lenwi a llofnodi’r ffurflen gais. Bydd hyn naill ai ar ffurf:
- unig berchennog y busnes
- un o’r partneriaid os yw’r busnes yn bartneriaeth
- cyfarwyddwr neu ysgrifennydd y cwmni, neu lofnodwr awdurdodedig os yw’r busnes yn gorff corfforaethol
Fel rhan o’ch cais, mae’n rhaid i chi gynnwys:
- copïau o luniadau neu gynlluniau sy’n dangos manylion ardal y warws arfaethedig sy’n ceisio cymeradwyaeth
- copi (neu grynodeb) o asesiad risg iechyd a diogelwch eich safle
- unrhyw wybodaeth arall y gallwn ofyn amdani (er enghraifft, cynlluniau busnes)
Bydd eich cais yn cael ei ystyried a byddwn yn cynnal gwiriadau cefndir. Os nad yw’r gwiriadau hyn yn ddigon i ni benderfynu, mae’n bosibl y byddwn yn gofyn am ragor o wybodaeth. Bydd eich cais yn cael ei ohirio nes i’r wybodaeth hon ddod i law.
Efallai y byddwn yn ymweld â chi cyn cymeradwyo’ch cais er mwyn i ni gael gwybodaeth i’n helpu i brosesu’r cais.
Yn ystod unrhyw ymweliadau â’ch safle, byddwn yn archwilio holl weithgareddau’r busnes ac efallai y byddwn yn holi am y canlynol:
- eich cyflenwyr
- eich cwsmeriaid
- eich cynlluniau busnes
- eich systemau cyfrifyddu
- eich safle
- eich hyfywedd ariannol
- materion perthnasol eraill
Mae’r prawf gweddus a phriodol yn rhan bwysig o’r broses ymgeisio.
Bydd angen i chi brofi eich bod yn weddus ac yn briodol i gyflawni gweithgareddau ecséis yn y Porthladd Rhydd er mwyn cael eich cymeradwyo. Darllenwch ragor am y profion gweddus a phriodol yn Hysbysiad Ecséis 196 (yn agor tudalen Saesneg).
Er mwyn i CThEF ystyried cymeradwyo’ch warws ecséis Porthladd Rhydd, mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:
- dangos gwir angen am gyfleusterau storio warws ecséis Porthladd Rhydd yn yr ardal
- darparu gwarant (os byddwn yn penderfynu bod angen un)
- sicrhau bod y safle’n ddiogel
- sicrhau bod y safle’n caniatáu i CThEF gael mynediad diogel i’r holl ardaloedd cymeradwy a’r stoc â thollau wedi’u gohirio
- sicrhau bod eich systemau’n caniatáu i ni gynnal archwiliad ac unrhyw wiriadau eraill
- bodloni’r holl amodau a nodir yn yr arweiniad hwn
- bodloni unrhyw amodau eraill y mae’n bosibl i ni osod ar eich cymeradwyaeth
Pan fyddwn yn eich awdurdodi, byddwch yn cael llythyr sy’n nodi’r amodau awdurdodi a’r hyn y mae angen i chi ei wneud nesaf.
Eich ymrwymiadau fel busnes ecséis Porthladd Rhydd i weithredu warws ecséis Porthladd Rhydd
Cyn i chi dderbyn nwyddau yn eich warws, mae’n rhaid i chi wneud yn siŵr eich bod chi’n cynnal diwydrwydd dyladwy ar eich cadwyni cyflenwi os ydych yn delio â chynhyrchion alcoholaidd i sicrhau bod nwyddau’n dod o ffynonellau cyfreithlon.
Cynnal diwydrwydd dyladwy
Ystyr diwydrwydd dyladwy yw’r gofal y mae cwmni’n ei gymryd wrth wneud y canlynol:
- dechrau cysylltiadau busnes neu gontractau gyda chwmnïau eraill
- ymateb i risgiau masnachu a nodwyd
Heb ddiwydrwydd dyladwy, mae risgiau ar draws cadwyni cyflenwi o ddod yn gysylltiedig â masnachu anghyfreithlon.
Bydd gwneud hynny’n helpu i wneud y canlynol:
- atal masnachu anghyfreithlon mewn cadwyni cyflenwi alcohol
- lleihau’r risg i fusnesau o rwymedigaethau ariannol ar nwyddau nad yw tollau wedi’u talu arnynt
Mae diwydrwydd dyladwy yn un o amodau’ch cymeradwyaeth. Darllenwch ragor am ddiwydrwydd dyladwy yn Hysbysiad Ecséis 196 (yn agor tudalen Saesneg).
Cadw cofnodion
Fel rhan o’r weithdrefn ar gyfer eich awdurdodi fel busnes tollau Porthladd Rhydd, mae’n rhaid i chi ddangos eich bod yn gallu cadw cofnodion masnachol.
Mae’n rhaid i’ch cofnodion ddangos manylion yr holl nwyddau ecséis a ddaeth i law, a gafodd eu storio, eu prosesu a’u symud o’ch safle.
Cofnodion electronig
Os ydych yn cadw cofnodion digidol (er enghraifft, ar-lein), dylech roi gwybod i ni am y feddalwedd rydych yn bwriadu ei defnyddio pan fyddwch yn gwneud cais i fod yn fusnes ecséis Porthladd Rhydd.
Nid yw CThEF yn cymeradwyo unrhyw becyn meddalwedd penodol. Efallai na fydd pecynnau meddalwedd a ddefnyddir mewn un warws yn briodol i’w defnyddio mewn warws arall.
Y mynediad sydd ei angen arnom
Wrth ystyried rhoi cymeradwyaeth i chi ddefnyddio’ch pecyn meddalwedd penodol, bydd angen:
- hawl mynediad arnom i’ch systemau cyfrifiadurol, a’r data a’r dogfennau, gan gynnwys systemau ariannol a rheoli
- y cyfleuster arnom i lawrlwytho data ar gyfer unrhyw wiriadau a gwaith archwilio y mae’n bosibl y byddwn yn ei wneud oddi ar y safle
- i chi ddarparu unrhyw gymorth angenrheidiol i’n swyddogion wrth iddynt archwilio’ch systemau
- i chi fod â threfniadau wrth gefn digonol, gyda systemau i syrthio’n ôl arnynt a systemau adfer ar ôl trychineb
- rhybudd ymlaen llaw gennych am unrhyw newidiadau arfaethedig i’r pecyn meddalwedd — ni allwch gyflwyno unrhyw newidiadau a allai effeithio ar allu’r system i roi cyfrif am y nwyddau ecséis heb i ni gymeradwyo hynny
Mae’n rhaid i chi wneud yn siŵr bod mesurau diogelu ar gael i warchod eich system rhag llygredd anfwriadol. Os bydd angen, byddwn yn gofyn i chi wneud y canlynol:
- darparu terfynell ar gyfer defnydd swyddogol, sy’n gallu argraffu, darllen ffeiliau a dangos gwybodaeth ar y cyfrifiadur yn unig
- rhoi cyfrinair unigryw i’n swyddogion a fydd yn ein galluogi i gael mynediad at y ffeiliau ar sail ‘darllen yn unig’
- cadw cofnod o newidiadau i raglenni
- atal mynediad heb awdurdod at ddata
Marcio a rheoli’ch stoc
Wrth weithredu warws ecséis Porthladd Rhydd, mae’n rhaid i chi farcio’r holl nwyddau ecséis, er mwyn i chi allu eu hadnabod yn hawdd yn eich cyfrifon stoc. Mae’n rhaid iddynt bob amser gynnwys marciau clir nad oes modd ymyrryd â nhw, o’r amser pan fyddant yn cyrraedd i’r amser pan fyddant yn cael eu symud.
Dylech gadw’r holl nwyddau ecséis mewn lleoliadau sydd wedi’u nodi er mwyn i chi allu eu holrhain i’r cyfrif stoc. Mae’n rhaid i chi nodi’r cyfrif stoc priodol pryd bynnag y byddwch yn symud nwyddau ecséis i leoliad newydd yn y warws ecséis Porthladd Rhydd.
Cewch ddefnyddio unrhyw system i fodloni’r gofynion hyn (er enghraifft, codau bar), ar yr amod eich bod yn gallu sefydlu trywydd archwilio.
Mae’n rhaid i gyfrif stoc ddangos:
- disgrifiad masnachol o’r cynnyrch a maint y cynnyrch sy’n dod i law (ar gyfer cynnyrch alcoholaidd, dylai hyn fod mewn litrau o alcohol pur)
- cryfder alcoholaidd y cynnyrch
- faint o gynnyrch sydd wedi dod i law mewn casys, casgenni neu ddrymiau polythen
- cyfeirnod dynodi unigryw
- y dyddiad y daeth i law
- perchennog y nwyddau
Mae’n rhaid i chi hefyd sicrhau:
- bod eich cofnodion stoc yn cofnodi unrhyw newid perchnogaeth yn gywir
- bod manylion llawn y perchnogion ar gael i ni
Storio nwyddau ecséis gyda statws tollau gwahanol ar un safle cymeradwy
O dan rai amodau, byddwn yn caniatáu i chi storio nwyddau ecséis sydd â statws tollau gwahanol ar un safle cymeradwy. Gair arall am hyn yw ‘cydstorio’.
Cewch storio nwyddau:
- y mae’n rhaid talu toll ecséis ar eu cyfer, sydd wedi’u gohirio o dan weithdrefn arbennig Porthladd Rhydd
- y talwyd toll ecséis arnynt ac unrhyw dollau eraill (mewn geiriau eraill, nwyddau yn y DU gyda’r doll wedi’i thalu)
Pan fyddwch yn gwneud cais i ddefnyddio gweithdrefn arbennig tollau Porthladd Rhydd, mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni a ydych yn dymuno storio nwyddau gyda’r doll wedi’i thalu neu nwyddau nad oes angen talu toll arnynt.
Mae’n rhaid i chi fodloni CThEF bod eich system gyfrifyddu’n gallu:
- nodi a chofnodi lleoliad a statws tollau’r holl nwyddau ecséis
- rhedeg y gwahanol drefniadau cyfrifyddu ar gyfer pob dosbarth o nwyddau ecséis
- dangos yn glir pryd y daw tollau’n ddyledus
Mae’n rhaid i’ch system fod yn ddigon cadarn i sicrhau bod y statws tollau cywir yn cael ei ddangos bob amser. Er enghraifft, ni ddylai ddangos nwyddau y gohiriwyd tollau arnynt fel nwyddau gyda’r doll wedi’i thalu pan nad yw’r doll wedi’i thalu ymlaen llaw.
Gweithrediadau a ganiateir mewn warws Porthladd Rhydd
Cewch gynnal gweithrediadau ar eich nwyddau ar yr amod bod CThEF:
- wedi’ch cymeradwyo i gael a storio nwyddau ecséis mewn swmp
- heb gyfyngu’n benodol ar eich awdurdodiad drwy osod unrhyw amodau neu gyfyngiadau
Mae’n rhaid i chi restru’r holl weithrediadau rydych am eu cyflawni yn eich cais.
Gall CThEF osod amodau neu gyfyngiadau ar weithrediadau rydych yn eu cyflawni i ostwng y risg o gael toll heb ei thalu.
Y cofnodion mae’n rhaid i chi eu cadw ar gyfer y gweithrediadau a gyflawnir
Wrth gyflawni unrhyw weithrediad mewn warws ecséis Porthladd Rhydd ar nwyddau y gohiriwyd y doll arnynt, mae’n rhaid i chi gadw cofnodion cywir.
Mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:
- cymryd a chofnodi’ch cyfrifon yn union cyn ac ar ôl pob gweithrediad
- cadw cofnod cywir o unrhyw ddeunydd glanhau a ddefnyddiwyd
- rhoi gwybod i CThEF am unrhyw enillion a cholledion o unrhyw weithrediad
Gallwch gymysgu nwyddau gwahanol mewn un cas os byddwch yn sicrhau bod eich system gyfrifyddu’n eich galluogi i gadw cyfrif o’r nwyddau dan sylw. Mae’n rhaid i chi ddefnyddio’r math cywir o dreth a’r gyfradd dollau gywir ar gyfer pob cynnyrch yn y cas cymysg pryd bynnag y byddwch yn talu toll.
Cysylltwch â CThEF os oes gennych unrhyw amheuon ynghylch gallu’ch system arfaethedig.
Ar gyfer pob gweithrediad, mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:
- cofnodi manylion unrhyw fethiannau mecanyddol lle mae colledion wedi digwydd
- sicrhau eich bod yn cadw cyfrif o holl weddillion unrhyw weithrediad ac yn eu cadw’n ddiogel
- cadw cofnod ar wahân o golledion (yn ôl math) i sefydlu patrymau colli
- ymchwilio i’r rhesymau dros unrhyw golledion neu enillion y tu allan i’r patrymau colli rydych wedi’u sefydlu a’u cofnodi
- sicrhau bod yr holl becynnau gwag na fwriedir eu hailddefnyddio’n syth yn cael eu tynnu o warws neu’n cael eu rhoi mewn adrannau deunyddiau pecynnu yn ddi-oed
- dadnatureiddio neu ddinistrio padiau a ddefnyddiwyd ar ôl hidlo neu weithrediadau eraill
- dim ond dod â phecynnau gwag i’r warws a’r symiau o ddeunyddiau pecynnu sydd eu hangen ar gyfer eu defnyddio ar unwaith — mae’n rhaid i chi dynnu neu ddileu unrhyw farciau adnabod blaenorol
Enillion a cholledion yn ystod gweithrediadau
Rydym yn derbyn y bydd enillion neu golledion o unrhyw weithrediadau a gyflawnir mewn warws, ac nid ydym yn gosod goddefiannau na ‘cholledion a ganiateir’.
Cyfrifoldeb y busnes ecséis Porthladd Rhydd awdurdodedig yw:
- cynnal rheolaethau ar bob gweithrediad
- nodi unrhyw enillion neu golledion yn gywir
Mae’n rhaid ychwanegu unrhyw enillion sy’n deillio o’r gweithrediad ar unwaith at y cyfrif stoc priodol. Dylid cofnodi ac ymchwilio i unrhyw golled.
Mae’n rhaid i chi ddangos bod unrhyw golled o fewn paramedrau sefydledig eich busnes (gan ystyried y math o weithrediad, y cynnyrch, y peiriannau, y tymheredd, ac yn y blaen). Os na fyddwch yn gwneud hyn, neu os na fydd CThEF yn derbyn eich esboniad, efallai y byddwn yn gofyn i chi roi cyfrif am y doll ecséis.
Datganiadau ar labeli
Mae’n bosibl na fyddwn yn gadael i chi ddefnyddio labeli, deunydd lapio, casys neu ddeunydd printiedig a gynhwysir mewn casys sydd â datganiadau neu eiriau anghywir neu gamarweiniol. Er enghraifft:
- honni bod gwirodydd yn tarddu o Brydain yn unig, er bod y cofnodion yn dangos eu bod yn wirodydd sydd wedi’u mewnforio, neu i’r gwrthwyneb
- honni bod gwirodydd yn tarddu o Brydain yn unig neu o dramor yn unig, er bod y cofnodion yn dangos eu bod yn gymysgedd o wirodydd o Brydain a gwirodydd wedi’u mewnforio
- awgrymu, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, fod y masnachwr dan sylw yn ddistyllfa drwyddedig, er nad oes ganddo drwydded distyllwr
- dangos mai ‘Scotch Whisky’ neu ‘Uisce Beatha Eireannach Irish Whiskey’ yw’r gwirodydd, er nad yw’r gofynion cyfreithiol sy’n ymwneud â’r disgrifiadau hyn wedi’u bodloni
Os byddwch yn argraffu labeli mewn iaith dramor, bydd yn rhaid i chi ddarparu cyfieithiad Saesneg ar gais.
Efallai y byddwn yn gofyn i chi ddarparu caniatâd ysgrifenedig gan Swyddog Safonau Masnach ar gyfer defnyddio unrhyw label. Mae’r Rheoliadau Labelu Bwyd yn cynnwys gofynion eraill ar gyfer labeli ar gynhyrchion alcoholaidd. Gallwch gael rhagor o wybodaeth gan naill ai:
- eich Swyddfa Safonau Masnach leol
- yr Asiantaeth Safonau Bwyd
Cynhyrchu nwyddau ecséis mewn Porthladd Rhydd
Gallwch gynhyrchu nwyddau o dan y weithdrefn Porthladd Rhydd, os cewch yr awdurdodiadau cywir.
Pan fyddwch yn gwneud cais i ddefnyddio gweithdrefn arbennig y tollau ar gyfer Porthladdoedd Rhydd, bydd yn rhaid i chi ddangos eich bod yn bwriadu cynhyrchu nwyddau ecséis yn y Porthladd Rhydd.
Bydd angen i chi wneud y canlynol hefyd:
- gwneud cais am y gymeradwyaeth gynhyrchu berthnasol (er enghraifft, i ddod yn gynhyrchydd cynnyrch alcoholaidd cymeradwy)
- dilyn telerau ac amodau’r gymeradwyaeth honno
Gallwch wirio gwybodaeth am gynhyrchu ecséis yn y canlynol:
- Hysbysiad Ecséis 476: Toll Cynhyrchion Tybaco (yn agor tudalen Saesneg)
- Hysbysiad Ecséis 2003: Toll Tybaco — y Cynllun Cymeradwyo Tybaco Crai (yn agor tudalen Saesneg)
- Hysbysiad Ecséis 2004: Toll Tybaco — y Cynllun Trwyddedu Peiriannau Gweithgynhyrchu Cynhyrchion Tybaco (yn agor tudalen Saesneg)
- Y gallu i olrhain cynnyrch tybaco (yn agor tudalen Saesneg)
- y canllaw technegol ar gyfer cynhyrchion alcoholaidd (yn agor tudalen Saesneg)
- Cynhyrchu, dosbarthu a defnyddio alcohol wedi’i annatureiddio (Hysbysiad Ecséis 473) (yn agor tudalen Saesneg)
- Hysbysiad Ecséis 47: gwirodydd di-doll — i’w defnyddio i weithgynhyrchu neu at ddibenion meddygol neu wyddonol (yn agor tudalen Saesneg)
- Tanwyddau modur a gwresogi — gwybodaeth gyffredinol a rhoi cyfrif am Doll Ecséis a TAW (Hysbysiad Ecséis 179) (yn agor tudalen Saesneg)
- Biodanwyddau ac amnewidion tanwydd eraill (Hysbysiad Ecséis 179e) (yn agor tudalen Saesneg)
Dinistrio nwyddau a diffygion mewn stoc
Os ydych yn bwriadu dinistrio nwyddau ecséis mewn warws ecséis Porthladd Rhydd, dim ond os yw CThEF wedi’ch awdurdodi y gallwch wneud hynny. Rydym yn cadw’r hawl i osod unrhyw amodau sy’n angenrheidiol.
Bydd nwyddau’n cael eu trin fel rhai sydd wedi’u rhyddhau i’w defnyddio yn y DU lle naill ai:
- caiff nwyddau ecséis eu dinistrio heb ganiatâd
- caiff diffygion mewn stoc eu nodi
Mae’n rhaid i chi ddatgan y nwyddau hyn i gylchrediad rhydd a rhoi cyfrif am yr holl dollau.
Canslo’ch cofrestriad
Os ydych am ganslo’ch cofrestriad, mae’n rhaid i chi e-bostio: freeportbusinessapplications@hmrc.gov.uk. Dylech e-bostio o leiaf 30 diwrnod cyn y dyddiad rydych am i CThEF ganslo’ch cofrestriad.
Os byddwn yn cytuno i ganslo’ch cofrestriad, byddwn yn rhoi gwybod i chi yn ysgrifenedig.
Ar y dyddiad canslo, mae’n rhaid i chi ddinistrio’ch tystysgrif gofrestru.
Gall CThEF ganslo’ch cofrestriad unrhyw bryd ac os byddwn yn gwneud hynny, byddwn yn rhoi gwybod i chi yn ysgrifenedig, gan roi ein rhesymau dros ganslo. Byddwn yn cynnig adolygiad o’n penderfyniad i chi neu gallwch apelio’n uniongyrchol ar y tribiwnlys annibynnol.
Pan fydd eich cofrestriad wedi’i ganslo, bydd yn rhaid i chi ddinistrio’ch tystysgrif gofrestru ar unwaith. Byddwch yn peidio â bod yn fusnes ecséis Porthladd Rhydd unwaith y byddwn yn canslo’ch cofrestriad.
Newid perchnogaeth nwyddau mewn warws ecséis Porthladd Rhydd
Mae’n rhaid i berchennog y nwyddau roi gwybod i’r warws ecséis Porthladd Rhydd cyn i unrhyw nwyddau y gohiriwyd tollau arnynt gael eu gwerthu tra byddant yn cael eu cadw ar eu safle.
Protocol i Ddileu Masnachu Anghyfreithlon mewn Cynhyrchion Tybaco
Mae’n rhaid i chi gydymffurfio ag Erthygl 12 y Protocol i Ddileu Masnachu Anghyfreithlon mewn Tybaco wrth dynnu cynhyrchion tybaco o’r weithdrefn Porthladd Rhydd a sicrhau nad ydynt yn cael eu cymysgu â chynhyrchion nad ydynt yn gynhyrchion tybaco ar ôl eu rhyddhau.
Ar gyfer Porthladdoedd Rhydd a theithio rhyngwladol, mae Erthygl 12 yn datgan y canlynol:
-
Mae’n rhaid i bob Parti, cyn pen tair blynedd ar ôl i’r Protocol hwn ar gyfer y Parti hwnnw ddod i rym, roi rheolaethau effeithiol ar waith ar gyfer pob dull o weithgynhyrchu tybaco a chynhyrchion tybaco, a thrafodion ynddynt, mewn parth rhydd drwy ddefnyddio’r holl fesurau perthnasol a ddarperir yn y Protocol hwn.
-
Yn ogystal, gwaherddir cymysgu cynhyrchion tybaco â chynhyrchion nad ydynt yn rhai tybaco mewn un cynhwysydd neu unrhyw uned drafnidiaeth arall debyg pan fyddant yn cael eu symud o barth rhydd.
-
Mae’n rhaid i bob Parti, yn unol â chyfraith genedlaethol, fabwysiadu a gweithredu mesurau rheoli a dilysu ar gyfer trosglwyddo o gwch i gwch neu gludo’n rhyngwladol, o fewn ei diriogaeth, gynhyrchion tybaco a chyfarpar gweithgynhyrchu sy’n cydymffurfio â darpariaethau’r Protocol hwn i atal masnachu anghyfreithlon mewn cynhyrchion o’r fath.
Ar ôl i chi gael eich awdurdodi
Efallai y byddwn yn ymweld â chi a’ch safle cymeradwy i gynnal archwiliadau ar y canlynol:
- cynhyrchiant
- gweithrediadau
- warysu
Mae ein rheolaethau’n cynnwys archwiliadau a gwiriadau ffisegol. Tra bydd ein swyddogion ar eich safle, mae’n rhaid i chi sicrhau eu bod yn ddiogel yn unol â’r Deddfau Iechyd a Diogelwch perthnasol. Os na fyddwch yn darparu mynediad diogel i’ch safle a’r nwyddau a ddelir gennych, efallai y byddwn yn cyfyngu ar eich awdurdodiad neu’n ei dynnu’n ôl.
Byddwn fel arfer yn trefnu apwyntiadau i ymweld â’ch safle, ond efallai y byddwn hefyd yn ymweld yn ddirybudd, yn enwedig wrth gynnal gwiriadau ffisegol. Mae’n rhaid i chi sicrhau bod swyddogion CThEF yn cael mynediad at unrhyw ran o’ch safle yn ystod oriau gweithredu’r busnes neu ar unrhyw adeg pan fydd gweithgarwch yn cael ei wneud yn y busnes ecséis Porthladd Rhydd awdurdodedig.
Mae holl swyddogion CThEF yn cario dogfennau adnabod a byddant yn dangos y rhain pan fyddant yn cyrraedd neu ar gais.
Ar ôl i chi gael eich awdurdodi i weithredu fel busnes ecséis Porthladd Rhydd awdurdodedig, mae gennych ymrwymiadau penodol o dan y gyfraith. Gallai methu â chyflawni’r ymrwymiadau hyn neu gadw at unrhyw un o amodau’ch awdurdodiad a’ch cymeradwyaeth arwain at un neu bob un o’r canlynol:
- cyfyngu ar eich awdurdodiad a’ch cymeradwyaeth
- tynnu awdurdodiad a chymeradwyaeth yn ôl ar gyfer rhai neu bob un o’r safleoedd rydych yn fusnes ecséis Porthladd Rhydd awdurdodedig ar eu cyfer
- peidio ag adnewyddu’ch awdurdodiad neu’ch cymeradwyaeth ar gyfer rhai neu bob un o’r safleoedd rydych yn fusnes ecséis Porthladd Rhydd awdurdodedig ar eu cyfer
- rhoi cosb ariannol
- gallai nwyddau fod yn agored i gael eu fforffedu a gallech hefyd fod yn agored i dalu unrhyw doll sy’n ddyledus
Mae’n rhaid i fusnesau ecséis Porthladd Rhydd awdurdodedig sy’n ymwneud ag alcohol sicrhau eu bod yn cynnal gwiriadau diwydrwydd dyladwy priodol ar eu cyflenwyr, eu cwsmeriaid a’u cadwyni cyflenwi. Darllenwch ragor am ddiwydrwydd dyladwy yn Hysbysiad Ecséis 196 (yn agor tudalen Saesneg).
Gweithdrefn Apeliadau ac Adolygiadau
Dyma’r penderfyniadau y gallwch ofyn am gael eu hadolygu ac y gallwch apelio yn eu herbyn:
- gwrthod cymeradwyaeth neu ddirymu cymeradwyaeth
- codi cosb a swm unrhyw gosb
- gosod unrhyw amodau neu gyfyngiadau ychwanegol
Os nad ydych yn cytuno ag unrhyw un o’r penderfyniadau hyn, gallwch wneud y canlynol:
- dweud wrth y sawl a gyflwynodd y penderfyniad os oes gennych ragor o wybodaeth neu os ydych yn meddwl bod CThEF wedi methu rhywbeth
- gofyn i’r penderfyniad gael ei adolygu gan swyddog CThEF na fu’n ymwneud â’r mater cyn hyn
- apelio ar dribiwnlys annibynnol
Terfynau amser ar gyfer gwneud cais am adolygiad neu apêl
Os ydych am i CThEF adolygu penderfyniad, mae’n rhaid i chi ysgrifennu at y sawl a gyhoeddodd y llythyr o benderfyniad cyn pen 30 diwrnod i ddyddiad y llythyr hwnnw.
Dylai’ch cais ysgrifenedig nodi’n glir:
- manylion llawn eich achos
- y rhesymau pam rydych yn anghytuno â’r penderfyniad
- unrhyw ddogfennau ategol
Dylech hefyd nodi pa ganlyniad rydych yn ei ddisgwyl o adolygiad CThEF. Bydd CThEF yn cwblhau adolygiad cyn pen 45 diwrnod oni bai ei fod yn cytuno ar ddyddiad cwblhau arall â chi.
Apelio ar ôl i CThEF gwblhau ei adolygiad
Anfonwch fanylion eich apêl i’r tribiwnlys cyn pen 30 diwrnod i ddyddiad y llythyr o benderfyniad a gawsoch yn sgil adolygiad CThEF.
Updates to this page
-
The page has been updated to address recent changes to The Warehousekeepers and Owners of Warehoused Goods Regulations (WOWGR) 1999 and freeports legislation.
-
Information about alcoholic products producer approval (APPA) has been added.
-
First published.