Canllawiau

Gwirio a oes angen cymeradwyaeth ar gyfer cynhyrchwyr cynhyrchion alcoholaidd (APPA) arnoch

Bydd angen gymeradwyaeth arnoch gan CThEF i gynhyrchu cynhyrchu cynhyrchion alcoholaidd fel cwrw, seidr, gwirodydd, gwin, neu gynhyrchion eplesedig eraill yn y DU.

Os ydych eisoes wedi’ch cofrestru neu eich trwyddedu

Os oeddech eisoes wedi cofrestru neu â thrwydded i gynhyrchu cynhyrchion alcoholaidd cyn 1 Chwefror 2025, byddwn yn mudo eich cofrestriadau neu drwyddedau ar wahân yn awtomatig i un gymeradwyaeth ar gyfer cynhyrchydd cynhyrchion alcoholaidd (APPA). Ni fydd angen i chi wneud cais am gymeradwyaeth newydd.

Byddwn yn anfon llythyr atoch i gadarnhau manylion eich cymeradwyaeth newydd. Os nad yw’r llythyr wedi eich cyrraedd erbyn 25 Chwefror 2025, dylech gysylltu â: nru.alcohol@hmrc.gov.uk.

Dylai’r e-bost gynnwys y manylion canlynol:

  • enw’r busnes
  • cyfeiriad a chod post cofrestredig y busnes
  • Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr

Pwy sy’n gorfod gwneud cais

Mae’n rhaid i chi fod â APPA gan CThEF cyn i chi ddechrau cynhyrchu cynhyrchion alcohol yn y DU.

Gall cynhyrchu olygu creu cynhyrchion alcoholaidd o gynhwysion amrwd. Gall hefyd olygu cynnal gweithgareddau ar gynhyrchion alcoholaidd, sy’n arwain at y canlynol:

  • newid eu halcohol yn ôl cyfaint (ABV)

  • newid eu dosbarthiad cynnyrch

  • yn cynhyrchu cynnyrch gwahanol

Mae hyn yn cynnwys cymysgu neu goethi gwirodydd, gan ddefnyddio cynhyrchion alcohol sydd â tholl wedi’i ohirio.

Os ydych yn wneuthurwr seidr bydd angen i chi wneud cais am APPA, hyd yn oed os ydych yn gwneud y canlynol:

  • oeddech wedi eich esemptio rhag ceisio cymeradwyaeth yn flaenorol
  • cynhyrchu llai na 5 hectolitr o alcohol pur mewn seidr a dim cynnyrch alcoholaidd arall

Ni fydd angen APPA arnoch os nad ydych yn cynhyrchu cynhyrchion alcoholaidd, a dim ond yn gwneud y canlynol:

  • cadw cynhyrchion alcoholaidd, gan arwain at newid graddol mewn cryfder
  • gwneud ychwanegiadau neu gyflawni prosesau fel rhan o’r broses pacio
  • bwriadu cadw cynhyrchion alcoholaidd mewn gohiriad tollau
  • mewnforio cynhyrchion alcoholaidd gorffenedig
  • potelu cynnyrch alcohol swmp heb ei newid
  • cymysgu neu goethi gwirodydd gan ddefnyddio cynhyrchion alcoholaidd sydd â tholl
  • pacio cynhyrchion alcoholaidd (gan roi cynnyrch alcoholaidd swmpus a gynhyrchir mewn mannau eraill mewn cynwysyddion)

Darllenwch adrannau 2 a 3 o’r canllaw technegol ar gyfer cynhyrchion alcoholaidd (yn agor tudalen Saesneg) ar gyfer y canlynol:

  • diffiniadau o’r holl gynhyrchion alcoholaidd
  • pa weithgareddau sy’n cael eu dosbarthu fel cynhyrchu

Esemptiau

Ni fydd angen am APPA arnoch i gynhyrchu cynhyrchion alcohol ar gyfer y canlynol:

  • defnydd domestig (nid yw hyn yn cynnwys gwirodydd)
  • at ddibenion ymchwil neu ddibenion arbrofol

Sut mae’r APPA yn gweithio

Bydd gennych un APPA sengl. Bydd hyn yn cynnwys pob un o’r canlynol:

  • categorïau o gynhyrchion alcoholig y gallwch eu cynhyrchu

  • mathau o weithgareddau sy’n gysylltiedig â chynhyrchu y gallwch eu cyflawni, megis dal cynhyrchion alcoholaidd mewn gohiriad tollau

  • safleoedd lle gallwch gynhyrchu cynhyrchion alcoholaidd a’u dal mewn gohiriad tollau

Gallwch wneud cais i gymeradwyo mwy nag un safle, neu gategori o gynhyrchion alcoholaidd, ar yr un pryd. Gallwch hefyd ddiweddaru eich cymeradwyaeth bresennol, i ychwanegu eiddo newydd, neu gategorïau o gynhyrchion alcoholaidd. Dim ond cynhyrchion alcoholaidd yr ydym wedi’u cymeradwyo y gallwch eu cynhyrchu, ar safleoedd yr ydym wedi’u cymeradwyo.

Mae’n drosedd cynhyrchu cynhyrchion alcoholaidd heb y gymeradwyaeth briodol, neu ar safleoedd nad ydym wedi’u cymeradwyo. Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu cosb os byddwch yn gwneud hynny. Gallwn hefyd atafaelu unrhyw gynhyrchion alcoholaidd, pecynnu, offer neu sylweddau a ddefnyddir wrth gynhyrchu cynhyrchion alcoholaidd.

Sut i wneud cais

Gwnewch gais am gymeradwyaeth ar gyfer cynhyrchwyr cynhyrchion alcoholaidd gan CThEF.

Rhagor o wybodaeth

I gael gwybodaeth fanwl am I gael rhagor o wybodaeth fanwl am APPA a’r broses gymeradwyo, darllenwch y canllaw technegol ar gyfer cynhyrchion alcoholaidd (yn agor tudalen Saesneg).

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 11 Rhagfyr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf ar 1 Mawrth 2025 show all updates
  1. The section 'Who must apply' has been updated with more information about what producing alcohol means, and more information for cidermakers.

  2. Updated to say that users should only contact HMRC about their alcoholic products producer approval (APPA) ID if they have not received it by 25 February 2025.

  3. Added translation

  4. Added translation

Argraffu'r dudalen hon