Canllawiau

Nawdd (Hysbysiad TAW 701/41)

Sut mae TAW yn berthnasol os ydych yn rhoi neu’n cael nawdd.

1.Trosolwg

1.1 Beth yw cynnwys yr hysbysiad hwn

Mae’r hysbysiad hwn yn esbonio sut mae TAW yn berthnasol os ydych yn rhoi neu’n cael nawdd. Mae adran newydd ar gyllido torfol wedi cael ei hychwanegu.

Dim ond TAW sy’n cael sylw yn yr hysbysiad hwn. Gweler Elusennau a threth am wybodaeth am drethi eraill a Rhodd Cymorth.

Fel arfer, bydd person sy’n cael nawdd yn gwneud cyflenwad i’r noddwr. Mae hyn yn golygu hyd yn oed pe bai’r cyflenwadau trethadwy eraill rydych yn eu gwneud o dan y trothwy cofrestru ar gyfer TAW fel arall, gallwch ddod yn agored i gofrestru oherwydd eich incwm nawdd. Os nad ydych eisoes wedi’ch cofrestru ar gyfer TAW, dylech ddarllen Hysbysiad 700/1: should I be registered for VAT. Hefyd gallwch fod yn gwneud cyflenwadau trethadwy os ydych yn noddwr sy’n rhoi nawdd ar ffurf nwyddau neu wasanaethau yn hytrach na thrwy dalu swm o arian.

1.2 Diffiniad o nawdd

Mae nawdd yn daliad i elusen, prosiect cymdeithasol neu fusnes y mae noddwr yn cael rhywbeth yn ôl amdano. Gall y taliad fod ar ffurf arian, nwyddau a gwasanaethau (a elwir yn gyffredin yn Saesneg yn ‘barter’), neu gyfuniad o arian gyda nwyddau a gwasanaethau.

Mae nawdd yn nodwedd gyffredin o weithgareddau artistig, chwaraeon, addysgol ac elusennol, ond nid yw’n gyfyngedig i’r meysydd hyn.

Gall y taliadau gael eu disgrifio hefyd fel rhywbeth arall, er enghraifft, gyfraniad. Mae nawdd yn debyg i gyfraniad yn yr ystyr bod pobl sy’n noddi elusen neu brosiect cymdeithasol fel arfer wedi’u cymell gan ddymuniad i’w cefnogi. Ond os yw noddwr hefyd yn cael rhywbeth yn ôl, gall fod iddo oblygiadau TAW.

2. Cyflenwadau

2.1 Pan rydych yn gwneud cyflenwadau trethadwy os ydych yn cael nawdd

Pan rydych yn cael nawdd neu ryw fath arall o gymorth, byddwch fel arfer yn gwneud cyflenwadau trethadwy os oes yn rhaid i chi, am hynny, roi budd sylweddol i’r noddwr. Fel rheol, gall hyn gynnwys unrhyw rai o’r canlynol:

  • enwi digwyddiad ar ôl y noddwr (pan fo gwneud hynny’n rhoi i’r noddwr fudd busnes, fel hyrwyddo ei frand), ni fydd hyn yn gyffredinol yn berthnasol i enwi digwyddiad ar ôl unigolyn neu endidau preifat
  • dangos logo cwmni’r noddwr neu ei enw masnachu – ond nid pan fo’r logo hwnnw ond wedi’i gysylltu ag asiantaeth yn y llywodraeth neu sefydliad elusennol, ac ond yn cydnabod haelioni
  • cymryd rhan yng ngweithgareddau hyrwyddo neu hysbysebu’r noddwr
  • caniatáu i’r noddwr ddefnyddio’ch enw neu logo (gweler paragraff 2.2 am ragor o wybodaeth)
  • rhoi tocynnau yn rhad ac am ddim neu am bris is
  • caniatáu mynediad i ddigwyddiadau arbennig fel premieres neu nosweithiau gala
  • darparu adloniant neu gyfleusterau lletygarwch
  • rhoi i’r noddwr hawliau archebu unigryw neu â blaenoriaeth (ac eithrio pan fo CThEM yn fodlon nad oes budd gwirioneddol o gael yr hawliau hyn, ac mai dim ond sicrhau incwm y noddwr ar gyfer yr elusen maen nhw)

Nid yw’r rhestr hon yn hollgynhwysfawr ac mae sawl sefyllfa arall lle y gall eich noddwr gael buddion gwirioneddol. Yr hyn sy’n cyfrif yw bod y cytundeb neu’r ddealltwriaeth sydd gennych gyda’ch noddwr yn gofyn i chi wneud rhywbeth yn ôl.

2.2 Mathau o gymorth nad ydynt yn agored i TAW

Gallwch gael cymorth ariannol neu fath arall o gymorth ar ffurf cyfraniadau neu roddion. Cyn belled â’u bod wedi rhoi o’u gwirfodd a ddim yn sicrhau unrhyw beth yn ôl am hynny i’r rhoddwr, nid ydynt yn dod o dan gwmpas TAW. Nid oes cyflenwad trethadwy’n cael ei greu os ydych yn darparu budd dibwys, fel mân gydnabyddiaeth o ffynhonnell y cymorth. Gall enghreifftiau o hyn gynnwys unrhyw rai o’r canlynol:

  • rhoi baner neu sticer
  • cydnabod y rhoddwr ar restr o gefnogwyr mewn rhaglen neu ar hysbysiad
  • enwi adeilad, adain adeilad, ardal mewn cyfleuster, rôl neu swydd yn yr elusen (fel ffidil gyntaf cerddorfa), neu gadair prifysgol ar ôl y rhoddwr
  • rhoi enw’r rhoddwr ar gefn sedd mewn theatr neu ar unrhyw ran o’r adeiladwaith y mae wedi talu amdano neu dalu tuag ato
  • rhoi tystysgrif sy’n cydnabod cyfraniad person
  • taliadau ar gyfer ymgyrchoedd ‘prynu bricsen’ neu brynu dillad sy’n cefnogi ymgyrch, ond nad ydynt o fudd i roddwr yn realistig
  • elusen sy’n noddi elusen arall er mwyn ond dangos yr ymdrech neu’r gefnogaeth ar y cyd mewn maes elusennol a chydweithredol sy’n berthnasol i’r ddwy elusen

Bydd rhoddwr yn berson sydd â chyn lleied o ddylanwad, os o gwbl, dros yr hyn sy’n cael ei ddarparu ac ni chaiff fynnu cael unrhyw gydnabyddiaeth.

Os yw’r budd a ddarperir am y taliad yn gyflenwad wedi’i eithrio at ddibenion TAW, bydd eithriad yn berthnasol ac ni fydd yr incwm a geir yn drethadwy, gweler paragraff 3.2.

2.3 Nawdd a chyfraniadau cymysg

Os gwneir cyfraniad ar wahân i’ch cytundeb nawdd, neu os yw’ch dogfen cytundeb nawdd yn nodi’n glir pa ran yw’r taliad am wasanaethau a pha ran yw’r cyfraniad, nid oes yn rhaid i chi roi cyfrif am TAW ar unrhyw gyfraniad neu rodd (o’r fath a ddisgrifir ym mharagraff 2.2). Fodd bynnag, rhaid iddi fod yn glir nad oes yn rhaid i’ch noddwr wneud cyfraniad neu rodd er mwyn cael unrhyw fuddiannau.

Darllenwch Hysbysiad TAW 701/1 How VAT affects charities, i gael rhagor o wybodaeth benodol am elusennau.

2.4 Pan rydych yn gwneud cyflenwadau trethadwy os ydych yn noddi rhywun

Gallwch fod yn gwneud cyflenwadau trethadwy os ydych yn darparu nawdd ar ffurf nwyddau neu wasanaethau yn hytrach nag arian.

Os ydych yn darparu:

  • nwyddau neu wasanaethau i rywun sydd, am hynny, yn gwneud cyflenwad trethadwy i chi (gweler paragraff 2.1), yna rydych yn gwneud cyflenwad trethadwy o’r nwyddau neu’r gwasanaethau hynny
  • nwyddau i rywun fel rhodd neu gyfraniad (gweler paragraff 2.2), yna efallai y byddwch yn agored i roi cyfrif am TAW o dan y rheolau rhoddion busnes – am ragor o wybodaeth am roddion busnes, gweler Business promotions (Hysbysiad TAW 700/7)
  • gwasanaethau i rywun fel rhodd neu gyfraniad (gweler paragraff 2.2), yna nid oes unrhyw TAW yn ddyledus

3. Rhoi cyfrif am TAW

3.1 Cyfrifo gwerth y nawdd a gewch

Os ydych yn gwneud cyflenwadau trethadwy am nawdd, mae’n rhaid i chi roi cyfrif am TAW ar werth sy’n cwmpasu popeth a gewch o dan y cytundeb nawdd. Os ydych yn cytuno ar swm y nawdd heb ganiatáu ar gyfer TAW, mae’n rhaid i chi drin y swm a geir fel swm sy’n cynnwys TAW.

Cewch eithrio, o’r gwerth, unrhyw daliad ychwanegol gan eich noddwr a all gael ei drin fel cyfraniad nad yw’n drethadwy (gweler paragraff 2.3).

Dylech ystyried yr arweiniad ar brisio yn y VAT guide (Hysbysiad TAW 700) lle rydych yn cyflenwi nwyddau neu wasanaethau a hynny am ystyriaeth anariannol ar ffurf buddion y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff 2.1.

3.2 Rheolau arbennig ar gyfer elusennau

Os ydych yn elusen sy’n gwneud cyflenwadau i noddwyr fel rhan o ddigwyddiad codi arian, gall eich cyflenwadau fod wedi’u heithrio. Am ragor o wybodaeth am hyn, gweler digwyddiadau codi arian elusennau: eithriadau. Mae hefyd arweiniad ar gyfrannu nwyddau at elusennau yn How VAT affects charities (Hysbysiad TAW 701/1).

3.3 Noddwyr nad ydynt yn y DU

Os ydych yn cyflenwi gwasanaethau hysbysebu a chyhoeddusrwydd i noddwyr dramor, efallai y bydd eich gwasanaethau y tu hwnt i gwmpas TAW yn y DU. Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael yn Place of supply of services (Hysbysiad TAW 741A).

3.4 Cyflwyno anfoneb TAW

Mae’n rhaid i chi gyflwyno anfoneb TAW i noddwr am eich cyflenwadau os yw’r noddwr wedi’i gofrestru ar gyfer TAW. Hefyd mae’n ofynnol i noddwr sy’n darparu nawdd ar ffurf cyflenwadau trethadwy o nwyddau neu wasanaethau gyflwyno anfoneb TAW.

4. Noddi gwobrau ar gyfer cystadlaethau

4.1 Os cewch wobrau i’w defnyddio mewn cystadlaethau

Os cewch nwyddau neu wasanaethau i’w rhoi fel gwobrau ac:

  • os oes yn rhaid i chi hyrwyddo neu hysbysebu ar ran y rhoddwr, yna rydych yn gwneud cyflenwadau trethadwy o wasanaethau i’r rhoddwr ar gyfer ystyriaeth anariannol, ac mae arweiniad ar werth y cyflenwad hwn ar gael yn y VAT guide (Hysbysiad TAW 700)
  • ar wahân i unrhyw ddealltwriaeth gyffredinol y gallai’r rhoddwr elwa o bosibl o’r cyhoeddusrwydd, ac nad oes yn rhaid i chi fynd ati i hyrwyddo neu hysbysebu’r rhoddwr, yna nid ydych yn gwneud cyflenwad trethadwy

4.2 Darparu gwobrau ar gyfer cystadleuaeth

Yn gyffredinol dylech ddilyn yr arweiniad ym mharagraff 2.4 i benderfynu a ydych yn gwneud cyflenwadau trethadwy. Ond os ydych yn cyfrannu gwyliau, gall rheolau arbennig y Cynllun Gorswm Gweithredwyr Teithiau fod yn berthnasol. Mae rhagor o arweiniad ar y cynllun ar gael yn Tour Operators Margin Scheme (Hysbysiad TAW 709/5).

Os na chewch gyflenwad am y gwobrau rydych yn eu rhoi, efallai na fyddwch yn gallu adennill treth ar y wobr os yw’n dod o dan ddarpariaethau adloniant busnes. Mae rhagor o arweiniad ar y darpariaethau hyn ar gael yn Business entertainment (Hysbysiad TAW 700/65).

Mae arweiniad penodol ar werth treth y nwyddau rydych yn eu darparu fel gwobrau am wasanaethau hysbysebu neu hyrwyddo ar gael yn Business promotions (Hysbysiad TAW 700/7).

4.3 Hawlio treth mewnbwn ar y gwobrau a gewch ar gyfer cystadlaethau

Os cewch wobrau ar gyfer eich cystadleuaeth ar ffurf nwyddau a gwasanaethau:

  • ac nid oes rhaid i chi ddarparu rhywbeth i’r rhoddwr am hynny (gweler paragraff 4.1), ni fydd unrhyw dreth mewnbwn i’w hawlio
  • am y cyflenwadau hysbysebu neu gyhoeddusrwydd rydych yn eu gwneud i’r rhoddwr (gweler paragraff 4.1), yna yn gyffredinol gallwch hawlio treth mewnbwn ar y gwobrau, yn amodol ar y rheolau arferol, fodd bynnag:
    • os mai gwyliau neu daith diwrnod yw’r wobr, ni chewch hawlio unrhyw dreth mewnbwn
    • gall rhai gwobrau gael eu hystyried yn rhai adloniant busnes ac yna ni chewch hawlio unrhyw dreth mewnbwn (gweler Business entertainment (Hysbysiad TAW 700/65))

5. Cyllido torfol

Cyllido torfol yw’r broses o godi arian neu gyfalaf ar gyfer prosiect penodol drwy’r rhyngrwyd ar lwyfannau sydd wedi’u creu’n arbennig. Nid yw’r driniaeth TAW o gyflenwadau a allai gael eu gwneud yn wahanol o gwbl i drefniadau cyllido tebyg (er enghraifft, nawdd, cyfraniadau a buddsoddiadau) a wneir drwy lwybrau mwy traddodiadol. Mae derbynnydd proses cyllido torfol yn agored i godi a thalu TAW yn dibynnu ar ffeithiau’r achos. Er enghraifft:

  • os na roddir unrhyw beth am y cyllid, bydd yn cael ei drin fel cyfraniad ac ni fydd yn agored i TAW – mae’r sefyllfa’r un fath os mai dim ond cydnabyddiaeth y mae’r cyllidwr yn ei gael, fel crybwyll ei enw mewn rhaglen neu rywbeth tebyg
  • os yw’r cyllidwr yn cael nwyddau neu wasanaethau sydd â gwir werth yn gysylltiedig â hwy (er enghraifft, dillad, tocynnau, DVDs, gweld ffilmiau), bydd TAW yn ddyledus
  • os yw’r taliad ar gyfer cyfuniad o’r 2 enghraifft, ac os yw’n glir bod yr elfen cyfrannu’n un ddewisol, yna gall y rhan honno o’r nawdd gael ei thrin fel cyfraniad nad yw’n drethadwy
  • efallai bod y cyllid ar ffurf buddsoddiad pan fo gan y cyllidwr hawl i fudd ariannol, fel llog, difidendau neu gyfran o’r elw – yn yr achosion hyn, ni fydd unrhyw daliad sy’n ddyledus i’r cyllidwr yn agored i TAW oni bai bod y trefniant yn fwy ar ffurf breindal yn seiliedig ar gyflenwi eiddo deallusol neu ryw fudd arall – o dan yr amgylchiadau hyn, mae’r ‘gyfran o’r elw’ yn debygol o fod yn ystyriaeth ar gyfer cyflenwad, a’r rheswm pam bod y rhan fwyaf o’r trefniadau hyn y tu allan i gwmpas TAW yw gan nad yw darparu cyfalaf mewn menter fusnes yn cael ei ystyried fel cyflenwad at ddibenion TAW

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn Hysbysiad TAW 701/49: finance.

Eich hawliau a’ch rhwymedigaethau

Darllenwch Eich Siarter i weld yr hyn y gallwch ei ddisgwyl gennym ni, a’r hyn a ddisgwyliwn gennych chi.

Helpwch ni i wella’r hysbysiad hwn

Os oes gennych adborth am yr hysbysiad hwn, e-bostiwch: customerexperience.indirecttaxes@hmrc.gsi.gov.uk.

Bydd rhaid i chi gynnwys teitl llawn yr hysbysiad hwn. Peidiwch â chynnwys gwybodaeth bersonol nac ariannol o unrhyw fath, fel eich rhif TAW.

Os oes angen help cyffredinol arnoch gyda’r hysbysiad hwn, neu os oes gennych gwestiwn arall am TAW, dylech ffonio ein Llinell Gymorth TAW Cymraeg neu gallwch wneud ymholiad TAW ar-lein.

Unioni pethau

Os nad ydych yn fodlon â gwasanaeth CThEM, cysylltwch â’r person neu’r swyddfa yr ydych wedi bod yn delio â nhw a byddant yn ceisio unioni pethau.

Os ydych yn dal i fod yn anfodlon, gweler rhagor o wybodaeth am sut i wneud cwyn i CThEM.

Sut mae CThEM yn defnyddio’r wybodaeth sydd gennym amdanoch

Rhagor o wybodaeth am sut mae CThEM yn defnyddio’r wybodaeth sydd gennym amdanoch.

Cyhoeddwyd ar 1 March 2002
Diweddarwyd ddiwethaf ar 8 May 2019 + show all updates
  1. Guidance on mixed sponsorship and donations and claiming input tax on the prizes you receive for competitions has been updated.

  2. Added translation

  3. Following consultation with external users, paragraphs 1.1, 1.2, 2.1, 2.2, 4.3 have been amended to provide clarity on the existing information, and a new section 5 has been added on crowdfunding.

  4. First published.