Canllawiau

Gwaharddiad fêps untro: gwybodaeth i fusnesau

Diffiniad o fêps untro a fêps a all gael eu hailddefnyddio, rheoleiddio a gorfodi a sut i ailgylchu fêps.

Mae’n anghyfreithlon i fusnesau werthu neu gyflenwi fêps untro. Mae hefyd yn anghyfreithlon cynnig gwerthu neu gyflenwi fêps untro, neu stocio fêps untro rydych chi’n bwriadu eu gwerthu neu eu cyflenwi. Mae fêps untro yn cael eu nabod hefyd fel fêps tafladwy.

Daeth y gwaharddiad i rym ar 1 Mehefin 2025 ac mae’n berthnasol i:

  • gwerthu ar-lein ac mewn siopau
  • pob fêp p’un a yw’n cynnwys nicotin ai peidio

Rhaid ichi drefnu ailgylchu unrhyw stoc dros ben o fêps. Gallwch barhau i werthu a chyflenwi fêps a all gael eu hailddefnyddio.

Darllenwch pam mae’r Deyrnas Unedig yn gwahardd fêps untro (yn saesneg).

I bwy mae’r gwaharddiad yn gymwys

Mae’r gwaharddiad yn gymwys i bob busnes a sefydliad sy’n gwerthu neu’n cyflenwi fêps untro yn y Deyrnas Unedig. Mae hyn yn cynnwys:

  • manwerthwyr – fel siopau cyfleuster, stondinau marchnad, gorsafoedd petrol, siopau fêps arbenigol ac archfarchnadoedd
  • gweithgynhyrchwyr
  • cyfanwerthwyr
  • mewnforwyr
  • lleoliadau gofal iechyd a gwasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu

Diffiniad o fêps untro a fêps a all gael eu hailddefnyddio

Nid yw fêps untro wedi’u cynllunio nac wedi’u bwriadu i gael eu hailddefnyddio. Mae fêp yn fêp untro naill ai:

  • os oes ganddo fatri na allwch ei ail-wefru, neu
  • os na all gael ei ail-lenwi

Er mwyn cael ei ailddefnyddio, rhaid i fêp fod â:

  • batri a all gael ei ailwefru
  • cynhwysydd a all gael ei ail-lenwi ac sy’n dal yr e-hylif fepio (fel siambr, capsiwl, cetris, pod neu danc)
  • coil a all gael ei dynnu a’i ddisodli (os yw’r fêp yn cynnwys coil)

Gofynion ail-lenwi ar gyfer fêps a all gael eu hailddefnyddio

Gall fêps a all gael eu hailddefnyddio gael eu hail-lenwi trwy naill ai:

  • llenwi’r tanc neu’r cetris ag e-hylif, neu
  • osod podiau newydd ynddyn nhw, wedi’u llenwi ymlaen llaw

Dylai ail-lenwadau (podiau neu boteli ail-lenwi e-hylif) fod ar gael ar wahân i ddefnyddwyr eu prynu.

Gofynion ynglŷn â’r coil ar gyfer fêps a all gael eu hailddefnyddio

Mae gan rai fêps a all gael eu hailddefnyddio goil (sy’n cynhyrchu gwres ac yn anweddu’r e-hylif). Os oes coil, rhaid iddo allu cael ei dynnu a’i ddisodli gan ddefnyddiwr y fêp.

Gall fêps a all gael eu hailddefnyddio fod â choiliau sydd naill ai:

  • yn gallu cael eu tynnu a’u disodli’n uniongyrchol, neu
  • wedi’u cynnwys mewn pod neu getris a all gael eu tynnu a’u disodli

Dylai’r coil (p’un a yw’n rhan o bod neu danc newydd neu beidio) fod ar gael ar wahân i’w brynu.

Os nad ydych chi’n siŵr bod fêp yn gallu cael ei ailddefnyddio

Chi sy’n gyfrifol am wirio bod y cynhyrchion rydych chi’n eu gwerthu neu’n eu cyflenwi yn gyfreithlon ac yn bodloni’r diffiniad o fêp a all gael ei ailddefnyddio.

Gwiriwch y diffiniadau o fêps untro a fêps a all gael eu hailddefnyddio yn gyntaf. Os ydych chi’n dal yn ansicr a yw fêp yn gallu cael ei ailddefnyddio, gallwch gysylltu â’ch adran Safonau Masnach leol (yn saesneg) i gael cyngor.

Darparu tystiolaeth yn ystod arolygiadau

Rhaid ichi helpu’r awdurdod gorfodi a darparu unrhyw wybodaeth neu dystiolaeth y maen nhw’n gofyn amdani yn ystod arolygiad.

Rhaid ichi allu:

  • darparu tystiolaeth bod y cynnyrch yn gyfreithlon ac yn gallu cael ei ailddefnyddio, a thystiolaeth o’r camau a gymerwyd gennych i wirio
  • dangos y gall defnyddwyr fêps brynu eitemau ail-lenwi unigol ar wahân ar gyfer yr eitemau fepio rydych chi’n eu stocio (gan gynnwys podiau neu boteli ail-lenwi e-hylif) – megis trwy ddarparu’r eitemau hyn yn eich siop neu’ch siop ar-lein.

Mae gennych chi hawl gyfreithiol i ofyn i swyddogion gorfodi a rheoleiddio am ddull adnabod (ID) ffotograffig ffurfiol. Mae hyn fel arfer yn cynnwys eu henw a’r awdurdod lleol a’r adran maen nhw’n gweithio iddyn nhw.

Rheoleiddio a gorfodi

Mae sut mae’r gwaharddiad yn cael ei orfodi yn amrywio rhwng pedair gwlad y Deyrnas Unedig ac mae’n benodol i ble mae’ch busnes yn gweithredu.

Cymru

Yr awdurdodau lleol yng Nghymru sy arwain ar orfodi’r gwaharddiad. Cysylltwch â’ch awdurdod lleol (yn saesneg) neu’ch gwasanaeth Safonau Masnach (yn saesneg):

  • os ydych chi’n amau bod rhywun yn cyflenwi fêps untro
  • os oes gennych chi gwestiynau ynghylch dilyn rheolau’r gwaharddiad neu sut mae’n cael ei orfodi

Caiff yr awdurdodau gorfodi gymhwyso sancsiynau sifil, megis:

  • dirwy benodedig o £200 neu ddirwy amrywiol o fwy na £200
  • hysbysiad adennill costau gorfodi
  • cosb diffyg cydymffurfio
  • hysbysiad stopio

Fel arall, gallech wynebu achos mewn llys ynadon neu yn Llys y Goron.

Gallech gael dirwy ddiderfyn a dedfryd o garchar o hyd at 6 mis:

  • os bydd llys ynadon yn dyfarnu eich bod chi’n euog o stocio, gwerthu neu gyflenwi fêps untro
  • os byddwch chi’n methu dilyn hysbysiad stopio

Gallech gael dedfryd o garchar o hyd at 2 flynedd a dirwy ddiderfyn os bydd Llys y Goron yn dyfarnu’ch bod chi’n euog o un o’r troseddau hyn.

Gall fod angen ichi dalu dirwy ddiderfyn os bydd llys ynadon yn dyfarnu eich bod chi’n euog:

  • o rwystro swyddog gorfodi
  • o fethu â dilyn ceisiadau swyddog gorfodi

Lloegr

Adran Safonau Masnach pob awdurdod lleol sy’n arwain ar orfodi’r gwaharddiad yn eu hardal. Cysylltwch â’ch gwasanaeth Safonau Masnach lleol (yn saesneg):

  • os ydych chi’n amau bod rhywun yn cyflenwi fêps untro
  • os oes gennych chi gwestiynau ynghylch dilyn rheolau’r gwaharddiad neu sut mae’n cael ei orfodi

Yn y lle cyntaf, bydd y Safonau Masnach yn cymhwyso sancsiynau sifil (cosbau nad ydyn nhw’n droseddol), er enghraifft:

  • hysbysiad stopio
  • hysbysiad cydymffurfio
  • dirwy o £200

Caiff y Safonau Masnachu atafaelu unrhyw fêps untro maen nhw’n dod o hyd iddyn nhw.

Os byddwch chi’n parhau i stocio, gwerthu neu gyflenwi fêps untro (neu’n cynnig gwneud hynny), fe allech chi gael:

  • dirwy ddiderfyn
  • dedfryd o garchar o hyd at 2 flynedd

Fe allech chi hefyd gael hysbysiad adennill costau ychwanegol. Mae hyn yn golygu bod rhaid ichi dalu’r costau a ysgwyddir gan y Safonau Masnach wrth ymchwilio i’ch trosedd, gan gynnwys costau ymchwilio, costau gweinyddol a chostau cyfreithiol.

Yr Alban

Yr awdurdodau lleol yn yr Alban sy arwain ar orfodi’r gwaharddiad. Maen nhw’n rhoi gwybod am achosion troseddol i Swyddfa’r Goron a Gwasanaeth y Procuraduron Ffisgal, sy’n gyfrifol am erlyn troseddau o dan y rheoliadau. Cysylltwch â’ch awdurdod lleol (yn saesneg) neu’ch gwasanaeth Safonau Masnach (yn saesneg):

  • os ydych chi’n amau bod rhywun yn cyflenwi fêps untro
  • os oes gennych chi gwestiynau ynghylch dilyn rheolau’r gwaharddiad neu sut mae’n cael ei orfodi

Caiff swyddogion gorfodi roi hysbysiad cosb benodedig yn hytrach nag erlyniad troseddol. Swm y gosb benodedig yw £200 am drosedd gyntaf. Mae hyn yn cael ei ostwng i £150 os caiff ei dalu o fewn 14 diwrnod.

Mae symiau’r cosbau penodedig a’r gostyngiadau yn wahanol i bobl sydd wedi cael camau gorfodi yn eu herbyn yn y 3 blynedd blaenorol. Mae’r symiau hyn wedi’u nodi yn Nhabl 1.

Tabl 1: Symiau cosbau penodedig a gostyngiadau ar gyfer gwahanol niferoedd o achosion gorfodi blaenorol

Nifer yr achosion gorfodi blaenorol Swm y gosb benodedig (£) Swm y gostyngiad (£)
Un 400 350
Dau 600 550
Tri 800 750

Gall person gael ei riportio i Swyddfa’r Goron a Gwasanaeth y Procuraduron Ffisgal i’w erlyn:

  • os nid yw’n derbyn y cynnig o hysbysiad cosb benodedig
  • os nad yw’r swyddog gorfodi o’r farn ei bod yn briodol rhoi hysbysiad cosb benodedig

Uchafswm y cosbau am droseddau yn yr Alban

Os cewch eich dyfarnu’n euog o stocio neu gyflenwi fêp untro (neu o gynnig gwneud hynny):

  • ar gollfarn ddiannod, byddwch yn agored i ddirwy o hyd at lefel 5 (£5,000 ar hyn o bryd) ar y raddfa safonol
  • ar gollfarn ar dditiad, byddwch yn agored i hyd at 2 flynedd yn y carchar neu ddirwy, neu’r ddau

Os byddwch yn methu cydymffurfio â gofyniad gorfodi heb esgus rhesymol, byddwch yn agored i ddirwy o hyd at lefel 5 (£5,000 ar hyn o bryd) ar y raddfa safonol.

Byddwch yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy o hyd at lefel 3 (£1,000 ar hyn o bryd) ar y raddfa safonol os byddwch chi:

  • yn methu â darparu’ch manylion adnabod i swyddog gorfodi
  • yn rhoi manylion adnabod ffug neu anghywir i swyddog gorfodi

Gogledd Iwerddon

Mae’r mecanwaith gorfodi yn wahanol yng Ngogledd Iwerddon i rannau eraill o’r Deyrnas Unedig. Does dim sancsiynau sifil ar gyfer y drosedd yma ac mae’r cosbau canlynol yn gymwys.

Os cewch eich dyfarnu’n euog o stocio neu gyflenwi fêps untro (neu o gynnig gwneud hynny), gallech gael dirwy o hyd at £5,000 ar gollfarn ddiannod mewn llys ynadon. Ar gollfarn arall am y drosedd yma yn Llys y Goron, fe allech chi wynebu dedfryd o garchar o hyd at 2 flynedd, dirwy, neu’r ddau.

Os byddwch chi’n methu darparu gwybodaeth y mae corff gorfodi yn gofyn amdani, fe allech gael dirwy o hyd at £5,000 ar gollfarn ddiannod mewn llys ynadon.

Ailgylchu fêps

Mae fêps yn eitemau trydanol, p’un a ydyn nhw’n fêps untro neu’n fêps a all gael eu hailddefnyddio. Mae hyn yn golygu eu bod yn dod o dan y Rheoliadau Cyfarpar Trydanol ac Electronig Gwastraff (WEEE).

Os ydych chi’n gwerthu fêps (yn ‘ddosbarthwr’), mae’n rhaid ichi gynnig gwasanaeth ‘derbyn yn ôl’. Mae hyn yn golygu bod rhaid ichi dderbyn fêps a rhannau o fêps (fel podiau, coiliau neu fatris wedi’u defnyddio) y mae cwsmeriaid yn eu dychwelyd i’w hailgylchu.

Mae hyn yn cynnwys unrhyw fêps untro sy’n cael eu dychwelyd gan gwsmeriaid ar ôl i’r gwaharddiad ddechrau ar 1 Mehefin 2025.

Caiff y Swyddfa Diogelwch a Safonau Cynnyrch gymryd camau yn eich erbyn os nad oes gennych ffordd i ailgylchu fêps a rhannau o fêps yn ddiogel.

Mae storio fêps yn anniogel neu eu gwaredu mewn modd amhriodol yn creu risg o dân. Dylai fêps gael eu gwaredu fêps mewn biniau fêps yn unig a dylen nhw gael eu casglu’n rheolaidd i’w hailgylchu.

Beth i’w wneud â stoc dros ben o fêps untro

Chewch chi ddim gwerthu na chyflenwi unrhyw fêps untro i gwsmeriaid o 1 Mehefin 2025 ymlaen. Rhaid ichi drefnu bod unrhyw stoc dros ben yn cael ei ailgylchu.

Os oes gennych wasanaethau biniau fêps, dylech ailgylchu fêps trwy’r cwmni sy’n eu darparu. Efallai y bydd angen ichi dalu ffi.

Rydych chi’n rhoi eich busnes mewn perygl o golled fasnachol a chamau gorfodi cyfreithiol os na fyddwch chi’n ailgylchu stociau o fêps untro yn gyfrifol erbyn 1 Mehefin 2025.

Os oes gennych unrhyw fêps untro dros ben, mae angen ichi:

  • eu gwahanu oddi wrth nwyddau eraill
  • eu labelu nhw fel rhai na chaniateir eu gwerthu
  • eu tynnu nhw oddi ar lawr eich siop neu’ch siop ar-lein nes eu bod yn cael eu casglu gan wasanaeth ailgylchu fêps cofrestredig

Cyfyngiadau eraill ar gynhyrchion fepio

Rhaid i fêps ar y farchnad ddilyn rheoliadau perthnasol eraill hefyd, megis:

  • Rheoliadau Dosbarthu, Labelu a Phecynnu Cemegau (2015)
  • Rheoliadau Tybaco a Chynhyrchion Cysylltiedig 2016 (TRPR)
  • rheoliadau gwastraff sy’n gymwys i gyfarpar trydanol a batris – mae hyn yn cynnwys Rheoliadau Batris a Chroniaduron (Rhoi ar y Farchnad) 2008 a’r ddeddfwriaeth gysylltiedig

Darllenwch ganllawiau ar y cyfyngiadau ychwanegol hyn ar gyfer:

Mae sawl un o asiantaethau’r llywodraeth yn cydweithio i reoleiddio a gorfodi’r rheoliadau ar fêps. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Llu’r Ffiniau
  • yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA)
  • y Swyddfa Diogelwch a Safonau Cynnyrch (OPSS)
  • Safonau Masnach

Adnoddau ar-lein

Canllawiau Asiantaeth yr Amgylchedd ar sut i waredu gwastraff busnes (yn saesneg)

Canllawiau’r MHRA ar reoliadau e-sigaréts (yn saesneg)

Chwilio rhestr yr MHRA o gynhyrchion a hysbyswyd (yn saesneg)

Poster WEEE yr OPSS i hysbysebu eich bod yn ailgylchu fêps, a thempled cadw cofnodion ar gyfer gweithredu cynllun ailgylchu (yn saesneg)

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 20 Ionawr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf ar 3 Gorffennaf 2025 show all updates
  1. Added a link to the WEEE regulations guidance for businesses and a video explaining vape retailers’ legal obligations under the WEEE takeback requirements to online resources section.

  2. We've updated this guidance to reflect that the ban is now in force. The Welsh language translation has been updated.

  3. We've simplified this guidance to make it easier to understand. There are no factual changes. The English language version has been updated and the Welsh language translation will follow.

  4. We have updated the 'If you get caught selling or supplying a single-use vape from 1 June 2025' section to reflect changes to Scottish and Welsh enforcement.

  5. Clarified that this guidance is for any business or organisation that supplies single-use vapes, as well as for any business that sells them.

  6. Clarified definition of a reusable vape.

  7. Added translation

Argraffu'r dudalen hon